Mae’r canwr, cyflwynydd radio ac awdur Cerys Matthews wedi cyhoeddi llyfr o ryseitiau sy’n gyfuniad o gerddoriaeth a choginio…

Y gegin yw calon cartref Cerys Matthews yn Llundain ac mae bwyd yn mynd law yn llaw a cherddoriaeth yno.

“Dyna pam wnes i gynllunio’r tŷ fel bod y gegin yn y canol, gyda’r bwrdd bwyta a bar ac wedyn grisiau yn mynd lawr at y stafell lle mae’r piano, y gitars a stwff, a’r record player,” meddai’r cerddor, cyflwynydd radio ac awdur.

Fel ei chartref, mae llyfr newydd Cerys Matthews, Where the Wild Cooks Go, yn wledd o ryseitiau o wledydd ar draws y byd a cherddoriaeth yn ogystal â cherddi, pytiau o hanes a ffeithiau diddorol.

“Mae’n gyfuniad o bopeth dw i wedi dysgu dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, yr holl ryseitiau, cyfrinachau a tips.

“Pan o’n i ar daith gyda Catatonia ro’n i’n cadw dyddiadur ac mae lot o’r pethau oedd yn y dyddiaduron yn y llyfr, fel rysáit am coctel gan Ian Brown o The Stone Roses.”

Bu’n rhaid i Cerys Matthews “frwydro efo’r cyhoeddwyr” i’w darbwyllo y byddai’r syniad ar gyfer y llyfr “yn gweithio”.

“Mae Spotify playlist ar gyfer pob gwlad yn y llyfr achos, i fi, mae bwyd a cherddoriaeth yr un mor bwysig â’i gilydd,” meddai.

“Ry’n ni mor lwcus i fyw yn yr unfed ganrif ar hugain – ry’n ni’n gallu mynd i fwyty Eidalaidd, neu gael Chinese takeaway neu gyri, rydan ni mor gyfarwydd efo cael y dewis yna. Fydden i ddim eisiau cael un heb allu mynd at y nesaf a thrio blasau newydd.

“A dyna sut dw i’n gwrando ar gerddoriaeth – fasen i ddim eisiau gwrando ar un math o gerddoriaeth drwy’r amser. I fi, y peth pwysig efo bwyd a cherddoriaeth ydy’r elfen yna o ddarganfod pethau newydd.

“Pan dw i’n teithio, dw i’n hoffi ffeindio’r llefydd yna lle mae’r bobl leol yn mynd.”

Mae Cerys Matthews wedi bod â diddordeb mewn bwyd a choginio ers yn blentyn ac yn mwynhau chwilio am fwyd yn y perthi a’r gwyllt.

“Fi oedd wastad yn gwneud y barbeciw ac ro’n i’n hoffi bod tu allan, ac yn fforio. Dw i’n berson ymarferol iawn ac un o’r rhesymau dros ddechrau y Good Life Experience [yr ŵyl flynyddol ym Mhenarlâg] oedd achos fy mod i eisiau i blant cael y profiad yna o fod tu allan yn y byd naturiol.”

Ar ôl byw yn yr Unol Daleithiau am rai blynyddoedd lle’r oedd pobl “yn prynu esgus am fwyd efo’r holl gemegau sy’n cael effaith mor ofnadwy ar yr amgylchedd,” roedd hi’n awyddus i fynd nôl at fwyta bwydydd cyflawn gyda blas “go iawn” y gwledydd mae hi wedi ymweld â nhw ar draws y byd.

“Dydy’r ryseitiau [yn y llyfr] ddim yn anodd. Maen nhw’n fan cychwyn. Os oes rhywun eisiau coginio bwyd o Japan neu Mecsico ma’n brilliant achos rydych chi’n gallu gweld be ydy’r prif gynhwysion. Os oes gyda chi’r sbeisys a’r cynhwysion sylfaenol mae’n galluogi chi i goginio rhywbeth blasus yn gyflym iawn.

“Dw i ddim yn un sy’n hoffi gwario oriau yn y gegin – dw i eisiau bwyd sy’n flasus, ymarferol a chynaliadwy. Dw i’n gweithio hefyd a dw i ddim yn gallu mynd i siopa am fwyd bob dydd. Fy rysáit go-to ydy Dhal a reis. Mae’n rhywbeth alla’i gael ar y bwrdd o fewn hanner awr. Fi’n hoffi Dhal achos mae e mor syml ac yn absolutely blydi blasus ac mor dda i chi a’r amgylchedd.”

Bwyd flexitarian a gwerthu ffagots

Mae llawer o’r ryseitiau yn rai flexitarian, meddai, lle mae modd tynnu’r cig o’r rysáit os nad ydych chi’n ei fwyta.

“Doeddwn i byth wedi bwriadu peidio bwyta cig ond dw i ddim yn bwyta lot rŵan,” meddai Cerys Matthews.

“Dw i yn cael caws a llaeth o bryd i’w gilydd ond dy’n ni ddim yn prynu cig yn y tŷ rhagor. Os chi am fwyta cig mae’n bwysig gwybod o le mae’n dod a sut mae wedi cael ei gynhyrchu.

“Mae Glenys, fy merch, yn 16 oed ac yn figan ac mae na rysáit yn y llyfr am bice ar y maen figan. Mae’n mwynhau coginio ac yn hoffi ffeindio atebion figan i bethau. Mae’r plant i gyd yn mwynhau arbrofi yn y gegin.

“Mae ’na rysáit am hagis figan hefyd a hagis, man a man i chi ddefnyddio’r holl anifail os am fwyta cig. Ac mae ’na rysáit am ffagots gan fy Anti Dilys sydd dros 100 oed. Roedd rhai o fy nheulu i yn arfer gwneud ffagots a’u gwerthu nhw yn y farchnad yng Nghastell-nedd ers talwm.”

Mae unrhyw un sy’n gyfarwydd â rhaglenni radio Cerys Matthews, y Blues Show ar BBC Radio 2 a’i rhaglen ar ddydd Sul ar BBC 6 Music, yn gwybod bod ganddi ddiddordeb mewn pynciau amrywiol. Yn yr un modd bydd Where the Wild Cooks Go yn apelio at bobl “sydd efo diddordeb yn y byd”, meddai.

“Mewn ffordd mae’n edrych ar sut rydan ni’n diffinio ein hunain ac yn chwalu ambell myth, er enghraifft mae Sant Padrig [nawddsant Iwerddon] yn dod o tu fas i Bort Talbot. Mae’n edrych ar gymeriadau o hanes y byd, a pham maen nhw’n dal i greu ripples. Mae wastad yn ddiddorol gweld pethau o berspectif gwahanol.”

Yn 2020 mae Cerys Matthews yn bwriadu parhau gyda’i rhaglenni radio, yn ogystal â mynd i Ŵyl y Gelli Gandryll a gwyliau llenyddol ar draws y byd i hybu’r llyfr newydd.

“Mae wedi cymryd sbel i roi’r llyfr at ei gilydd felly dw i eisiau ei helpu ymlaen ar ei daith.”