Mae’r grŵp roc o’r 1970au yn canu am y tro olaf yn Eisteddfod Dinbych, ddeugain mlynedd ers iddyn nhw ddod at ei gilydd a chwyldroi’r byd pop Cymraeg…
Nos Fawrth, Awst 8, 1973 ym Mhafiliwn Corwen, clywodd y Cymry grŵp newydd sbon a oedd i gael dylanwad ‘aruthrol’ ar y byd roc Cymraeg.
Yn ôl un arbenigwr, roedd cyfraniad Edward H Dafis dros yr iaith yr un mor bwysig â chyfraniad mudiadau fel yr Urdd a Chymdeithas yr Iaith.
Eleni, deugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r aelodau yn dod at ei gilydd ar gyfer Eisteddfod arall yn Nyffryn Clwyd, y tro hwn yn Ninbych, ar gyfer eu cyngerdd ola’.
“Mae’n rhaid i ni gwpla rhywbryd a dweud mai digon yw digon,” meddai’r prif leisydd, Cleif Harpwood, “Mae’n gwneud lot o synnwyr ein bod yn cau pen y mwdwl mewn Eisteddfod yn yr ardal lle ddechreuodd y cyfan, mewn Eisteddfod. A dyma fydd y diwedd tro ‘ma!”
Doedd Cleif Harpwood ddim yn aelod o Edward H Dafis yng Nghorwen y noson honno ond roedd yn canu ar yr un llwyfan gydag Ac Eraill – Iestyn Garlick, Phil Bach Edwards, a Tecwyn Ifan.
“Roedd bois eraill Edward H – John Griffiths, Hefin Elis, Dewi Pws, a Charli Britton – wedi ffurfio rhai misoedd ynghynt,” meddai. “Roedd Ac Eraill yn chwarae cerddoriaeth dra gwahanol i’r band newydd ‘ma
“Yr hyn ddigwyddodd wedyn oedd i’r bois ofyn i fi os bydden i ishe ymuno â nhw. Roeddwn yn gweld ffordd i ganu am yr un gwerthoedd a threftadaeth ag yr oedd Ac Eraill yn ei wneud, ond mewn arddull gwahanol.”
Roedd y noson yn Eisteddfod Rhuthun yn drobwynt yn hanes y byd pop Cymraeg.
“Roedd noswaith Pafiliwn Corwen yn Noson Lawen yn y traddodiad go iawn mewn gwirionedd,” meddai Cleif Harpwood, “lle’r oedd amrywiaeth eang o artistiaid, o Elfed Lewis, Arfon Gwilym, Ac Eraill, ac yng nghanol y cwbl Edward H Dafis a ‘Cân y Stiwdants’.
“Tan iddyn nhw ddechrau’r gân honno, roedd pawb yn eistedd yn barchus fel cynulleidfa draddodiadol Gymraeg yn gwrando ar yr arlwy ar y llwyfan. Ond y funud roedd Edward H wrthi, roedd yr ifanc ar eu traed ac yn rhuthro at y llwyfan.
“Mae’r siŵr mai honno oedd y Noson Lawen go iawn ola’ i ddigwydd yng Nghymru, yn yr ystyr bod yr amrywiaeth yno, yn lle un arddull canu.”
Y dyddiau cynnar
Cafodd y grŵp ei greu ar ôl cyfarfod yn Aberystwyth rhwng Hefin Elis a Dewi Pws, a oedd yn aelod o’r Tebot Piws.
“Er i lan i Aber i gwrdda Hefin,” meddai Dewi Pws, sy’n cyfadde’ nad yw’n cofio llawer am y cyfnod gan ei fod o dan darth o sbri ac alcohol, “ac fe wnaethon ni siarad lot a gwrando ar lot fawr o gerddoriaeth – y Rolling Stones, y Beatles, y Bee Gees, Donovan, Leonard Cohen, Rod Stewart, a Hogia Llandegai… a phan oedd cyfle, roeddwn yn dala tamed bach o gwsg, ar soffa chwaer Hefin.
“Hefin gas y syniad o drïo ffurfio grŵp trydan i brofi bod roc yn bosib yn y Gymraeg.”
Er mwyn codi arian i brynu offer newydd, cafodd Edward H Dafis fenthyciad o £2,000, a oedd yn swm sylweddol ar y pryd, gan yr actor Huw Ceredig a’i wraig, Margaret. Prynodd y grŵp eu hoffer yn Llundain a hen fan a fuodd yn eu cario ar hyd hewlydd Cymru am flynyddoedd.
“Hen fan fara oedd hi hefyd,” cofia Dewi Pws, “am amser hir, roedden ni gyd fel dynion eira ar ôl tynnu’r offer mas o gefn y fan!”
Roedd Hefin Elis eisoes wedi sôn yn gyhoeddus am greu band o’r fath.
‘Ni allaf ddeall pam mai ond y Sais a’r Ianc a oedd yr hawl i gerddoriaeth rymus, gynhyrfus. A oes raid i’r Cymry fodloni yn unig ar ganeuon swynol noson lawenaidd?’ meddai yn y cylchgrawn Sŵn.
‘Rhaid cael adain fwy cynhyrfus, fwy swnllyd i’r canu Cymraeg os yw am fyw am ddegawd arall.’
Hen ffordd Gymreig o fyw
Ond nid oedd pawb yn deall y nod a nifer o bobol yn cyhuddo’r band newydd o efelychu’r Sais a’r Ianc gan droi cefn ar y traddodiad Cymraeg.
Os mai trin Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw yn y dull newydd oedd eu halbym gyntaf, roedd yr ail, Y Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Grêt o Fyw, yn ateb tafod yn y boch i’r beirniaid.
