Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai’r Cymro Louis Rees-Zammit ymuno â charfan hyfforddi’r Jacksonville Jaguars.

Daw hyn ar ôl i’r cyn-chwaraewr rygbi gael ei ryddhau o garfan hyfforddi’r Kansas City Chiefs, wrth iddyn nhw orfod cwtogi’r garfan o 90 i 53, er ei fod e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd gyda phencampwyr cynghrair bêl-droed Americanaidd yr NFL.

Cafodd e gynnig cytundeb ar ôl dod drwy’r Llwybr Chwaraewyr Rhyngwladol.

Gall pob tîm arwyddo un chwaraewr drwy’r Llwybr.

Chwaraeodd e dair gêm baratoadol i’r Chiefs cyn cael ei ryddhau a bod ar gael i dimau eraill, er bod disgwyl y byddai wedi aros gyda’r tîm i ddatblygu ei sgiliau ymhellach.

Does dim modd i chwaraewyr sy’n hyfforddi’n unig chwarae mewn gemau cystadleuol oni bai eu bod nhw’n cael eu dyrchafu i’r brif garfan.

Jaguars

Yn ôl ESPN, bydd Louis Rees-Zammit nawr yn troi ei olygon tuag at y Jacksonville Jaguars yn Fflorida.

Mae gan y tîm dipyn o gefnogaeth yng ngwledydd Prydain.

Byddan nhw’n chwarae ddwywaith yn Lloegr y tymor hwn – yn erbyn y Chicago Bears yn Stadiwm Tottenham Hotspur ar Hydref 13, ac yn erbyn y New England Patriots yn Wembley ar Hydref 20.