Mae camau gorfodi ym mhentref Betws Cedewain ger y Drenewydd wedi’u cymryd fydd yn gostwng y perygl o lifogydd i’r dyfodol.

Roedd perchnogion eiddo yn y pentref wedi dechrau ymestyn eu gardd trwy adeiladu wal ar hyd Nant Bechan.

Roedd y cynlluniau’n golygu adeiladu i mewn i sianel yr afon, ond gallai hyn fod wedi dadleoli dŵr yn ystod llifogydd a chyfnodau o lif uchel yr afon, allai fod wedi cynyddu’r perygl o lifogydd mewn tai cyfagos.

Doedd y gwaith adeilad ddim wedi derbyn trwydded, ac ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i ddeall am y bwriadau, gweithredodd y swyddogion er mwyn atal y gwaith ar unwaith.

Daeth ymchwiliad i ddeall fod y gwaith adeiladu yn peri perygl difrifol o waethygu amodau llifogydd yn yr ardal.

Roedd amseru camau gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru yn hollbwysig, a chafodd y perchnogion orchymyn i gael gwared ar haen o flociau oedd eisoes wedi’u gosod, i ddatgymalu elfennau peirianneg galed, ac i adfer glan yr afon i’w lethr gwreiddiol.

Fe brofodd yr ardal lifogydd ar ôl y gorchmynion hyn, ond yn ffodus doedd dim llifogydd cynyddol i lawr yr afon.

Ond pe bai’r dyluniad gwreiddiol wedi’i adeiladu, gallai hyn fod wedi gwaethygu amodau llifogydd i eraill yn y pentref.

Trwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd

Yn ôl Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Rheolwr Llifogydd a Dŵr, roedd hon yn “enghraifft glir o sut mae gan adeiladu heb drwydded ar lannau afon y potensial i gynyddu’r perygl o lifogydd i bobol eraill yn y gymuned”.

“Yn yr achos hwn, fe wnaeth ein camau gorfodi cyflym atal cynnydd mewn perygl,” meddai.

“Rydym yn annog pob perchennog eiddo ar lan yr afon i sicrhau bod ganddyn nhw’r caniatâd cywir cyn dechrau unrhyw waith adeiladu ar gwrs dŵr neu’n agos ato.

“Mae gwneud hynny yn sicrhau bod gennych y cyngor cywir wrth gynllunio’r gwaith, a sicrhau nad ydych yn torri’r gyfraith.”

Mae’n hanfodol cael Trwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd cyn parhau ag unrhyw waith ger afon a all effeithio ar lif dŵr.

Ar gyfer cyrsiau dŵr eraill, mae angen cysylltu ag Awdurdod Llifogydd Lleol perthnasol sy’n ymdrin â thrwyddedau.