Ar ddechrau’r 1960au daeth tri bachgen o bentref Llanberis at ei gilydd i ffurfio grŵp canu newydd. Roedd y tri – Arwel Jones, Myrddin Owen ac Elwyn Jones – yn canu o dan yr enw Triawd yr Wyddfa nes yn fuan wedyn i Vivian Williams ymuno ar y gitâr a Richard Morris ar y piano i greu Hogia’r Wyddfa.

Yn ystod yr hanner canrif maen nhw wedi perfformio “ym mhob Llan ac Aber yng Nghymru a thu hwnt.”

“Mi oedd hi’n arferiad i hogia’ ifanc – oedd yn rhy ifanc i fynd i dafarndai – fynd i gerdded a chanu,” meddai Arwel Jones wrth gofio’r dyddiau cynnar.

“Yn digwydd bod, roedd llais y tri ohonom ni’n asio a dyma ni’n penderfynu ffurfio Triawd yr Wyddfa.

“Yn Llanberis gychwynnon ni, hefo’r mamau ifanc,” meddai Myrddin Owen. “Ond mae’n siŵr eu bod nhw’n neiniau erbyn hyn, fel ydan ni gyd. Wrth fynd dros 50 mlynedd, mi rydan ni wedi croesi cenhedlaeth neu ddwy.

“Roedd hi’n oes aur y grwpiau,” esbonia. “Roedd grwpiau’n codi fel madarch ac yn diflannu dros nos.

“Roedden ni’n cymryd rhan mewn nosweithiau ble roedd tua 14 neu 15 wahanol artistiaid yn cymryd rhan. Ond dyma ni’n newid hyn a gwneud ein Noson Lawen ein hunain hefo canu a sgetshis a bob math.

“Wedyn penderfynodd Arwel roi cerddoriaeth i gerddi beirdd enwog, a rhai oedd ddim mor enwog.”

Roedd y cerddi’n cynnwys ‘Eifionydd’ a ‘Tylluanod’ gan R Williams Parry, ‘Aberdaron’ gan Cynan a’r ‘Ferch ar y Cei yn Rio’ gan TH Parry Williams.

Ond roedd y penderfyniad yn un dadleuol gydag ambell farn yn eu cyhuddo o ddifrodi’u cerddi.

“Roedden ni’n dewis y cerddi’n ofalus,” meddai Arwel Jones, “gwneud yn saff ein bod ni’n gwybod y stori tu ôl i’r gerdd. Doeddwn i ddim yn gyfansoddwr ond roedd ‘na fiwsig a rhythm yn y cerddi’n barod. Tynnu’r rheini allan oedd rhaid i mi.

“Rydan ni wedi cael ein cyhuddo dros y blynyddoedd o ganu’n saff,” meddai. “Ond dim canu’n saff oedd dewis canu cerddi fel hyn. Roedd y rhan fwyaf o’r beirdd yn ein cymeradwyo ni ond roedden ni’n cael ein beirniadu gan rai yn y wasg.”

“Ein beirniadu’n hallt,” ychwanegodd Myrddin. “Ond roedd y rhan fwyaf yn gymwynaswyr mawr i ni a grwpiau eraill. Heb law amdanyn nhw, fysa gynnon ni mo’r cerddi i’w canu.”

Teithio diddiwedd

Yn 1967, cyhoeddodd Hogia’r Wyddfa eu Ep cyntaf ar label Dryw ac un arall yn 1969 cyn y bu’n rhaid cael hoe o’r teithio diddiwedd.

“Mae ochr arall i lwyddiant,” esbonia Arwel Jones. “Roedden ni’n ei gorwneud hi ar brydiau a dyna pam wnaethon ni roi’r gorau iddi am sbel yn y 1970au. Mae gan Myrddin, dw i’n meddwl, dyddiadur o’r cyfnod sy’n dangos ein bod ni wedi cael tri dydd Sul adra mewn tri mis. Ond fel arall, atgofion pleserus sydd gen i o’r 50 mlynedd.”

