Mae Erol Bulut, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn wynebu cyhuddiad o gamymddwyn yn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Swansea.com y penwythnos diwethaf.

Gwelodd Bulut gerdyn coch ar ôl iddi ymddangos fel pe bai wedi gwrthod dychwelyd y bêl o’r ystlys.

Fe wnaeth y digwyddiad achosi ffrwgwd yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau, wrth i’r gêm ddirwyn i ben yn gyfartal 1-1.

Mae’r Adar Gleision wedi apelio yn erbyn y cerdyn coch, ac felly bydd modd i Bulut aros ar yr ystlys ar gyfer y gêm yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn (Awst 31).

Mae gan Erol Bulut tan fory (dydd Gwener, Awst 30) i ymateb i’r cyhuddiad.