Ganrif ers cyhoeddi’r nofel i blant, Teulu Bach Nantoer, dywed arbenigwr ar lenyddiaeth plant bod angen dysgu o’r gorffennol…

‘Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant / Eisteddai gwraig weddw ynghanol ei phlant…’

Llinellau enwog y bardd Ceiriog ar ddechrau nofel Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd union ganrif yn ôl. Fe fyddai’r geiriau a llun y clawr yn gyfarwydd i genhedlaeth o Gymry ond wrth nodi canmlwyddiant y nofel drwy raglen arbennig ar S4C bydd fersiwn electroneg o’r nofel yn cael ei gyhoeddi i genhedlaeth newydd.

Cafodd y ‘chwedl i blant’ gan Moelona ei chyhoeddi gyntaf gan Hughes a’r Fab yn 1913 ar ôl i’r awdures ac athrawes ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Wrecsam y flwyddyn flaenorol. ‘Gem fechan ydyw,’ yn ôl y beirniad, LJ Roberts.

Er i’r nofel, gyda darluniau Mitford Davies, gael ei hargraffu sawl tro yn hanner cyntaf y ganrif ddiwetha’ ac eto yn y 1970au, mae allan o brint ers tro.

I gyd fynd â’r rhaglen deledu yn yr hydref mae S4C am argraffu fersiwn e-lyfr newydd.

“Mae yna ddau fwriad i’r dathliad eleni,” meddai Dr Siwan Rosser o brifysgol Caerdydd a oedd yn rhan o’r drafodaeth ar faes yr eisteddfod gyda’r cyflwynydd Beti George a’r cynhyrchydd teledu, Catrin MS Davies, “sef i dynnu sylw at gyd-destun y nofel a’r awdures, ac i ailgyflwyno’r nofel i ddarllenwyr newydd, drwy greu fersiwn electronig.

“Mae sawl un yn cofio’n fyw iawn am y profiad o ddarllen Teulu Bach Nantoer,” meddai. “O fewn teuluoedd roedd y copi yn cael ei basio o law i law, ond roedd o wedi mynd yn brinnach ac yn brinnach erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, fel bod yna ddim llawer iawn o ddarllenwyr yn cofio’r manylion ond falle wedi clywed yr enw.

“Mae enw Teulu Bach Nantoer yn dal i atseinio, yn golygu rhywbeth i nifer fawr o bobol, yn cyfleu teulu bychan, clòs.”

Creu cariad at iaith, gwlad a chenedl

Y tu mewn i’r clawr, mae’r geiriau: ‘I blant Cymru y dymunaf gyflwyno’r llyfr bychan hwn, gan hyderu y cânt ynddo fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu â chariad mawr eu hiaith, eu gwlad a’u cenedl.’

“Roedd hi i’w gael ledled y wlad ac yn boblogaidd yn mhob cwr o Gymru,” meddai Siwan Rosser. “Mi gydiodd y syniad yma o’r teulu bychan yn wynebu caledi bywyd, tlodi ac amgylchiadau anodd ond yn llwyddo yn y pen draw.

“Allwn ni ei chysylltu hi efo twm ymwybyddiaeth Gymreig a chenedlaetholgar dechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd hi’n athrawes ac yn gweld yr angen yn y dosbarth am ddeunyddiau Cymraeg i blant. Mi oedd hwn yn gyfnod pan nad oedd lawer o lyfrau yn y Gymraeg heb sôn am lyfrau i blant yn y Gymraeg.”

Mae’n bwysig cofio am ddatblygiad cynnar llenyddaieth Cymraeg i blant, yn ôl Siwan Rosser sy’n cyflwyno model ar Lenyddiaeth Plant yn y brifysgol.“Mi ddylen ni ailddarllen llenyddiaeth y gorffennol, er mwyn mwynhad, er mwyn pleser, ac er mwyn dysgu ma yr hyn a oedd yn bwysig i genhedlaethau a fu. Ond mae hi’n nofel afaelgar ynddi’i hun.”

O’u cymharu â’r Saeson, mae’r Cymry yn affwysol wael am glodfori llên plant eu gorffennol, meddai.

“Mae gynnon ni ryw gof o Teulu Bach Nantoer, Sioned – nofel Winnie Parry, ac mae enw Morgan Humphreys yn gyfarwydd i rai, ond does dim darllen ar y nofelau yna fel sydd ar Little Women, Alice in Wonderland, a Secret Garden.”

Cryfder a gwendidau

Cryfder y nofel, ym marn Siwan Rosser, yw’r modd y mae’n dangos i Gymry’r cyfnod “bod modd iddyn nhw fod yn driw i’w hiaith ac i’w cymuned, ond hefyd i fod yn eangfrydig ac i feddwl tu hwnt i hyny”.

Serch hynny, mae yna wendidau – fel cyd-ddigwyddiadau “hynod o gyfleus”, golwg “ramantaidd iawn” o gefn gwlad, a cho “rhy dwt”. Ond eto, meddai, mae’n “stori fach dda”.

Pwy oedd ‘Moelona’?

Ganed Elizabeth Mary Jones yn 1877 ym Moylon, Rhydlewis, de Sir Aberteifi – yr ieuengaf o 13 o blant. Bu’n athrawes ym Mhont-rhyd-y-fen, Acrefair ac yng Nghaerdydd.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Rhamant o Ben Rhos, yn 1907; Teulu Bach Nantoer yn 1913 a Bugail y Bryn yn 1917. Fe gyhoeddodd gyfieithiadau o waith Alphonse Daudet yn y cylchgronau Cymru ac Y Wawr, a sgrifennodd nofelau i ferched Breuddwydion Myfanwy (1928) a Beryl (1931) a nifer o ysgrifau a cholofnau. Symudodd hi a’r gŵr, J Tywi Jones, i Geinewydd, a bu farw ar Fehefin 5, 1953. Mae wedi ei chladdu yn Hawen, Rhydlewis.