Brendon McCullum, cyn-chwaraewr tramor Clwb Criced Morgannwg, yw prif hyfforddwr newydd Lloegr mewn gemau undydd.

Bydd y gŵr o Seland Newydd, oedd wedi chwarae i Forgannwg yn 2006, yn cyfuno’i swydd newydd gyda’i rôl bresennol yn brif hyfforddwr ar dîm Lloegr mewn gemau prawf.

Bydd yn olynu Matthew Mott, oedd yn brif hyfforddwr Morgannwg rhwng 2011 a 2013 ac oedd wedi ymddiswyddo o’i rôl gyda Lloegr ar ôl Cwpan T20 y Byd haf yma.

Bydd McCullum yn dechrau cyfuno’r ddwy swydd o fis Ionawr nesaf, a hynny ar ôl gweddnewid perfformiadau a chanlyniadau Lloegr mewn gemau prawf.

Bydd ei gytundeb newydd yn dod i ben yn 2027.

Bydd Marcus Trescothick, cyn-fatiwr agoriadol Lloegr a Gwlad yr Haf, yn parhau yn y swydd dros dro ar gyfer y gyfres yn erbyn Awstralia wrth iddyn nhw ymweld â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd, ac ar gyfer y gyfres yn erbyn India’r Gorllewin yn y Caribî ddiwedd y flwyddyn.

Bydd McCullum wrth y llyw ar gyfer Tlws y Pencampwyr ym Mhacistan ym mis Chwefror.

Mae e wedi dod yn adnabyddus am ei ddull unigryw o griced sy’n cael ei alw’n ‘BazBall’, gan dynnu ar ei ffugenw.

Mae Lloegr wedi ennill 19 allan o 28 o gemau prawf o dan ei arweinyddiaeth, ac maen nhw wedi cynyddu eu cyfradd sgorio o 3.09 y belawd i 4.57 y belawd – sy’n debycach i gyfradd sgorio mewn gemau undydd.

Enillodd Lloegr Gwpan y Byd yn 2019 yn dilyn ymgyrch siomedig bedair blynedd ynghynt, ond mae nifer o chwaraewyr yn tynnu tua diwedd eu gyrfaoedd bellach.

Enillodd Lloegr Gwpan T20 y Byd o dan arweinyddiaeth Matthew Mott, ond cawson nhw ymgyrch siomedig yn y gystadleuaeth 50 pelawd cyn colli eu coron ugain pelawd.