Mae “hwb bancio” newydd yn Rhisga gam yn nes ar ôl i gynlluniau ar gyfer y cyfleuster gael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd yn disodli hen gangen Barclays ar Stryd Tredegar, gaeodd ei drysau ym mis Mai ac sydd yn wag ar hyn o bryd.

Mae’r ymgeisydd, Cash Access UK Ltd, yn bwriadu cynnig gwasanaeth ar y cyd yn y ganolfan, fydd yn gweld gwahanol gwmnïau bancio’n cael cartref yno ar wahanol adegau.

Bydd cownter Swyddfa’r Post yn cynnig gwasanaethau bancio sylfaenol megis talu arian parod a sieciau i mewn, tynnu arian allan, ymholiadau ynghylch arian mewn cyfrifon, talu biliau ynni, a rhoi arian mewn cyfrifon nwy a thrydan.

Bydd yr hwb yn croesawu “bancwyr cymunedol” o wahanol gwmnïau yn eu tro, a bydd gofod preifat hefyd lle bydd modd i gwsmeriaid siarad â staff ar gyfer ymholiadau neu wasanaethau mwy manwl.

Mae naw cwmni’n cefnogi’r gwasanaeth hwb ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ond bydd y rhestr o fanciau fydd yng nghangen Rhisga yn cael ei chyhoeddi “yn nes at yr amser”.

Cynlluniau

Mae’r cynlluniau gafodd eu cyflwyno i’r Cyngor yn dangos llawr cynta’r safle, ynghyd â pheth gofod yng nghefn llawr gwaelod yr adeilad, am gael eu rhoi o’r neilltu.

Bydd yr hwb yn cynnwys cownter a swyddfa yn bennaf.

Mae datganiad dylunio gan yr asiant cynllunio Ridge and Partners LLP hefyd yn dangos y bydd yna fynediad i gadeiriau olwyn drwy’r adeilad.

Gallai tair swydd gael eu creu yn y ganolfan newydd mae Cash Access UK yn bwriadu iddi fod ar agor rhwng 9yb a 5yp bob dydd yn ystod yr wythnos.

Cefnogaeth

Mae’r prosiect wedi ennyn cefnogaeth Bob Owen a Ceri Wright, cynghorwyr Gorllewin Rhisga.

“Y mwyaf y gall gael ei wneud i gyflymu agor yr hwb bancio yn Rhisga, gorau oll,” meddai’r Cynghorydd Ceri Wright yn ei sylwadau i adran gynllunio’r Cyngor.

Mae’r cais yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae modd ei weld ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.