Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn £725,000 ac Amgueddfa Cymru’n derbyn £940,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Medi 5) eu bod nhw’n darparu £5m i gefnogi ac amddiffyn cyrff diwylliannol a chwaraeon, a Cadw.

Dywed fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol sy’n wynebu sefydliadau diwylliannol a chwaraeon.

Ynghyd â’r arian i Lyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n derbyn £1.5m a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru’n derbyn £90,000.

Bydd Cadw, y corff sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol Cymru, hefyd yn derbyn £745,000 i “ddiogelu ei gynaliadwyedd ariannol”, a Chwaraeon Cymru’n cael £1m.

Ddechrau’r flwyddyn, daeth y newyddion bod y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru yn wynebu toriad o 10.5% i’w cyllid – toriad o £3m i’r Amgueddfa, a £1.3m i’r Llyfrgell.

‘Cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd’

Mae’r arian, sy’n dod o gronfeydd wrth gefn y Llywodraeth, yn ychwanegol i’r £3.2m gafodd ei gyhoeddi fis Gorffennaf i wneud gwaith atgyweirio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’r Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae’r sefydliadau hyn yn allweddol ar gyfer cyflawni nifer o’n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, ac maen nhw’n chwarae rôl sylfaenol o ran hyrwyddo lles meddyliol ac iechyd corfforol da, ac yn dod â chymunedau ynghyd,” meddai Jane Hutt.

“Does dim dwywaith am yr effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael ar bobol ledled Cymru.

“Rydym yn llwyr gydnabod fod hwn yn gyfnod ariannol anodd i’n sefydliadau celfyddydol a chwaraeon hyd braich yn ogystal ag i Cadw, a gwyddom na fydd y cyllid hwn yn mynd i’r afael â’r holl faterion mae’r sefydliadau hyn yn eu hwynebu.

“Fodd bynnag, bydd y cymorth hwn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd ariannol pellach ac yn eu gwneud yn fwy gwydn.”

‘Helpu i ddiogelu swyddi’

Wrth groesawu’r arian, dywed Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, eu bod nhw’n ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru’n “parhau i ddangos eu cefnogaeth” i’r Llyfrgell.

“Mae’n bwysig sicrhau bod gan staff yn y Canolbarth delerau cyflogaeth teg, a bydd y cyfraniad tuag at y diffyg yn y Cynllun Pensiwn yn helpu i ddiogelu swyddi,” meddai.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar bod yr heriau sy’n codi o gynnal casgliad digidol cenedlaethol yn cael eu cydnabod, yn enwedig yn dilyn yr ymosodiad seiber diweddar ar y Llyfrgell Brydeinig.

“Bydd y £225,000 yn mynd tuag at seilwaith sy’n diogelu’r casgliadau digidol yn y tymor hir ac yn sicrhau mynediad atynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

‘Amgylchiadau ariannol hynod heriol’

Ychwanega Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, y bydd y cymorth ariannol yn eu galluogi i fuddsoddi mewn rhaglenni gwaith penodol, fydd yn gosod y sylfaen i greu dyfodol cynaliadwy i’r Amgueddfa.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gweithio o dan amgylchiadau ariannol hynod heriol.”

‘Croeso mawr’

Dywed Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, eu bod nhw’n falch bod y llywodraeth “wedi cydnabod y pwysau ariannol parhaus” ar y sector.

“Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn rhoi cyfle i ni gynorthwyo llawer o sefydliadau sy’n ei chael hi’n anodd yn yr hinsawdd economaidd bresennol,” meddai.

“Bydd croeso mawr i’r newyddion hyn.”

Dywed Christopher Catling, Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y bydd yr arian yn eu galluogi nhw i ddigideiddio’r archifau sy’n cael eu defnyddio amlaf.

“Bydd hefyd yn helpu i gefnogi ein gwasanaeth ymholiadau prysur, ac rydym yn ddiolchgar iawn amdano,” meddai.

Dywed Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, eu bod nhw’n croesawu’r cyllid ychwanegol “yn fawr”.

“Byddwn yn ei ddyrannu i’r partneriaid hynny gafodd doriad yn y gyllideb yn gynharach eleni, a bydd yn eu helpu i ddelio â rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu,” meddai.

‘Angen mwy o gefnogaeth yn hwyr neu’n hwyrach’

Tra ei bod hi’n “dda gweld Llywodraeth Cymru’n rhoi eu dwylo i fyny ac yn derbyn bod eu toriadau cyllid i’n sector diwylliannol yn rhy hallt”, fydd yr arian yma “ddim yn cael y sefydliadau hyn allan o drafferth”, yn ôl llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd angen rhagor o gefnogaeth er mwyn gwarchod ein treftadaeth,” meddai Tom Giffard.

“Mae gennym ni ddyletswydd i genedlaethau’r dyfodol i warchod y sefydliadau hyn a’u hasedau.”