Hayden Paddon a John Kennard enillodd Rali Ceredigion dros y penwythnos, a hynny am yr ail waith.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru groesawu’r Bencampwriaeth Ralio Ewropeaidd ers 1996.

Fe fu mwy na 130 o gystadleuwyr o 14 o wledydd yn cymryd rhan.

Enillodd Paddon bob cymal ond un o’r deg cymal cyntaf fel bod ganddo fe flaenoriaeth o funud, ac roedd hynny’n golygu mai cynnal y flaenoriaeth oedd ei nod ddoe (dydd Sul, Medi 1) yn hytrach na gorfod mynd amdani.

Roedd ganddo fe a’i gyd-yrrwr fantais o funud a 47.3 eiliad yn y pen draw.

Yr unig her iddo, serch hynny, oedd y tywydd yn ystod cymalau Bethania a Hafod, oedd wedi dod â ras nifer o yrwyr i ben, gan gynnwys Keith Cronin.

Ond manteisiodd Mathieu Franceschi ac Andy Malfoy wrth godi i’r ail safle, cyn iddyn nhw golli’r safle hwnnw i Andrea Mabellini a Virginia Lenzi o 3.5 eiliad.

Fe wnaeth y Cymro Osian Pryce orffen yn seithfed tu ôl i Callum Devine.

Roedd Cymro arall, Meirion Evans, yn nawfed.

Ar ôl y ras, mae Elfyn Evans yn dweud y gallai Rali Ceredigion fod yn un o rasys Pencampwriaeth Ralio’r Byd yn y dyfodol.