“Doedd y sefydliad yn sicr ddim yn ein deall ni,” meddai Dewi Pws.
“Steddfod Porthaethwy er enghraifft, pan aeth lot o bobol ifanc i flaen y llwyfan a chwalodd rhai o’r bocsys blodau. Rhuthrodd rhai o’r trefnwyr mlaen i’w stopio, a’u hwynebau’n wyn fel y galchen, i drïo stopio’r bobol ifanc ac wedyn trïo stopio’r noson.
“Fe droies i at un person digon adnabyddus a dweud wrtho, tra bo ni’n chwarae, ‘Twll dy din di, dim ond joio ma’r bobol ifanc!’
“Cafodd un noson enwog yn Aberteifi ei stopio’n llwyr hanner ffordd drwodd, a’r pŵer yn cael ei dynnu oddi wrthon ni fel bo ni ddim yn gallu cario mlaen!”
Daeth y band i ben yn 1976, ar ôl cyhoeddi tair albym, ac un sengl a ‘Cân y Stiwdants’ yn rhan o albym Tafodau Tân. Fe ddaethon nhw nôl at ei gilydd yn 1978 tan 1980 gan ryddhau Yn Erbyn y Ffactore a Plant y Fflam ac un sengl, un EP, ac roedd eu cân ‘Pishyn’ ar albym Twrw Tanllyd.
Mae dod yn ôl at ei gilydd am un cyngerdd ola yn gyfle i fwrw golwg nôl ar gyfnod cyffrous yn hanes Cymru.
“Roedd e werth e yn sicr,” meddai Dewi Pws. “Ond a fydden ni’n neud e ‘to? Dim blydi ffiars! S’en well s’en i wedi aros yn gynulleidfa.
“Ond diolch i bawb am y gefnogaeth, yr hwyl a’r craic, ac am ambell noson yng nghefn y fan – mae hi’n gwbod pwy yw hi!”
* * *
Wythnos ar ôl y gig ola’ ymddangosodd yr erthygl hon yn Golwg (15 Awst 2013), wrth i Cleif Harpwood adlewyrchu ar y perfformiad, yr angen am “ail chwyldro”, a chanu gyda H a’r Band.
Angen “ail chwyldro” – canwr Edward H
“Y gwir yw, r’yn ni’n chwarae’n well nawr na r’yn ni wedi chwarae erioed.”
Dyna farn prif leisydd Edward H Dafis ar ôl perfformio o flaen oddeutu 5,000 o bobol nos Wener yn yr Eisteddfod yn Ninbych.
“Beth oedd yn fy nharo i oedd ei bod yn bosib i chwarae i sawl cenhedlaeth,” meddai Cleif Harpwood. “Bod y gerddoriaeth nid yn unig yn dderbyniol i’r genhedlaeth newydd, ond hefyd bod ysbryd yr hyn sydd yn ein cerddoriaeth ni hwyrach yn goroesi.
“Dyw’r brwydrau mawr yn y 1970au mewn gwirionedd heb eu hennill o hyd. Y tristwch yw bod yr hyn roedden ni’n poeni yn gylch ac yn ei ddarogan nôl yn y 1970au yr un problemau sydd gyda ni yn y gymdeithas Gymraeg – y diboblogi, a’r ffaith bod y Gymraeg yn diflannu o ardaloedd yn gyfan gwbl.”
Dywedodd taw’r caneuon gwleidyddol fel ‘Yn y Fro’ oedd y rhai mwya’ poblogaidd nos Wener a bod angen “ail chwyldro” erbyn hyn.
“Dw i wrthi ar hyn o bryd yn sgwennu caneuon a dw i’n credu pan fydda’ i’n eu cyhoeddi nhw mai caneuon yr ail chwyldro fyddan nhw.”
Enw’r gig oedd ‘Edward H: y Ffarwel Olaf’ ond mae’r canwr yn honni nad y grŵp ddywedodd hynny – ond eu bod wedi dymuno dathlu’r 40 mlynedd eleni, ac y byddai’n “anodd iawn” iddyn nhw berfformio wedyn gyda’i gilydd eto.
Mae Cleif Harpwood, Hefin Elis, John Griffiths, Charli Britton, a Wyn Pearson wedi bod yn cyd-berfformio fel ‘H a’r Band’ ers 2012.
O ran gwneud cyngerdd arall fel Edward H, dywedodd: “Byddwn i’n amau’n fawr. Un o’r pethau roeddwn i eisiau ei ddangos oedd bod modd cynnal digwyddiadau fel hyn eto, a hwyrach bod yna lot o wleidyddiaeth yn y caneuon.
“Y rheswm fy mod i am gynnal y band (H a’r Band) o hyn allan yw i sicrhau bod y neges amlwg sydd gyda ni ynglŷn â dyfodol y Gymraeg yn dod mas mewn caneuon newydd. Dw i’n teimlo ei bod hi’n amser i ni edrych ar ddefnyddio cerddoriaeth unwaith yn rhagor i hyrwyddo achos y Gymraeg.”
Mae yn awgrymu wedyn yr hoffai berfformio eto fel Edward H Dafis, ond mai Dewi Pws “yw’r ffactor mwya” o ran hynny.
Mae Dewi Pws wedi dweud ei fod am roi’r gorau i ganu gyda pherfformiad olaf ei grŵp gwerin Radwm yn ystod Gŵyl Golwg yn Llambed ar Fedi 6 [2013].
“Rydyn ni am fynd i barhau i ganu’r caneuon yna o fewn ein sèt ni fel band,” meddai am H a’r Band, “yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i fi a Hefin.”