Wythnos cyn iddo droi’n 90 oed, bu Meredydd Evans yn annerch cefnogwyr Cymdeithas yr Iaith a mudiad Cylch yr Iaith yn Aberystwyth. Bydd cynrychiolwyr y ddau fudiad yn cyfarfod â’r Gweinidog Treftadaeth ar ôl y Calan i drafod pryderon ynglyn â safon y Gymraeg ar radio a theledu.
Mae Merêd yn ddi-ildio o safbwynt y parch ddylai gael ei roi at y Gymraeg ar y cyfryngau. Wedi’r cwbwl, dyma’r dyn a helpodd i ddod â nosweithiau llawen ar hyd y wlad i’r sgrin fach ddegawdau yn ol, yn rhinwedd ei swydd yn Bennaeth Adloniant gyda’r BBC. Roedd eisie i’r werin gael eu difyrru trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.
“Mae’n rhaid ei rhoid hi o hyd ac o hyd ac o hyd,” meddai. “Waeth pa mor lwyddiannus fydd y busnes Cymru’n Un yma, a dwyieithrwydd ac yn y blaen. Dw i’n teimlo does na ddim ffordd iawn i fynd ymlaen i’r dyfodol, ond trwy bwysleisio bob amser bod gennym ni sefydliadau sydd yn gweithio’n unig trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sydd yn dehongli y byd a’i holl bethau a’i brofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’n rhaid bod y Gymraeg mewn sefydliadau sydd yn genedlaethol – mewn rhai ohonyn nhw beth bynnag – yn dal ei thir ei hun, yn feistras yn ei thir ei hun.”
“Gwendid” yn y Cymry yw ein bod eisie addasu i drefn Brydeinig y cyfryngau Seisnig, meddai.
“Mae ein gwendid ynddom ni’n hunain fel Cymry Cymraeg. Dyna’r gwir amdani. Mae yna gymaint ohonyn nhw sydd â’r meddylfryd Brydeinllyd gynnon ni, rhai sy’n gweithio yn y cyfryngau hefyd.
“Os ydan ni am sôn am y byd, wel, soniwn am y byd. Ac nid sôn am y byd trwy lygaid Prydain ac America, ond soniwn am y byd te – soniwn am Ffrainc, yr Eidal a de America… Os ydan ni eisio ymwneud â’r byd, yna ymwnawn â’r byd fel Cymry Cymraeg, ac edrych ar bethau trwy’n sbectols ein hunain.”
Cymry’n rhy ofnus
Problem fawr i Meredydd Evans yw bod penaethiaid sefydliadau Cymreig yn “cyfaddawdu” ar y Gymraeg, rhag ofn cael eu pardduo â delwedd eithafol.
“Mae Cymry Cymraeg sydd yn mynd i swyddi o ‘bwys’, chwadal hwythau, lle maen nhw’n gallu ffurfio polisi a gwneud gwahaniaeth, â themtasiwn enfawr – nid o’u hewyllys nhw ond o natur y swydd – i blygu nôl gymaint ag y medran nhw i beidio â chael eu cyhuddo o fod yn eithafwyr, i beidio â chael eu cyhuddo o fod yn granciaid Cymraeg.
“Maen nhw mor barod i gyfaddawdu. Ond pan fo Sais yn dwad – yn cymryd diddordeb ac yn gweld bod yna rywbeth diddorol o gwmpas y diwylliant newydd yma mae’n dod i fyny iddo fo – gewch chi hwnnw yn fwy ymroddgar o lawer.
“Rydach chi’n eithafol, yn rhagfarnllyd, rydach chi’n hiliol… mae hwnna’n anodd iawn i Gymro Cymraeg a Chymraes Gymraeg pan maen nhw’n mynd i swyddi.”
Yn ei farn e, nid yw’r diwylliant Cymraeg ddim elwach pan fydd cantorion Cymraeg yn llwyddo y tu allan i Gymru.
“Mae’r hen fusnas yma yn beryglus iawn – ‘o, mae’n bwysig bod Cymru’n cael ei chynrychioli ar lwyfan y byd.’ Dydi o ddim i mi te. Dydi o ddim yn bwysig i mi o gwbl. Os oes gennym ni berfformwyr sy’n medru perfformio – ac mae gennym ni, ddigon – ar lwyfan y byd, wel dyna fo.
“Maen nhw’n profi eu hunain yn eu maes eu hunain. Tydan nhw ddim – jyst oherwydd eu bod nhw’n gwneud hynny – yn gwneud unrhyw wahaniaeth i rymuster ein diwylliant Cymraeg ni yma adre yng Nghymru.”
“Perfformwyr cydwladol: ardderchog. A bod nhw’n Gymry Cymraeg: rhagorol. Dyna fo. Dydi o ddim yn gwneud gwahaniaeth i be sy’n digwydd yma yng Nghymru. Be sy’n gwneud gwahaniaeth i be sy’n digwydd yng Nghymru yw be mae’r Cymry Cymraeg yn ei wneud yng Nghymru.”
Dyw e’n malio’r un taten os yw pobol yn ei alw’n ‘hiliol’ y tu ôl i’w gefn.
