Bydd tîm pêl-droed Cymru’n dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno (nos Wener, Medi 6), wrth iddyn nhw groesawu Twrci i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw herio’i gilydd ers iddyn nhw fod yn yr un grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2024.
Er i Dwrci gymhwyso, fe wnaeth tîm Rob Page golli allan ar le yn y twrnament yn yr Almaen.
Cyrhaeddodd Twrci rownd yr wyth olaf cyn colli o 2-1 yn erbyn yr Iseldiroedd.
Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, collodd Cymru o 2-0 yn erbyn Twrci yn Samnsun cyn cael gêm gyfartal 1-1 yng Nghaerdydd.
Gemau’r gorffennol
Mae Cymru wedi ennill pedair gêm yn erbyn Twrci, ac wedi cael dwy gêm gyfartal allan o’u naw gêm yn erbyn ei gilydd.
Daeth eu cyfarfod diweddaraf yn Ewro 2024, wrth i Gymru sicrhau eu lle yn rownd 16 ola’r twrnament diolch i goliau Aaron Ramsey a Connor Roberts, gyda Chymru’n fuddugol o 2-0.
Doedden nhw ddim wedi chwarae yn erbyn ei gilydd cyn 1978, pan enillodd Cymru o 1-0 drwy gôl Nick Deacy.
Un o’r gemau mwyaf cofiadwy rhwng Cymru a Thwrci oedd honno yn 1997, pan enillodd Twrci gêm ragbrofol Cwpan y Byd o 6-4 yn Istanbul.
Ar ddiwrnod y gêm heddiw, Liam Cullen yw’r chwaraewr diweddaraf i dynnu’n ôl o’r garfan, gan ymuno â Rabbi Matondo a Dan James.
Rhifau'r garfan 🔢#TogetherStronger pic.twitter.com/uu6ckzMR9Z
— Wales 🏴 (@Cymru) September 6, 2024