Bydd modd i gefnogwyr rasio ceir modur weld car F1 Ayrton Senna yn Sir Gaerfyrddin fis nesaf.
Daeth car McLaren MP4/4 pencampwr y byd F1 i Gylchffordd Pen-bre yn 1988, y flwyddyn gyntaf iddo ennill Pencampwriaeth F1 y Byd.
Bydd y car yn rhan o deyrnged i’r gŵr o Frasil gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ar y trac yn 1994, wrth i’r Ŵyl Campau Modur a Supercar ddod i Ben-bre ar Fedi 22 – union 31 o flynyddoedd ers iddo fe gwblhau’r cylch cyflymaf erioed yno.
Bydd y car arbennig yn cael ei arddangos yn ardal y garej, ochr yn ochr â cheir F1 a ralio eraill, gan gynnwys ceir Porsche, Lotus, Alpine, Ducati, Toyota a Darrian, a beiciau modur TT.
Y tu allan i’r trac, fe fydd amrywiaeth o arddangosfeydd tynnu tractors, treialon beicio, motocross trydan, a sioeau’n arddangos doniau gyrwyr.
Pen-bre a McLaren
Dywed Phil Davies, Rheolwr Cylchffordd Pen-bre, fod yr ŵyl yn falch o gael nawdd gan McLaren eleni.
“Mae Pen-bre wedi mwynhau perthynas waith hir gyda McLaren ers dros 35 mlynedd, ac mae’n dal i fod yn gryf hyd heddiw.
“Mae rhai o beirianwyr gwreiddiol Ayrton Senna yn dal i weithio ar y ceir treftadaeth hyfryd hyn pan fyddan nhw’n dod i lawr.
“Mae hi hefyd yn braf gweld McLaren ar y blaen unwaith eto gyda Lando [Norris] ac Oscar [Piastri], sydd hefyd wedi treulio oriau’n mireinio’u sgiliau ym Mhen-bre mewn profion ieuenctid.”
Record Ayrton Senna
Cafodd record Ayrton Senna ym Mhen-bre gryn dipyn o sylw yn 1988, y flwyddyn pan wnaeth Senna ac Alain Prost orffen yn gyntaf ac ail ym mhencampwriaeth F1 y byd.
Ond ychydig iawn o sylw gafodd ymweliad McLaren â Phen-bre bum mlynedd yn ddiweddarach, pan ddaeth y tîm i gynnal profion gyda’u McLaren MP4/8B ag injan Lamborghini V12.
Ar Fedi 22, 1993, aeth Senna o amgylch y trac mewn 40.60 eiliad – yr amser cyflymaf erioed ar y trac.
Cafodd y car fydd yn dod i Ben-bre fis nesaf ei adeiladu ar ôl i reolau newydd gael eu cyflwyno cyn tymor F1 1989, pan gafodd injanau turbo eu gwahardd.