Mae Rabbi Matondo allan o garfan bêl-droed Cymru oherwydd anaf i linyn y gâr.

Bu’n rhaid iddo fe adael y cae wrth chwarae i Rangers yn erbyn Celtic dros y penwythnos.

Mae Charlie Crew o Leeds wedi’i alw i’r garfan yn ei le.

Dydy Crew, sy’n ddeunaw oed, ddim wedi chwarae i’w glwb eto er ei fod e wedi ennill cap dros Gymru yn y gêm yn erbyn Gibraltar fis Mehefin eleni.

Bydd tîm Craig Bellamy, fydd wrth y llyw am y tro cyntaf, yn herio Twrci nos Wener (Medi 6) a Montenegro (Medi 9) yng Nghynghrair y Cenhedloedd.