Mae tîm pêl-droed y Seintiau Newydd wedi llwyddo i gyrraedd un o gystadlaethau mawr Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Daw hyn ar ôl eu gêm gyfartal yn yr ail gymal yn erbyn FZ Panevėžys neithiwr (nos Iau, Awst 29).

Nhw ydy’r clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i chwarae yn y grwpiau, sy’n cael ei hadnabod bellach fel rownd y gynghrair.

Enillodd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru gymal cyntaf eu gêm ail gyfle yng Nghynghrair Cyngres UEFA o 3-0 yn Lithwania wythnos yn ôl, gyda Danny Davies, Ben Clark a Dan Williams yn canfod cefn y rhwyd.

Er bod ganddyn nhw fantais glir ar ôl y gêm yr wythnos ddiwethaf, wnaeth y Seintiau Newydd ddim llwyddo i sgorio, er gwaetha’r cyfleodd i Danny Davies ac Adrian Cieslewicz yn yr hanner cyntaf.

Fe greoedd yr ymwelwyr gyfleodd hefyd, ond wnaethon nhw ddim llwyddo i sgorio.

‘Carreg filltir’

Mae Mike Harris, cadeirydd y Seintiau Newydd, wedi disgrifio llwyddiant y clwb fel “moment bwysig, nid yn unig i’r Seintiau Newydd, ond i bêl-droed ledled Cymru wrth i ni gymhwyso i gynrychioli’r genedl ar un o lwyfannau mwyaf pêl-droed y byd”.

“Mae heno yn garreg filltir ac yn dipyn o gamp sydd â’r gallu i helpu’r gêm ar lawr gwlad a galluogi’r Seintiau Newydd i symud i’r lefel nesaf mewn sawl agwedd, gan gynnwys cyllid, enw da ac amlygrwydd pêl-droed Cymru,” meddai.

Disgynnodd y Seintiau Newydd i’r gystadleuaeth hon ar ôl colli yn erbyn pencampwyr Hwngari, Ferencvaros, yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac yna i Petrocub o Moldofa yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.