Fe fydd pymthegfed Hanner Marathon Conwy yn cael ei gynnal yn y dref hanesyddol ddydd Sul (Tachwedd 17).
Mae’r ras yn cychwyn ac yn gorffen ar y bont ger y cei o flaen y castell enwog. Y llynedd roedd 3,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn y ras ac mae’n cael ei hystyried yn un o’r lleoliadau mwyaf godidog i redeg Hanner Marathon.
Bydd y ras yn mynd a chi heibio Afon Conwy, tuag at Ddeganwy, Pier Llandudno, y Gogarth Fawr cyn gorffen eto yng Nghonwy.
Bydd pawb sy’n gorffen y ras yn cael medal a chrys-T.
Fe fydd ffyrdd ar hyd llwybr y ras ynghau i draffig.
Mae’r ras yn cychwyn am 9.30yb fore Sul.