Portread o Rala Rwdins

Mae’n flwyddyn fawr i Rala Rwdins. Mae’n 30 mlynedd union ers i’r wrach ffeind ymddangos rhwng dau glaw am y tro cyntaf.

Ac mae pob math o bartion wedi cael eu trefnu ar ei chyfer.

Fis Mai, bydd cwmni Arad Goch ar daith drwy Gymru gyda’r sioe Cerdyn Post o Wlad y Rwla. Rala Rwdins yw un o sêr App newydd y cylchgrwn Wcw, a sioe lwyfan sy’n cyd-fynd â rhifyn 200 y cylchgrawn eleni.

Ac mae cynllun mentrus o ddefnyddiau digidol newydd sbon yn caeu eu paratoi gan y Cyd-bwyllgor Addysg a’r Lolfa, cyhoeddwyr y llyfrau.

Mae Angharad Tomos – ‘mae Rala Rwdins’ fel y cyfeirir ati – yn cofio pryd y daeth y wrach fach a’i chyfeillion i fyw ati am y tro cyntaf.

“Cawsant eu creu yn ystod haf 1982, tra ro’n i ar wyliau mewn carafan efo fy rhieni,” meddai. “Daethant i gyd efo’i gilydd – roedd o’n haf cynhyrchiol iawn.”

Erbyn heddiw mae 16 o lyfrau storïau sgwâr (cyhoeddwyr y diweddaraf, ‘Sbector Sbectol’, fis Ebrill 2012), a degau ar ddegau o lyfrau a gemau ar gael.

Mae’r awdur yr un mor brysur ag erioed yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a chymunedau ar gymeriadau Gwlad y Rwla. “Dw i’n byw efo hi,” meddai Angharad Tomos. “Mae hi’n gymaint rhan ohonaf i, mae hi’n un o’r teulu. Mae hi’n rhan gyson o fy mywyd i.

“Mewn 30 mlynedd, dydi plant ddim wedi newid dim; maen nhw’n dal i licio stori. Ond mae o’n od cael athrawes fy mhlentyndod yn dod ataf a dweud ei bod hu’n fy nghofio yn dweud stori wrthi – pan oedd hi’n saith oed!”

Mae’n falch bod Arad Goch wedi atgyfodi’r sioe theatr yn seiliedig ar y cymeriadau. “Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod rhywun yn denu plant i’r theatr… mae’n gyfrwng mor bwerus.”

Mae Hedydd ei mab, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed yr wythnos hon, wedi cael ei fagu yng nghwmni Rala Rwdins, Rwdlan, y Dewin Dwl a’r Dewin Doeth, Ceridwen, Strempan, Mursen y gath a Llipryn Llwyd.

Ac mae’n dal i fwynhau darllen y storïau.

“Fel arfer mewn llyfrau mae nhw hefo gwrachod sy’n gas. Yn y llyfrau yma, mae gwrachod yn ffrindiau. Mae lot o bethau da a doniol yn digwydd iddyn nhw.”

Fel sawl plentyn arall, ei hoff gymeriad yw’r un bach comig, Dewi Dwl, sy’n hoffi partio ar gymylau.

Rhywle rhwng Porthmadog a Chaernarfon y mae Gwlad y Rwla, yn ôl Angharad Tomos, sy’n byw ym Mhenygroes. “Roedd merch yn fy nosbarth yn dod o Du Hwnt i’r Mynydd, a dyna lle cefais enw tŷ Ceridwen, Tu Hwnt. Dydi o ddim ymhell o Fwlch Derwin, ger Bryncir. Mae yna le o’r enw Ty’n Twll hefyd yn agos, a choedwig – a chors. Siŵr mai dyna le mae Gwlad y Rwla yn wreiddiol.”

Daeth yr enw Ogof Tan Domen, cartref Rala Rwdins a Rwdlam, o Ysgol Tŷ Tan Domen yn y Bala – ysgol byddai ei garwr mawr, Dafydd Iwan, yn ei mynychu erstalwm. “Ro’n i’n meddwl ei fod yn enw gwych,” meddai.

Ei thad feddyliodd am yr enw Gwlad y Rwla, ac mae cymeriad Rala Rwdins yn seiliedig ar ei Mam, a Rwdlan ar ei chwaer ieuengaf.

“Pan mae Rwdlanm yn mynd i ogof Ceridwen a’i gweld hi’n bwyta llyfrau, mae hynny yn seiliedig ar atgof ohonof yn ferch fach yn mynd i stydi Taid Bangor (y sosialydd, David Thomas).”

Llipryn Llwyd yw’r eithriad efallai yn y llyfrau, y creadur diflas sy’n llefain o hyd, a’r unig gymeriad nad yw’n Gymreig.

“Mae ganddo fo wreiddiau Gwyddelig – mudo o Iwerddon ddaru ei gyndeidiau, adeg y Newyn Mawr. Dyna pam fod ganddo hances oren a gwyrdd.

“Dw i’n cofio i mi gael ei enw o Lawlyfr Dirwest, a chofiaf un dyfyniad penodol (disgrifiad o feddwyn) – ‘Daeth adref yn llipryn tenau llwyd…’

“Yn y bôn, gwahanol elfennau o’r natur ddynol sydd i gymeriadau Gwlad y Rwla, a’r elfennau hynny wedi eu creu dan y chwyddwydr. Nid creadur digalon yw’r Llipryn er enghraifft, ond manic depressive.”

Ac mae actorion – Mari Gwilym sydd wedi actio Strempan ar y gyfres deledu – wedi dylanwadu ar eu portreadau o’r cymeriadau. “Pan ddarllenodd Mari Gwilym y storïau i Gwmni Sain,” meddai Angharad Tomos, “rhoddodd lais Magi Thatcher i Strempan, ac ro’n innau wedi rhoi sannau lliw Jac yr Undeb iddi.”

Roedd yr actores Mair Tomos Ifans yn diddanu plant yng Ngŵyl Llên Plant Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

“Hir oes i Rala Rwdins!” meddai Mair Tomos Ifans, sydd wedi bod yn portreadu’r cymeriad ar lwyfan ac mewn sesiynau darllen i blant ers iddi gael rhan yn sioe boblogaidd Arad Goch – Rwtsh Ratsh Rala Rwdins – yn 1989.

“Mae’r ffordd y mae Angharad wedi creu’r cymeriadau yn eu gwneud nhw’n hawdd iawn i’w portreadu. Dw i’n byw efo hi ers bron iawn i chwarter canrif – mae’n dod allan yn rheolaidd sawl gwaith y flwyddyn. Mi fydda’ i’n dal i’w gwneud hi – mi fydd yn rhaid i Angharad roi ffrâm gerdded iddi!

“Mi ydw i’n ei deimlo fo’n gyfrifoldeb, am fod y plant yma, a’u rhieni a’u neiniau a’u teidiau, yn adnabod y cymeriadau gystal ag ydw i.”