Mae Bonnie Tyler yn chwerthin fel docar ar ôl datgelu sut mae hi’n edrych hanner ei 59 o flynyddoedd.
“Botox!” meddai’r gatores roc benfelen yn ei llais crug enwog.
Does dim cywilydd ganddi ei bod wedi bod yn cael y driniaeth atal henaint ers pymtheg mlynedd, a hynny ddwywaith y flwyddyn, pan fydd hi adre yng Nghymru. Y mae hi’n treulio’r rhan fwya’ o’i hamser yn ei chartre’ arall ym Mhortiwgal.
“Mae e’n rhyfeddol,” meddai yn brolio’r driniaeth gemegol sy’n cadw croen ei hwyneb cyn llyfned â thywod mân Bae’r Mwmbwls, lle mae ei chartre’.
“Y cynhara’ chi’n dechrau, y gorau – wnaiff y llinellau yna ddatblygu. Dw i’n credu ei fod e’n rhyfeddol. Ond rhaid i chi gael doctor i’w wneud e.”
Dyw Bonnie Tyler ddim yn siarad yn Gymraeg ond mae hi wedi cadw ei thafodiaith ddeheuol gre’, a ffordd o sgwrsio sy’n eich closio ati.
Ers y 1970au mae hi wedi mynd yn enwog trwy’r byd am ei chlasuron fel ‘Life in France,’ ‘Holding out for a Hero’ a ‘Total Eclipse of the Heart.’ Mae ganddi’r un band yn chwarae gyda hi ers ugain mlynedd.
“Dw i’n credu bod y busnes cerddoriaeth yn eich cadw chi’n ifanc,” meddai.
Mae newydd fod yn recordio ‘Total Eclipse…’ ar albym ddiweddara’ y côr bechgyn Only Men Aloud!, ac wedi mopio’i phen gyda fersiwn Tim Rhys-Evans, yr arweinydd.
“Gofynnodd i fi a faswn i’n gwneud perfformiad byw gyda nhw,” meddai Bonnie Tyler. “Daeth e draw i’r tŷ, a chwarae’r gân ar y grand piano. Roedd e’n swno’n grêt.
“Roedd y dorf yn y cyngerdd ar eu traed. Yna ofynnon nhw a faswn i’n recordio gyda nhw. Dw i’n dwlu ar y ffordd maen nhw wedi’i gwneud hi.”
Gaynor Hopkins oedd ei henw pan gafodd ei geni yn Sgiwen, ger Castell Nedd yn 1951. Bu’n canu o gwmpas clybiau a thafarndai de Cymru gyda’r grwpiau Bobby Wayne & The Dixies, ac yna Imagination. Newidiodd ei henw i Sherene Davies gynta’, cyn troi’n Bonnie Tyler ar ôl cael cytundeb recordio gydag RCA Records yn 1975.
Fe wnaeth hi grio pan glywodd hi ‘Total Eclipse of the Heart’ am y tro cynta’ ar biano’r cyfansoddwr, Jim Steinman. Mae e wedi cyfansoddi sawl baled roc enwog, fel ‘Bat Out of Hell’ i’r canwr Meatloaf.
“Mae hi’n mega-ballad, yn dyw hi?” meddai Bonnie Tyler. “Dwn i ddim beth yw e yn ei chylch hi. Alla i ddim ond dweud wrthoch chi y ffordd deimles i pan wnes i ei chlywed hi. Chi’n gwybod y teimlad pan fo’r blew yn codi ar eich gwar? Ro’n i’n llefen, wir yn llefen. Do’n i methu â chredu ei fod wedi’i roi i mi ganu.”
‘Total Eclipse…’ yw ei chân enwoca, yn ddi-os. Daw oddi ar ei halbym Faster than the Speed of Night a ddaeth mas yn 1983, ac aeth i rif 1 trwy Brydain, Ffrainc, Awstralia a’r Unol Daleithiau.
Recordiodd fersiwn Ffrangeg ohoni, ‘Si Demain…’ gyda Ffrances o’r enw Karen Antonn a buodd yn rhif 1 yn Ffrainc am ddeuddeg wythnos.
Mae ei gyrfa yn ffynnu ym Mhrydain unwaith eto, er nad yw ei phoblogrwydd trwy Ewrop wedi pylu dim.
Eleni, mae eisoes wedi perfformio yn Canada, Las Vegas, Yr Iselderoedd – “lle wnes i berfformio i dros 26,000 o bobol” – Awstralia a Berlin. “Dw i wastad yn yr Almaen,” meddai.
