Mae Dan James allan o gemau pêl-droed Cymru yn erbyn Twrci a Montenegro ag anaf i linyn y gâr.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan Daniel Farke, rheolwr ei glwb Leeds, cyn i Gymdeithas Bêl-droed gyhoeddi diweddariad carfan.

Daw hynny ar ôl iddo fe gael ei enwi yng ngharfan gynta’r rheolwr newydd Craig Bellamy.

Bydd Cymru’n herio Twrci yng Nghaerdydd ar Fedi 6, cyn teithio i Montenegro dridiau’n ddiweddarach ar Fedi 9.