Mae sefyllfa perchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru’n “ddigyffelyb” yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig gyfan, yn ôl Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Daw hyn wrth iddi gyhoeddi datganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â materion sy’n cael eu hachosi gan berchnogaeth ail gartrefi.

Mae mynd i’r afael â’r nifer fawr o ail gartrefi a llety gosod tymor byr mewn llawer o gymunedau yn un o’r ymrwymiadau sydd wedi’u hamlinellu yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, cafodd cyfres gynhwysfawr o fesurau eu gweithredu i helpu i reoli niferoedd ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn y dyfodol.

Premiwm treth gyngor

Fis Ebrill diwethaf, cafodd awdurdodau lleol y pwerau i gyflwyno premiymau treth gyngor dewisol uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor – hyd at 300%.

O fis Ebrill eleni, bydd deunaw awdurdod yn gosod premiymau ar un neu’r ddau o’r mathau hyn o eiddo.

Mae nifer o awdurdodau lleol hefyd wedi nodi eu bod nhw’n bwriadu cynyddu’r ganran sy’n cael ei chodi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros gyfnod o dair blynedd, hyd at yr uchafswm newydd, yn enwedig ar gyfer eiddo gwag tymor hir.

Mae cefnogaeth hefyd wedi’i rhoi ar waith ar gyfer perchnogion tai sy’n ei chael hi’n anodd.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r her o ran dod o hyd i eiddo fforddiadwy, ond hefyd o allu fforddio aros yn yr eiddo hwnnw,” meddai Julie James yn y Senedd.

“Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, fe wnaethom ystyried bylchau yn y farchnad forgeisi a’n cefnogaeth bresennol ar gyfer perchenogaeth cartrefi.

“Bydd y gwaith hwn yn helpu pob rhan o Gymru i ddeall yn well y goblygiadau a’r prosesau sy’n gysylltiedig â datblygu’r gwaith arloesol hwn.”

Blaenoriaethau

Blaenoriaeth uniongyrchol oedd ystyried bwlch yn y farchnad i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio taliadau morgais, ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref oherwydd yr argyfwng costau byw.

Yn y cyd-destun hwnnw, cafodd y cynllun Cymorth i Aros Cymru ei ddatblygu a’i lansio fis Tachwedd y llynedd, gyda hyd at £40m ar gael dros ddwy flynedd i helpu i gadw pobol a theuluoedd yn eu cartrefi.

Y llynedd, cafodd y cynllun Grant Cartrefi Gwag gwerth £50m ei gyflwyno hefyd, gan helpu i ailddefnyddio hyd at 2,000 o gartrefi gwag hirdymor.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ddiogelu’r gyllideb o £25m ar gyfer 2024/25, ac fe wnaethon nhw ohirio £19m o gyllideb 2023-24 hyd at 2025-26 i wneud y mwyaf o effaith y cynllun.

Rhoddodd y Gweinidog hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig Prynu Cartref wedi’i deilwra, gan weithio gyda Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin fel rhan o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor.

Mae’r cynllun Prynu Cartref yn y peilot eisoes yn llwyddiannus, gyda pherchentyaeth eisoes wedi dod yn realiti i 13 teulu.

Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar yr un tŷ gafodd ei gwblhau arno yn ystod y pum mlynedd cyn cyflwyno’r peilot.

Mae’r peilot hefyd yn cefnogi capasiti tai dan arweiniad y gymuned, ac yn gweithio gyda grwpiau presennol, yn ogystal ag annog grwpiau newydd i ffurfio.

Helpu pobol i fyw yn eu cymunedau lleol

“Drwy’r Cytundeb Cydweithio rydym yn gweithredu er mwyn helpu pobol i fyw yn eu cymunedau lleol, yn mynd i’r afael â’r nifer fawr o ail gartrefi ac eiddo gosod tymor byr,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru.

“Rhaid mynd i’r afael â thai nad oes modd eu fforddio os yw pawb am allu byw a gweithio yn y cymunedau lle gwnaethon nhw dyfu i fyny.

“Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth, o bwerau newydd ar faint o dreth gyngor y gellir ei chodi ar ail gartrefi, i newidiadau i’r system gynllunio.

“Byddwn yn parhau i gydweithio er mwyn mynd i’r amlwg â phroblem sy’n amlwg ledled Cymru.”

Newidiadau i’r fframwaith cynllunio

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau arloesol i’r fframwaith cynllunio.

Yr haf diwethaf, ymgynghorodd Cyngor Gwynedd yn fras ar gyfarwyddyd arfaethedig, fyddai’n golygu y byddai angen caniatâd cynllunio ar y rhai sy’n dymuno newid eiddo preswyl, naill ai i ail gartref neu lety gosod tymor byr yn y dyfodol.

Daeth dros 4,000 o ymatebion, a byddan nhw nawr yn cael eu dadansoddi i ddatblygu Adroddiad Ymgynghori.

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i rannu dysgu parhaus drwy gydol y broses hon.

Bydd Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ymgynghori ar y cyfarwyddyd hwn o fis Mai.

’25 mlynedd o fethiant’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r datganiad, gan gyhuddo’r Llywodraeth o achosi’r argyfwng tai drwy eu “25 mlynedd o fethiant”.

“Mae’r argyfwng tai yng Nghymru o ganlyniad i 25 mlynedd o fethiant gan Lafur,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r blaid.

“Mae angen to uwch eu pennau ar bobol, ond dydy dulliau presennol Llafur jest ddim yn helpu’r sefyllfa.

“Mae Llafur yn parhau i elyniaethu perchnogion ail gartrefi sy’n darparu stoc dai i’r farchnad rentu, tai cymdeithasol a llety hanfodol i dwristiaid sy’n rhoi hwb i economi Cymru.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn adeiladu’r tai mae Llafur yn methu â’u hadeiladu, yn ailbwrpasu tai gwag, ac yn sicrhau y gall pawb wireddu’r freuddwyd o fod â tho uwch eu pennau.”