Wrth edrych ar y fideos o Michelle Evans-Fecci yn paratoi ryseitiau ar gyfer rhaglen Heno ar S4C, byddai’n hawdd credu mai criw camera proffesiynol sydd wedi bod yn ei ffilmio.
Ond ei gŵr yw’r dyn camera. A’r “stiwdio” yw’r gegin yn eu cartref yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro. Ers i’r cyfyngiadau ddod i rym yn sgil y coronafeirws, mae’r gogyddes wedi gorfod addasu wrth iddi ddangos i wylwyr S4C a’i dilynwyr ar wefan Instagram sut i baratoi bwyd efo cynhwysion sydd ar gael yn eu cypyrddau neu sy’n hawdd i’w cael.
“Roedd Heno i fod i ddod yma i ffilmio cyn y lockdown,”eglura Michelle Evans-Fecci, “ond wedyn ges i alwad ffôn i ddweud eu bod nhw methu anfon dyn camera [oherwydd y cyfyngiadau]. Dyma nhw’n dweud bod y fideos Instagram [@bakesbymichelle] yn wych, a gofyn tasen i’n gallu gwneud rheiny ar gyfer Heno.
“Fy ngŵr, Ben, sy’n ffilmio a golygu’r fideos – ond dyw e ddim yn siarad Cymraeg felly mae’n gallu bod yn anodd iddo fe weithie, ond ni’n ymdopi’n iawn. Mae’n grêt i fi achos dw i’n gallu cario ymlaen i weithio a dw i’n mwynhau dangos i bobl sut i wneud pethau hawdd.”
Gan fod eitemau Michelle Evans-Fecci yn cael eu darlledu ar rifyn nos Wener o Heno, mae’r pwyslais wedi bod ar y math o fwydydd fyddai pobl fel arfer yn eu cael fel trît ar y penwythnos.
“Pethau fel cyris, pizzas ac yn ddiweddar mi wnes i pulled pork,” eglura Michelle Evans-Fecci.
“Dw i wedi gwneud pizza yn defnyddio blawd codi os nad oes blawd plaen neu flawd bara ar gael. Dw i’n ei goginio mewn ffrimpan sy’n mynd mewn i’r ffwrn. Dw i’n trio defnyddio pethau sydd yn y tŷ ac roedd gen i dun o bîn-afal felly wnes i roi e ar y pizza, a dw i wedi gwneud jam efo tuniau o ffrwythau, a fflapjacs efo tun o laeth tew [condensed milk]. “Mae pasta hefyd yn ddigon hawdd – mae Alfie, fy mab, wedi bod yn gwneud pethau fel tagliatelle. Does dim angen peiriant pasta, mae e wedi bod yn defnyddio rholbren a’i dorri efo cyllell.
“Mae cawl bob amser yn ffordd dda i ddefnyddio lot o lysiau, a dw i’n gwneud bara soda lot achos does dim angen burum a dy’ch chi ddim yn gorfod aros i’r toes godi. Mae e mor hawdd a wastad yn gweithio.”
Mae hi hefyd yn pwysleisio bod dim angen cadw at y cynhwysion mewn rysáit bob amser – “s’dim rhaid defnyddio siwgr caster, mae granulated neu siwgr brown dal yn gweithio’r un fath.”
Paul a Prue
Mae Michelle Evans-Fecci yn gyfarwydd iawn erbyn hyn yn cael ei ffilmio wrth goginio a hithau wedi bod yn gystadleuydd ar y gyfres bobi The Great British Bake Off y llynedd.
“Roedd e’n gymaint o sbort ond yn stressful iawn. Os ti’n gwneud cacennau a phethau fel ‘ny i’r teulu a ffrindiau, maen nhw fel arfer yn dweud bod e’n grêt.
“Ond roedd cael beirniadaeth gan Paul [Hollywood] a Prue [Leith] yn galed i glywed. Yn ystod wythnos cacennau, wnes i Bara Brith ac ennill Seren yr Wythnos. Ro’n i’n trio defnyddio cynnyrch Cymreig a phethau lleol. Dw i ddim wedi newid y ffordd dw i’n pobi [ers bod ar y rhaglen] ond mae wedi gwneud i fi fod eisiau trio pethau newydd.”
Er iddi adael y gyfres goginio yn wythnos pump, mae hi’n dweud bod pethau wedi bod yn “wyllt” ers hynny.
“Mae lot wedi digwydd ers hynna a dw i wedi bod yn lwcus iawn i gael lot o waith. Dw i’n paratoi ryseitiau i [gwmni blawd] Home Pride, cwmni caws Dragon a Tala sy’n gwneud offer coginio, yn ogystal â’r gwaith i Heno. Yr adeg yma llynedd roedden ni’n ffilmio’r gyfres ac ry’n ni [gystadleuwyr The Great British Bake Off] yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd – mae WhatsApp grŵp gyda ni.
“Mae bywyd wedi newid ond dw i’n cadw fy nhraed ar y ddaear. Mae Mam a Dad mor prowd o’r gefnogaeth ges i o Gymru. Wnes i ddechrau gyda 100 o ddilynwyr ar Instagram ac mae gen i bron i 34,000 erbyn hyn. Mae pobl o Gymru a Lloegr yn hala negeseuon ata’i a phobl yn America hyd yn oed. Licen i gael llyfr mas mewn cwpl o flynydde yn canolbwyntio ar fwyd lleol a bod yn fwy hunangynhaliol. Dw i’n tyfu lot o lysiau a ffrwythau yn yr ardd a blodau gallwch chi fwyta, dw i’n licio pethau i edrych yn bert.”
Mae hi a’i gŵr hefyd yn rhedeg busnes printio Trade Canvas Print yn Ninbych-y-Pysgod sydd ynghau ar hyn o bryd, tra bod ei mab, Alfie, sy’n 15 oed hefyd adref o’r ysgol gan fod yr ysgolion wedi cau.
“Dw i’n gyfarwydd efo fy ngŵr yn gweithio bob dydd, ond ers y lockdown dy’n ni wedi tynnu efo’n gilydd fel teulu – ry’n ni’n pobi a garddio efo’n gilydd. Mae helpu’r efo’r gwaith ysgol yn gallu bod yn stressful ond ry’n ni’n cael mwy o amser efo’n gilydd – bore yma wnaeth Alfie a fi gerdded lawr i’r traeth am chwech y bore i weld yr haul yn codi. Mae wedi gwneud i fi werthfawrogi’r pethau syml mewn bywyd.”
Rysáit Bara Soda
400g blawd plaen
1 llwy de o soda pobi
¾ llwy de o halen
300ml o laeth enwyn/ neu 300ml o lefrith gydag un llwy fwrdd o sudd lemwn wedi’i gymysgu nes ei fod yn gwahanu;
Mi fedrwch chi ychwanegu cnau/hadau/ffrwythau sych wedi’u torri’n fan os ydych chi’n dymuno.
Dull
Cynheswch y ffwrn i 200 ffan (220C, Nwy 7)
Rhowch y cynhwysion i gyd mewn powlen a’i gymysgu nes ei fod yn dod at ei gilydd.
Gwnewch y toes mewn siâp pelen a’i roi ar dun pobi.
Defnyddiwch gyllell finiog i wneud croes ar ben y toes a’i dorri bron yr holl ffordd drwodd.
Coginiwch yn y ffwrn am 25-30 munud nes ei fod yn swnio’n wag pan fyddwch chi’n taro’r gwaelod.