Yn flynyddol (neu’n dymhorol sydd orau, efallai!), mae Cwpan Cymru yn cynnig cyffro a gobaith i gefnogwyr pêl-droed, a dydd Sadwrn diwethaf roedd myrdd o gemau rhagarweiniol yn dechrau’r daith i glybiau ym mhob cwr o Gymru!

Galwais draw ym Mharc Abertridwr i wylio Aber Valley yn erbyn Canton Rangers, gan gofio ymweliad y tîm cartref â Choedlan y Parc, Aberystwyth yn ail rownd y Gwpan yn nhymor 2021-20122.

Cyn cyrraedd maes Y Parc roedd cyfle i alw yn Senghennydd a chael myfyrio wrth Gofeb Genedlaethol y Glowyr, gafodd ei hagor ar Hydref 14, 2013 – canmlwyddiant Tanchwa Glofa’r Universal pan fu farw 439 o lowyr, yn ddynion a phlant, ac un o’r achubwyr.

Mae’r drychineb yn brawychu rhywun, ond yr un mor sobor yw’r cofebau yno i 152 o drychinebau glofaol Cymru, gan gynnwys cyflafan arall yn Senghennydd yn 1901, pan fu farw 81 o lowyr a hanner cant o geffylau.

Gweledigaeth y Clwb yw bod yn rhan annatod o’r gymuned, ac mae’r pwyllgor a’r chwaraewyr yn weithgar iawn yn rhedeg y Banc Bwyd lleol ac yn sicrhau hyfforddiant pêl-droed i gannoedd o blant.

Roedd Dai McLaren, ddaeth i fyw yma o gyffiniau Birmingham yn y 1970au, yn rhan allweddol o’r trefniadau, gan gynnwys dechrau’r plant yn ifanc gyda sesiynau i rai dan bum mlwydd oed.

Pan gyrhaeddais Barc Abertridwr, roedd yr hyfforddi yn digwydd, gyda rhieni ac ambell fam-gu a thad-cu yn gwylio a gwerthfawrogi – ond roedd gan Dai swydd arall, yr un mor gyfrifol, yn ystod 90 munud y gêm! Ef sydd wedi arbed cannoedd ar gannoedd o bunnau i’r clwb dros y blynyddoedd trwy fod yn gyfrifol am achub peli o Nant yr Aber gyda’i rwyd bysgota!

Roedd hi’n gêm eithriadol o agos, gyda’r blaenwr Martin Hodge yn sgorio gôl i’r ymwelwyr ar ôl pedair munud ar ddeg. Bu iddyn nhw gael ambell gyfle pellach i fynd ar y blaen, ond yr un gôl oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar yr hanner.

I mi, mae cael paned yn rhan annatod o’r profiad ffwtbol – a, diolch byth, mae gan Aber gaban sy’n cynnig diodydd, danteithion a chŵn poeth! Roedd yn gyfle i gael sgwrs gydag ambell un o’r selogion a gwerthfawrogi bod cymaint o dorf yno’n gwylio’r tîm – yn uchel eu cloch a llafar eu barn!

Trwy gydol yr ail hanner, roedd y tîm cartref yn gwthio’n gryf i gael gôl yn ôl, ond roedd amddiffyn Canton Rangers fel y graig! Gyda deg munud o’r gêm ar ôl, roedd yr ymwelwyr yn parhau ar y blaen ond yn cael eu gwthio’n ddyfnach byth tuag at eu gôl eu hunain.

Sgoriodd yr eilydd Gerwyn Edwards (81 munud) ac yna Owain Rhys Davies (84 munud) i Aber Valley, wrth iddyn nhw daflu pawb i fyny’r cae. Siom i Canton Rangers, ond perfformiad sy’n argoeli’n dda iawn ar gyfer gweddill y tymor i’r tîm o Dreganna.

Yn sicr, dyma ddau dîm y byddaf yn eu gwylio eto cyn diwedd y tymor.

Dymuniadau gorau i Aber Valley yn rownd nesaf Cwpan Cymru.

Bydd gemau’r Ail Rownd Ragbrofol yn cael eu cyhoeddi nos Fercher, Gorffennaf 31 am 8:00yh.