Erbyn 1974, roedd Hogia’r Wyddfa yn teithio eto ac yn recordio yn stiwdio Sain ag apêl y casgliad wedi parhau tan heddiw.

“Heb os nag oni bai – roedd ein rhaglenni ni’n gymysg,” meddai Myrddin Owen, “o gerddi adnabyddus ac wedyn beirdd wnaethon ni dipyn o’i stwff nhw fel Rol Williams wnaeth sgwennu ‘Bysus Bach y Wlad’; Glyn Roberts a ‘sgwennodd ‘Safwn yn y Bwlch’; ac wrth gwrs ‘Llanc Ifanc o Lŷn’ gan William Jones, Tremadog.”

Mae 113 o ganeuon ar y bocs set newydd gan sain, Y Casgliad Llawn.

“Mae ‘na lawer ohonyn nhw ac mae’n anodd dewis,” meddai Elwyn Jones. “Ond mae Llanc Ifanc o Lŷn’ yn un o’r topiau.”

Mae Myrddin Owen yn cytuno gan ychwanegu, “er bod caneuon doniol fel ‘Tatws Trwy’u Crwyn’ a ‘Bysus Bach y Wlad’ yn hwyl i’w canu o flaen torf â’r gynulleidfa’n mwynhau.”

Ac mae gan Arwel Jones reswm arbennig dros ddewis ei hoff gân.

“Hen Ŵr Bont y Bala’ oedd y gân olaf i mi ei chyfansoddi.

“Roedd y bardd, Eirug Wyn, wedi gofyn i mi gyfansoddi cerddoriaeth i fynd gyda hi a finnau’n dweud fy mod i wedi stopio cyfansoddi – ond roedd o’n mynnu mai fi ddylai wneud y gerddoriaeth, dw i’n falch mod wedi ei gwneud hi rŵan.”

Magu yn sŵn yr harmoni – Anette Bryn Parri

“Ro’n wedi cael fy magu yn sŵn Hogia’r Wyddfa a gan fy mod i’n dod o’r un ardal, hefyd, roedd hi’n fraint derbyn,” meddai’r pianydd Anette Bryn Parri sydd wedi bod yn gyfeilydd i’r grŵp ers bron i 25 mlynedd.

“Maen nhw wedi dod yn ffrindiau agos iawn, iawn i mi ac maen nhw’n gymeriadau sy’n hoffi cael hwyl, er bo nhw’n cymryd y perfformiadau yn hollol o ddifri.

“Roedd yr harmoniau ganddyn nhw o’r dechrau un ond dw i hefyd yn gwerthfawrogi eu cyfraniad nhw i gerddoriaeth Cymraeg sef rhoi barddoniaeth i gerddoriaeth am y tro cyntaf.”

Teithio’r byd

Mae Hogia’r Wyddfa wedi mynd â cherddoriaeth Gymraeg i America, Awstralia, Canada a Lagos yn Nigeria drwy wahoddiadau Cymdeithasau Cymraeg.

“Mae’r tripiau tramor yn uchafbwyntiau oherwydd eu bod nhw’n llefydd gwahanol,” meddai Arwel Jones. “Roedd rhaid i ni newid ein dillad dair gwaith mewn un cyngerdd yn Nigeria oherwydd ein bod ni’n chwysu cymaint!”

“Ond yr unig beth dw i’n gresynu amdano fo ydi na chawson ni’r cyfle i fynd i Batagonia.

“Gaethon ni gynnig dair gwaith ond yn methu mynd am wahanol resymau. Mae hynny’n biti o’r mwya’.”

Ar ôl canu mewn Noson Lawen yn yr Eisteddfod eleni a chyhoeddi bocset, ai dyma ddiwedd y gân i Hogia’r Wyddfa?

“Dathlu ydan ni, dim rhoi’r gorau iddi,” mynna Arwel Jones.

“Ond mi fyddwn ni’n gwybod pa gyngerdd fydd yr olaf a fyddwn ni ddim yn hysbysu’r peth – dim ond llithro nôl i’r tywyllwch mawr.”