Bydd tîm pêl-droed y Seintiau Newydd yn herio Fiorentina yn Ewrop, ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi yn yr un grŵp ar gyfer Cynghrair Cyngres UEFA.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn yr Eidal yn ystod y gystadleuaeth ar ei newydd wedd.

Mae Fiorentina wedi colli yn rownd derfynol y twrnament ddau dymor yn olynol.

Bydd y Seintiau Newydd hefyd yn wynebu Shamrock Rovers yn Iwerddon a Celje yn Slofenia.

Bydd pencampwyr JD Cymru Premier yn croesawu Djurgarden o Sweden, Astana o Kazakhstan a Panathinaikos o Wlad Groeg.

Bydd trefn dyddiadau ac amseroedd y gemau’n cael eu cadarnhau fory (dydd Sadwrn, Awst 31), ond bydd y gemau’n cael eu cynnal ar Hydref 3 a 24, Tachwedd 7 a 28, a Rhagfyr 12 a 19.

Ar ddiwedd y chwe gêm, bydd yr wyth tîm ar y brig yn cael pàs i rownd yr 16 olaf, tra bydd timau 19-24 yn gorfod chwarae gêm ail gyfle a thimau 9-16 yn mynd ar restr ddetholion.

Bydd timau 25-36 yn gadael y gystadleuaeth.