Rhwng y Mwmbwls a Phortiwgal
Mae ei thŷ ar hewl y Mwmbwls yn tremio dros y goleudy, ond ym Mhortiwgal y bydd hi ran fwya’ o’r amser, yn teithio o fanno i bedwar ban.
“Mae’n rhyfedd, dw i byth yng Nghymru,” meddai. “Fe allwch chi dynnu’r ferch mas o Gymru, ond allwch chi ddim tynnu Cymru mas o’r ferch! Ha ha!”
Mae’n amlwg ei bod wedi dod o hyd i’w ‘hero’ o’r diwedd – bydd ei gw^r yn ei hebrwng i bobman – ac mae’n debyg nad yw geiriau enwog ‘Total Eclipse…’ – “every now and then I get a little bit lonely” – yn wir mwyach.
“Dw i’n caru be’ dw i’n ei wneud,” meddai. “Bydda i’n teithio i bob cwr o’r byd.”
Mae hi’n agos at ei theulu – mae ganddi dair chwaer a dau frawd – ac mae’r rheiny’n browd iawn ohoni, meddai – “and I love ‘em to bits.”
Hawdd deall sut ei bod hi’n eicon trwy’r byd. Mae hi’n gwbl broffesiynol, ond eto’n hawdd gwneud gyda hi – fel y mae’r sêr go iawn.
“Fi yw fi,” meddai. “Fydda i byth yn gallu newid. Dyma’r ffordd ydw i.”
Wythnos yma mae hi wedi dianc adre i Bortiwgal, ond bydd yn dychwelyd i storm o gyfweliadau ar raglenni teledu fel Loose Women, sioe Alan Titchmarsh, a hyd yn oed yn westai arbennig ar y sebon fore Sul, Hollyoaks, yn perfformio‘Holding out for a Hero.’ Piffian chwerthin mae hi eto wrth ddweud bod hyd yn oed crys-T â’i henw arni yng nghasgliad y model Kate Moss yn Topshop. “Allwch chi gredu’r peth? ‘Rwy yn blydi Topshop!”
Dyw hi heb newid ei delwedd ryw lawer dros y blynyddoedd, meddai. Cymraes yn Abertawe fydd yn lliwio’i gwallt a hynny ers blynyddoedd. Mae hi wedi cael gwared “â’r holl gyrls yna.” O’i hatgoffa bod steil yr 1980au, a’r cyrls, ac felly ei steil cynnar hi, yn ôl mewn ffasiwn, mae’n dweud yn syth – “rwy’n gwybod! Rwy ddim yn ei hoffi. Mae e’n fwy llyfn fel hyn, ac yn gwneud i chi edrych yn ifancach na chwrls.”
Mae hi’n chwerthin gryfa’ wrth glywed yr awgrym (anghywir) ei bod hi’n “sex symbol” trwy’r byd. Eicon roc ac eicon i bobol hoyw, yw hi, nid ‘sex symbol’.
“Nooooooooo!” meddai mewn braw. “Dyna’r tro cynta’ i fi glywed hynna!”
Ond sut y mae hi wedi para gyhyd, ac yn dal i rocio gyda’r gorau ohonyn nhw?
“Dw i’n cael llawer o barch yn y busnes cerddoriaeth. Dw i yn ffeindio bod hynna o fudd mawr i fi, bod pobol yn rhoi cymaint o barch i mi yn y busnes. Dw i’n weithiwr caled. Yn fy marn i, mae eisie mynd mas yna a’i wneud e.”
Gwrthod ymuno â chriw yr 1980au
Bydd Bonnie Tyler yn cael cynigion i fod yn rhan o nosweithiau nostalgia gyda grwpiau eraill o’r 1980au. Mae llu o fandiau wedi bod yn perfformio yn ddiweddar, fel y cyngherddau ‘Here and Now’ y llynedd gydag artistiaid fel Paul Young, Rick Astley, a Bananarama.
“Maen nhw wastad yn gofyn i mi,” meddai Bonnie Tyler. “Ond fydda i wastad yn dweud ‘na’. Dw i’n brysur iawn ar ben fy hun. Dw i’n credu bod y bobl sy’n gwneud hynna ddim yn cael llawer o waith. Rwy’n lwcus iawn, diolch i Dduw, mod i’n dal i weithio. Rwy’n ei garu fe – rwy’n caru bod ar lwyfan.”
Yr unig beth fyddai’n gwella ei bywyd yw cael ryw beiriant fel oedd gan Scotty yn Star Trek i fynd â hi o un lle i’r llall.
“Dyw teithio ddim hwyl,” meddai. “Yr holl bacio. Dw i’n neud e i gyd fy hun.”