Wrth ei waith bob dydd, mae Owain Fôn Williams yn cael ei dalu i ddal pêl.
Ond er mwyn ymlacio, mae’r golwr rhyngwladol yn dal brwsh paent ac yn darlunio pêl-droedwyr heddiw a chwarelwyr ddoe.
Fe gafodd ei lun o garfan Cymru yn dathlu buddugoliaeth yn Ffrainc adeg Ewrop 2016, sylw ym mhapur newydd The Times.
Ac mae’r gôl-geidwad wedi paentio portreadau o Gareth Bale, Chris Coleman ac Aaron Ramsey hefyd.
Y lluniau hyn sydd i’w gweld yn ei arddangosfa, Arwyr, yn Oriel Ynys Môn yn Rhosmeirch ger Llangefni.
A hithau’n gyfnod Cwpan y Byd, gobaith yr oriel oedd defnyddio lluniau sêr Cymru i ddenu “pobol efo diddordeb mewn ffwtbol ond ddim mewn Celf.”
“Roedden ni’n meddwl y byddai’r pwnc yn denu pobol i’r oriel sydd efallai ddim yn dod fel arfer,” meddai Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn.
“Ac yn bendant, mae o wedi helpu ni i ddenu cynulleidfa dydan ni erioed wedi’i chael o’r blaen.
“A hithau’n adeg Cwpan y Byd, roedden ni’n meddwl y bdyda fo’n boblogaidd…
“Ac roedden ni’n gweld, adeg agoriad yr arddangosfa, pobol yn dod yma nad ydan ni wedi eu gweld o’r blaen.
“Pobol yn dod mewn crysau ffwtbol, ac roedd hynny reit neis i’w weld.”
Nid yw Owain Fôn Williams wedi cael yr un wers arlunio ers ei ddyddiau ysgol. Ond mae wrth ei fodd yn treulio oriau gyda’r brwsh a’r paent.
Mi gymrodd bum mis iddo baentio’r llun mawr enwog o’r garfan a welwyd yn The Times.
Ac mae Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn yn llawn clod i ddoniau darlunio’r gôl-geidwad.
“I feddwl nad ydy o wedi cael dim hyfforddiant ffurfiol mewn Celf, dw i’n ei edmygu yn ofnadwy,” meddai Nicola Gibson.
“Mae ei luniau yn wych ac mae o’n dalentog ofnadwy… ac i feddwl fod o’n ffwtbolar hefyd… Waw!”
“Ac fe gymrodd un llun bum mis i’w baentio, felly mae yna lot o feddwl y tu ôl iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn digwydd dros nos.”
Mae creu’r darluniau yn ffordd o ollwng stêm ar ôl gêm, meddai Owain Fôn Williams.
“Mae pobol yn dweud am ffwtbolars: ‘O! Bywyd braf sydd ganddo chi. Dim ond dwy awr yn y boreau ti’n gweithio bob diwrnod!’
“Iawn, digon teg, os mai yna maen nhw’n ei weld o.
“Ond tydi pobol ddim yn sylweddoli be’r ydach chi’n gotfod ei roi yn yr oriau eraill, lle fedrwch chi ddim gwneud dim byd am eich bod chi wedi blino.
“Mae’n rhaid i chi orffwys a rhoi’r traed i fyny [rhwng yr ymarferion], achos rydach chi’n gwybod y bydd angen bod yn barod y diwrnod canlynol.
“O’r eiliad mae’r gêm yn gorffen ar ddydd Sadwrn, rydych chi’n meddwl yn syth bin am y gêm nesaf. Ac rydach chi’n paratoi’r corff ar gyfer y gêm nesaf…
“Wedyn pan dw i’n mynd i beintio, mae o’n ffordd i fi ymlacio.
“Mae lot o’r hogiau yn chwarae gemau Playstation neu beth bynnag, ond fedra i ddim gwneud hynny.
“Mae’n rhaid i mi wneud rhywbeth sydd â mwy iddo fo, na rhywbeth ffwrdd â hi fel chwarae gêm.
“Wedyn fydda’ i’n chwarae gitâr neu baentio, dyna ydy’r ddihangfa i fi.
“Ffordd o anghofio am bwy fyddan ni’n chwarae nesaf.”
Er ei fod yn falch bod orielau yn dewis dangos ei waith, mae Owain Fôn Williams yn dweud ei fod yn paentio er mwyn plesio ei hun, ac nad oedd creu casgliad ar gyfer arddangosfa o unrhyw gynllun bwriadol.
“Y rheswm wnes i ddechrau [paentio’r lluniau], oedd fy mod i eisiau eu rhoi nhw ar fy wal fy hun.
“A dw i wedi bod yn ddigon lwcus bod pobol eraill yn cael yr un mwynhad allan ohonyn nhw.
“Unwaith fydd pobol wedi cael digon o fy lluniau i, fydda’ i’n fwy na bodlon eu rhoi nhw ar fy wal fy hun.
“Achos rhywbeth dw i’n cael pleser ohono fo ydy o, yn hytrach na gwaith.”
Yn ogystal â’r pêl-drodwyr enwog, mae’r golwr yn paentio lluniau chwarelwyr.
“Mae’r ddau beth yn golygu lot i fi,” meddai Owain Fôn Williams.
“Y chwareli achos roedd fy nhaid yn chwarelwr, ac mae gynnon ni adref feddwl y byd o’n taid.
“A’r ail beth yw’r Ewros. Taswn i’n gallu troi’r cloc yn ôl, mi faswn i’n ei wneud o mewn eiliad.
“Mae o’n ddwy flynedd ers i ni fod yn Ffrainc, a jest i gael y blas yn ôl. Roedd o’n arbennig.”