Mewn siop goffi ar City Road, Caerdydd, gellid eistedd a mwynhau cwpanaid o goffi Arabaidd go iawn – coffi purddu, persawrus sydd yn donic i berson. Yn y siop goffi hon, diolch byth, nid oes sôn am Skinny Latte a Decaf Cappuccino a ryw bethau tebyg! Nid rhywbeth i’w lyncu’n gyflym mo coffi Arabaidd, fel espresso yr Eidalwr, ond coffi i’w fwynhau gan iddo gael ei baratoi o ddifri â gofal mawr.

Dros gwpanaid achlysurol o goffi Arabaidd, mi ddois yn ddiweddar, yn gwbl anffurfiol, i adnabod cwmni o bobol dra gwahanol i mi. Llesol yw’r gwmnïaeth, ac mae’r sgyrsiau rhain yn donic enaid. Tri neu bedwar ydym bob tro. Mwslimiaid a finnau. Ymhlith Cymry Cymraeg, mae’r ffaith fod dyn yn weinidog yr Efengyl yn ddigon i roi taw ar bob sgwrs, bron iawn; ond cyfaddefiad swil o’r ffaith honno agorodd gil y drws i gwmnïaeth iachus a sgyrsiau addysgiadol gyda’r Mwslimiaid hyn!

Diben y golofn hon heddiw yw rhannu ychydig ar y profiad. Awgrymwyd i ddechrau, yn gwrtais iawn, fod llawer yn gyffredin rhwng Cristnogaeth ac Islam, a phawb yn mwmial eu cytundeb, ond ychwanegwyd yn sydyn mai’r prif wahaniaeth rhyngom oedd ein deall o Iesu… “Edrychwn ni arno fel proffwyd, ond siaradwch chi amdano fel Mab Duw.” O sgwrs o sgwrs, magwyd hyder i ddatgan bod y ddwy grefydd yn gwahaniaethu mewn llawer o bethau eraill ar wahân i’n deall o Iesu.

Iesu, Mab Duw, y Drindod a’r Groes

Anodd crynhoi sawl sgwrs i un pwt bach ysgrifenedig fel hyn, ond fe ellid gwneud yn lled effeithiol wrth ganolbwyntio ar dri pheth sydd yn berthnasol i ni, sef:

  • Iesu, Mab Duw
  • y Drindod
  • y Groes

Maddeued Duw i chi Gristnogion,” meddai un, “am ddysgu fod gan Dduw blentyn.” Roedd y syniad iddo, mae’n amlwg ddigon, yn anfri ar y Goruchaf Dduw. “Serch hynny,” meddai un arall, “mae’n amlwg o’r Qur’an i Muhammad gredu bod geni Iesu yn oruwchnaturiol.” Wedi cyrraedd adre’, mi ddois o hyd i’r cyfeiriad (maddeued y Saesneg!).

She (Mair) said: Lord, how can I have a child when I have not been touched by any man? Allah said: Thus Allah creates whatever he pleases. When He decrees a matter, He simply says to it ‘Be’, and it comes to be.

(Sura 3:45; The Qur’an – A Modern English Translation, Cyf. Majid Fakhry)

Efallai, meddai’r cyntaf mewn ymateb, ond nid oes byth sôn am Iesu fel mab Duw yn y Qur’an. Sonnir amdano bob amser fel Mab Mair.” Fy nghyfraniad innau oedd sôn am Iesu fel Duw yma gyda ni yn y fan lle’r ydym, yn rhan o’n sefyllfa yn hyn o fyd, ac ar waith ynddo.

Yn waelodol i Islam mae’r syniad o Tawheed – undod. Mae’r syniad o’r Un yn Dri a’r Tri yn Un yn annerbyniol iddyn nhw – os nad yn gableddus. “Na ddywedwch am Dduw yr hyn nad yw’n wir,” meddai un o’r cwmni. Tri Duw, wir! Maen nhw’n gwasgu’n galed ar y pwynt hwn, a braf oedd cael gwasgu’n ôl. Nid argyhoeddiad yw’r pennaf rwystr i drafodaeth fuddiol rhwng deiliad y gwahanol grefyddau a’i gilydd, ond ein hanwybodaeth affwysol o ddiwinyddiaeth ein gilydd.

Tra diddorol yw dehongliad y Qur’an o farw Iesu Grist. “Credwn ni na fu i Iesu farw yn hollol!” meddai un. Wrth dynnu ychydig am ystyr yr ‘yn hollol’ hwnnw, mi ddois i ddeall bod y Qur’an yn sôn am sut y cafodd bwriad awdurdodau crefyddol y cyfnod i ladd Iesu, gan wneud i Jwdas i ymddangos yn debyg i Iesu, ei rwystro. Cafodd hwnnw, ac nid Iesu, ei ddal a’i groeshoelio. Cymerwyd Iesu i fyny i’r nefoedd gan Dduw, yn gwbl ddianaf.

And their Saying: “We have killed the Messiah, Jesus, son of Mary and the apostle Allah.” They neither killed nor crucified him; but it was made to appear so unto them. Indeed, those who differ about him are in doubt about it. Their knowledge does not go beyond conjecture, and they did not kill him for certain; rather Allah raised him unto Him. Allah is Mighty, and Wise.

(Sura 4:155)

Wrth siarad, fe ddaeth yn amlwg mor bwysig iddyn nhw fod Iesu, fel proffwyd Mwslimaidd, yn cael ei arbed rhag anfri’r croeshoeliad. Cwbl wahanol yw’n deall ninnau fel Cristnogion:

Er Ei fod Ef erioed ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd Ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tradyrchafodd Duw Ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw.

(Philipiaid 2:6-9)

Ceisia’r Mwslim led anrhydeddu Iesu drwy Ei arbed rhag y groes, tra bod y Cristion yn addoli Iesu yn union oherwydd Ei barodrwydd i fod un ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.

Braf yw paned a sgwrs – buddiol yw trafod, dadlau a dysgu. Credaf fod gennym lawer iawn i ddysgu o drafodaeth frwd ac agored – nid dim ond am eraill, ond amdanom ein hunain a’r ffydd sydd mor annwyl gennym.