“Does yna neb yn dweud yn eich wyneb chi. Dim ots gen i be maen nhw’n ei feddwl. Swn i’n eu hateb nhw nôl a dweud, ‘na, dydw i ddim.’ Dw i’n gwybod yn iawn mod i ddim yn hiliol.”
Triawd y Coleg a’r hen ganu poblogaidd
‘Tŷ ar y Mynydd’ gan y grŵp Maharishi yw un o hoff ganeuon pop Meredydd Evans. Wrth gwrs, roedd e yn gwneud caneuon pop 60 mlynedd nôl.
Mae rhai o ganeuon Triawd y Coleg – y grŵp harmoni a ffurfiodd gyda’i ddau ffrind coleg, Cledwyn Jones a’r diweddar Robin Williams – yn ffefrynnau hyd heddiw. Dyna pam y mae Sain yn ffyddiog y bydd mynd mawr ar Goreuon Triawd y Coleg, sydd allan yr un mis ag y mae Meredydd Evans yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.
Caiff cenhedlaeth ifanc wrando ar harmonïau a chlyfrwch geiriol caneuon fel ‘Beic Peni-Ffardding fy Nhaid’, ‘Pictiwrs Bach y Borth’ a ‘Triawd y Buarth’ – a Merêd ei hun yn canu’r bythol ‘cwac cwac.’
“Ro’n ni’n canu wedi’r cyfan ar ddiwedd Ail Ryfel Byd,” meddai Meredydd Evans. “Roedd pethe’n llwydaidd. Oedd pobol eisio dipyn o hwyl. A thrwy gyfnod y rhyfel… doedd fawr o ddim hwyl Gymraeg ar y radio. Felly roedden ni’n naturiol yn trio diddori cynulleidfaon trwy ryw ganu serch ysgafn.
“Rhyw ganu fwyn felodig o’n ni’n ceisio’i greu. Doedd dim pwyslais mawr ar guriad a chynhyrchu sain a phethe felly, sy’ mor nodweddiadol o ganu poblogaidd heddiw. Felly o’n i’n methu dallt pam bod Dafydd Iwan yn meddwl y byddai’n beth da i ail-ddŵad â’r rhein i’r farchnad. Mi gawn ni weld sut fydd rhain yn cael eu derbyn rŵan.”
Cafodd Meredydd Evans ei fagu ym Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, ac mae’n talu teyrnged hael i gerddorion fengach ar ardal honno.
“Mae cerddoriaeth yn newid fel y mae’r drefn economaidd, gymdeithasol, wleidyddol yn newid,” meddai, a’i lais yn gryg. “Dichon fod yna rai elfennau mewn canu poblogaidd sy’n weddol arhosol, ac sy’n apelio ymhob cyfnod mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
“Dw i wrth fy modd â ‘Tŷ ar y Mynydd.’ Mae honna yn gân bop, ag idiom cwbl gyfoes, ond mae’r peth arhosol yna sy’n apelio ynddi hi. Mae yna lawer iawn iawn o ganeuon tebyg. Digon posib – mae yna ganeuon poblogaidd o’r 19eg ganrif sy’n dal i fedru gweithio. Pethau fel ‘Twll bach y Clo’ – mi apelith honno ar unrhyw adeg. Ac mae yna ganeuon serch gan Ceiriog, er enghraifft; arhosith y rheiny tra arhosith yr iaith Gymraeg.
“Bydda i’n mwynhau canu pop. Mae yna dda a drwg ar bob math ar gerddoriaeth. Bydda i wrth fy modd ar stwff Meic Stevens, Bryn Fôn a Geraint Lovgreen. Yn naturiol mae gen i dipyn o bias tuag at Ffestiniog ac Anweledig, a’r holl frwdfrydedd sy’ na yn y Blaenau at greu pop.”
Wnaiff e byth syrffedu ar gerddoriaeth boblogaidd, meddai, am ei fod e “y fath o greadur ydw i, am wn i.”
“Mater o ennynau, mater o gefndir, mater o etifeddiaeth ydi o. Does na ddim ymdrech o’m rhan i i fod fel’na. Dw i’n lwcus fy mod i felna; dw i’n falch mai fel’na ma’ hi.
“Mae eisie rhywun sylweddoli bod cyfnodau yn newid, a rhaid i rywun ymateb i’r newid yn y cyfnodau, a chael allan o’r newid yna, gymaint o foddhad ag a fedrwch chi.”
Yr un pryd â’r CD, bydd Merêd yn cyhoeddi’r llyfr Hela’r Hen Ganeuon – ffrwyth llafur sawl blwyddyn. Mae e’n gobeithio y bydd y llyfr yn “apelio ar lefel gyffredinol ac academaidd” ac yn hybu eraill i ymddiddori a hel sgwarnogod eu hunain o gwmpas yr hen ganeuon.
“Gobeithio bydd y peth yn cael ei ddefnyddio fel llyfr fydd yn awgrymu i bobol y dyfodol lle mae eisio mynd ymhellach arno fo, a gwella arno fo. Dydi hwn ond yn sefyll ar ysgwyddau pobol eraill.”