Mae digwyddiadau Gwyddeleg yn cael eu cynnal ym mhob swydd yn Iwerddon heddiw (Mawrth 13).

Fel rhan o ŵyl Wyddeleg fwyaf y byd, Seachtain na Gaeilge le Energia, mae cynllun Lá na gCiorcal yn golygu bod grwpiau ledled y wlad yn cymryd rhan.

Mae’r grwpiau hynny’n rhoi cyfleoedd i bobol ddefnyddio’r iaith mewn digwyddiadau yn eu cymuned.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal nes Mawrth 17, ac mae digwyddiadau Gwyddeleg yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Iwerddon a thros y byd.

‘Datblygu cariad at yr iaith’

Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 1902, a chaiff ei threfnu gan grŵp iaith Conradh na Gaeilge.

“Cafodd Lá na gCiorcal ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd er mwyn amlygu’r digwyddiadau gwych mae grwpiau cymunedol yn eu trefnu ledled y wlad drwy gydol y flwyddyn,” meddai Conchubhair Mac Lochlainn, Cadeirydd Seachtain na Gaeilge le Energia.

“Eleni, rydyn ni wrth ein boddau yn partneru â Down Syndrom Ireland ac yn edrych ymlaen at groesawu pobol i ddigwyddiadau yn eu cymunedau.”

Dywed Down Syndrome Ireland eu bod nhw wrth eu boddau i fod ynghlwm â’r ŵyl am y tro cyntaf.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Conradh na Gaeilge am eu cefnogaeth i gydweithio i sefydlu ein Ciorcal Cómhrá (grŵp sgwrsio Gwyddeleg) cyntaf un, ac yn edrych ymlaen at greu mwy o gyfleoedd i’n haelodau fynegi a datblygu eu cariad tuag at yr iaith Wyddeleg,” meddai Elizabeth Fox, Swyddog Addysg Oedolion Down Syndrome Ireland.