Mae llong fu ar goll ers dros gan mlynedd wedi cael ei darganfod oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.
Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor sydd wedi dod o hyd i weddillion y llong gargo o wledydd Prydain, aeth ar goll ar ôl cael ei tharo gan dorpido o un o longau tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae union leoliad SS Hartdale wedi bod yn ddirgelwch ers i’r U-27 ymosod arni ym Môr Iwerddon ar Fawrth 13, 1915.
Ond mae ei gweddillion bellach wedi’u darganfod 80 metr o dan y dŵr ddeuddeng milltir oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.
Cafodd y llong ei hadeiladu yn 1910, ac roedd hi’n cludo glo o’r Alban i’r Aifft pan suddodd hi.
Collodd dau o’r criw eu bywydau wrth i’r llong suddo, ac fe wnaeth yr ymchwilwyr ddefnyddio dyddiadur rhyfel swyddogol yr U-27 ac adroddiadau goroeswyr i geisio’i darganfod.
‘Un o blith miloedd o longau’
Fe wnaeth prosiect Unpath’d Water hefyd ddefnyddio data sonar aml-belydr o safleoedd llongddrylliadau Môr Iwerddon i’w darganfod.
“Mae cysylltu data gwyddonol â chofnodion morwrol amrywiol ond llawn gwybodaeth wedi ein galluogi i adnabod llongddrylliad na wyddem amdano cyn hyn, i greu naratif cynhwysfawr a manwl sy’n canolbwyntio ar y llong fel yr oedd ac i wella ein dealltwriaeth o archaeoleg forwrol y Deyrnas Unedig,” meddai Dr Michael Roberts o Brifysgol Bangor, oedd yn arwain y tîm.
“Dim ond un yw hon o blith y miloedd lawer o longau masnach y gwyddom eu bod wedi’u suddo yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, ac sy’n parhau i fod wedi’u rhestru fel llongau coll neu sydd wedi’u hadnabod yn anghywir oherwydd diffyg data o ansawdd uchel.
“Yn sicr, mae gennym bellach y gallu a’r dechnoleg i allu unioni’r cam hwnnw sydd wedi cael ei anwybyddu’n rhy hir.”
‘Datgloi straeon anghofiedig’
Mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Historic England a’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn galluogi gwyddonwyr a haneswyr i gyfuno data morol â chofnodion morwrol mewn ffyrdd newydd, er mwyn gallu adnabod llongddrylliadau yn y môr.
“Dyma enghraifft wych o’r potensial enfawr sy’n aros i gael ei ryddhau trwy greu casgliad cenedlaethol sy’n rhyng-gysylltiedig, yn hygyrch ac yn gynaliadwy o gasgliadau a chofnodion diwylliannol a threftadaeth archifdai ac amgueddfeydd y Deyrnas Unedig,” meddai Barry Sloane, Prif Ymchwilydd Unpath’d Waters yn Historic England.
“Mae hyn yn cynnig y cyfle i ni ddatgloi straeon anghofiedig a rhyddhau arloesedd gwyddonol.”