Mae cyllid o £500,000 wedi’i ddyfarnu i 13 o brosiectau sy’n cefnogi creu 16 o Goetiroedd Bach newydd ledled Cymru.

Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i ymgeiswyr fesul safle, gydag uchafswm o £250,000 ar gyfer safleoedd lluosog mewn un cais.

Roedd modd i sefydliadau, cymunedau ac unigolion oedd eisiau creu coetiroedd bach newydd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol wneud cais am y grant.

Ar ôl y ddwy flynedd gyntaf, mae gan Goetiroedd Bach ofynion rheoli a chynnal a chadw isel.

Mae’r cyllid wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei weinyddu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mynediad at fyd natur a mannau gwyrdd

Dywed Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru, ei fod yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd o gyllid i greu mwy o ardaloedd gwyrdd ledled Cymru.

“Yn ddiweddar, ymwelais â Choetir Bach yn Llangors ac mae’n enghraifft wych o sut mae’r safleoedd hyn yn galluogi cymunedau i gael mynediad at fyd natur a mannau gwyrdd yn ogystal â chyflwyno bioamrywiaeth gyfoethog i ardaloedd trefol,” meddai.

“Mae’r coetiroedd bach hyn sydd wedi’u gosod yn glòs wrth ei gilydd yn tyfu’n gyflym, a gallant ddenu mwy na 500 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yn eu tair blynedd gyntaf.”

Mae’r Grant Coetiroedd Bach yn cefnogi creu coetiroedd bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025.

Mae hyn yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru ac wedyn, ar ôl eu cwblhau, bydd pob safle yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn awtomatig.