Mae gwyddonwyr yn gofyn i’r cyhoedd helpu i achub gwenyn Cymreig sydd mewn perygl drwy gofnodi’r troeon maen nhw’n eu gweld.
Er mwyn diogelu gwenyn sydd yng Nghymru, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn gofyn i’r cyhoedd gofrestru’r lleoliadau maen nhw’n eu gweld nhw.
Y pwrpas yw deall mwy am y cynefinoedd sy’n cael eu colli a nifer y rhywogaethau o wenyn sydd mewn perygl yng Nghymru.
Maen nhw am i bobol ddefnyddio ap Spotabee i roi gwybod i ymchwilwyr pan fyddan nhw’n gweld gwenynen, fel eu bod nhw’n gallu creu map o rywogaethau gwahanol.
Poblogaeth “yn dirywio’n fawr”
Cafodd yr ap ei ddatblygu gan ymchwilwyr sy’n gweithio ar brosiect Pharmabees, sy’n ymchwilio i’r ffordd y gallwn ddefnyddio gwenyn, mêl a chwyr gwenyn mewn meddygaeth.
“Mae gwenyn gwyllt a chacwn yn dirywio’n fawr yng Nghymru ac mae nifer o rywogaethau o wenyn mewn perygl o gael eu colli am byth oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd,” meddai’r Athro Les Baillie, Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd prosiect Pharmabees.
“Mae colli gwenyn Cymreig yn gysylltiedig â cholli 97% o ddolydd blodau gwyllt Cymru ers 1930, y cynnydd yn y defnydd o blaladdwyr yn ogystal â newid hinsawdd.
“Mae gwenyn yn chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau drwy beillio planhigion a chnydau.
“Ond hefyd mae gwenyn yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hymchwil, gan ein helpu i chwilio am feddyginiaethau newydd i drin clefydau sy’n peryglu bywyd yn ogystal â mynd i’r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau ac archfygiau.
“Rhaid inni sicrhau dyfodol gwenyn yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gofyn am gymorth y cyhoedd yng Nghymru i wybod maint y broblem drwy ddod o hyd i’r planhigion a’r cynefinoedd sydd fwyaf deniadol i wenyn.”
‘Monitro effaith newid hinsawdd’
Mae ap Spotabee yn mapio dosbarthiad gwenyn ledled Cymru, ac yn cofnodi’r planhigion mae gwenyn yn bwydo arnyn nhw.
Wrth gofrestru’r gwenyn, mae gofyn i bobol anfon lluniau o le maen nhw wedi gweld y gwenyn; hyd yn hyn mae dros 4,000 o bobol wedi cyfrannu lluniau.
Bydd y wybodaeth yn galluogi ymchwilwyr i fonitro effaith newid hinsawdd ar niferoedd ac amrywiaeth gwenyn, ac yna’n helpu gwyddonwyr i gynllunio sut fyddan nhw’n ymateb i gefnogi cynefinoedd i wenyn Cymreig.
“Pan fyddwch chi’n eistedd yn eich gardd neu’n mynd â’r ci am dro, a gwelwch chi wenynen yn swnian o gwmpas planhigyn, tynnwch lun a’i uwchlwytho i ap Spotabee,” meddai Les Baillie wedyn.
“Drwy wneud hyn, byddwch chi’n helpu i sicrhau dyfodol gwenyn yng Nghymru.”