Mae hwb bancio cyntaf Cymru wedi agor ym Mhrestatyn, gyda’r bwriad o hwyluso bancio wyneb i wyneb.

Mae hwn yn cael ei ystyried yn gam ymlaen ar gyfer y rheiny sy’n ddibynnol ar arian parod, yn dilyn colli cyfres o fanciau ar y stryd fawr dros y blynyddoedd diwethaf.

Er mai dim ond yr hwb bancio ym Mhrestatyn sydd wedi agor hyd yma, mae disgwyl y bydd hybiau tebyg yn agor yn y Trallwng, Treforys, Abergele, Abertyleri, Rhisga, Porthcawl a Threorci.

Mae Prestatyn wedi bod heb fanc ar y stryd fawr ers i’r un olaf gau yn fuan ar ôl y pandemig.

Bydd yr hwb bancio newydd, sydd wedi’i leoli yn hen gangen HSBC, yn cael ei redeg rhwng 9yb a 5yp gan Swyddfa’r Post.

Mae’r gwasanaeth, sydd wedi’i drefnu gan Cash Access UK, yn galluogi cwsmeriaid prif fanciau gwledydd Prydain i godi a chadw arian parod, a bydd aelod o staff ar gael yno i gynorthwyo cwsmeriaid.

Maen amcangyfrif fod tua phump i chwe miliwn o bobol yn dibynnu ar arian parod bob dydd yng ngwledydd Prydain.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Brestatyn,” medd Gareth Oakley, pennaeth y gangen.

“Rydym yn falch iawn o agor Hwb Bancio cyntaf Cymru.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau a thrigolion lleol.”

Banciau stryd fawr yn cau

Gyda mwy a mwy o ganghennau’n cau dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwleidyddion a thrigolion ledled Cymru wedi bod yn mynegi eu pryderon.

Yn eu plith mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Annibynnol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Yn anffodus, beth rydyn ni wedi bod yn weld dros y blynyddoedd diwethaf yw bod banciau wedi bod yn tynnu eu gwasanaethau allan o’n cymunedau ni,” meddai wrth golwg360.

“Dim ond un banc sydd gen i ar ôl yn yr etholaeth gyfan, ac rydych chi’n sôn am ardal ryfeddol o fawr.

“Roedd y chwalfa ariannol enfawr gyda ni yn 2008, a’r trethdalwyr wnaeth achub y system bancio bryd hynny a chadw’r holl system ar ei draed.”

Heriau

Er ei fod yn cydnabod bod y byd bancio yn newid a’n bod yn symud tuag at gymdeithas heb arian parod, dywed fod y symudiad at wasanaethau digidol yn codi heriau o fewn cymunedau.

“Cymerwch fy mam i, er enghraifft; does dim internet banking na dim byd gyda hi, mae hi’n gwneud popeth dros y ffôn,” meddai.

Daeth ei sylwadau’n dilyn y newyddion fod HSBC yn gwneud newidiadau i’r gwasanaeth Cymraeg.

Ychwanega fod “dyletswydd” gan gwmnïau bancio i sicrhau gwasanaeth dwyieithog.

“Dw i’n meddwl bod cyfrifoldeb ar unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru i ddarparu hynny yn y Gymraeg,” meddai.

“Mae’n rhan o’r contract i fusnesau sydd mo’yn gweithredu yng Nghymru bod y gwasanaeth yna ar gael yn y ddwy iaith.”