Mae Aberystwyth yn debyg i ddinas yng ngogledd Syria cyn iddi gael ei chwalu’n yfflon gan ryfel cartref. Dyna farn dyn sydd wedi gorfod dianc i’r dre’ ar lannau Bae Ceredigion. Bu’n rhaid i Mohamad Karkoubi ffoi gyda’i deulu o Aleppo ac ers Rhagfyr 2015 mae wedi bod yn byw yn y dref ger y lli.
“Cyn y rhyfel roedd Aleppo – rhyw ddeg, neu ugain blynedd yn ôl – yr un peth ag Aberystwyth,” meddai.
“Roedd pobol Aleppo yn gyfeillgar iawn cyn hynny. Ac roeddech yn medru ffeindio pob math o swyddi. Ond dyw hi ddim yn ddiogel nawr.” Doedd e ddim wedi clywed am Aberystwyth cyn symud yno a doedd ganddo ddim gair o Saesneg na Chymraeg. Ond, ar ôl cael ei galonogi gan y croeso cynnes a’r “bobol gyfeillgar iawn” yn Aber, fe aeth ati i ddysgu’r ddwy iaith.
Yn ddiweddar enillodd Mohamad Karkoubi wobr am ei lwyddiant yn dysgu Cymraeg mewn seremoni gan y mudiad Gwobrau Cenedl Lloches. Erbyn hyn mae ei dri phlentyn – dau fachgen ac un ferch – hefyd yn dysgu rhywfaint o Gymraeg yn eu hysgol yn Aberystwyth.
“Maen nhw’n siarad Saesneg a Chymraeg erbyn hyn,” meddai wrth Golwg yn Saesneg.
“Wrth gwrs, rydym yn dysgu gyda’n gilydd trwy’r amser yn ein cartref… Dw i’n hoffi medru ei siarad â fy nheulu.” Daeth newid byd i’r teulu wrth iddyn nhw orfod ffoi o’r rhyfel cartref yn Aleppo. Roedden nhw ymhlith y teuluoedd o ffoaduriaid o Syria a gafodd eu gosod yng Nghymru o dan gynllun llywodraeth gwledydd Prydain.
Pan oedd yn byw yn Syria, roedd Mohamad Karkoubi yn weldiwr a chafodd ddefnyddio’r un grefft pan symudodd i Geredigion. “Roedd fy swydd yr un fath yn Aleppo. Roeddwn yn weldio, yn gweithio gydag alwminiwm ac yn creu trelars. Roeddwn yn gwneud drysau hefyd. Pob math o bethau.”
“Ac mae’n dweud ambell waith, os oes rhywbeth bach yn ei boeni, ei fod eisiau mynd adre [i Syria]. Ac wedyn, y diwrnod ar ôl hynny, mae’n dweud bod e ddim eisiau mynd adre achos bod dim i gael yna. Mae’n eitha’ diflas…
“Aeth hi mor ddrwg rhyw ddiwrnod es i: ‘Dyna ddigon Mohamad bach, gad pethau fel mae e.’ Doedd e ddim yn neis o gwbl. Mae wedi bod yn ofnadwy arno fe.”
Ers tua blwyddyn a hanner mae’n gweithio yn Nhregaron i gwmni DA Rees Welding. Gan mai Cymraeg yw’r iaith bob dydd yn y gweithdy, roedd wedi dechrau dysgu cyn cael gwersi ffurfiol. “Roeddwn i a fy met Arwel, [sy’n gweithio] fan hyn, yn gweiddi arno fe yn y bore amser te,” meddai un o’i gydweithwyr, Steve Tandy. “Ac roedd e’n gofyn i ni: ‘Beth yw hwnna? What is that?’
“Roedd rhaid i ni esbonio iddo fe, a roedd e’n gweiddi arnon ni wedyn! Mae’n cydio ynddi ac mae interest gyda fe. Mae e moyn gwybod beth yw’r geiriau. Mae e wrthi o hyd…
“Ambell waith dw i’n mynd â fe lawr i Dregaron i ddal y bws ar ôl gwaith ac mae’n dysgu rhyw air newydd bob tro… A dweud y gwir, dw i’n credu ei fod yn codi’r Gymraeg yn well na mae wedi gwneud â’r Saesneg.”
Yn ôl Steve Tandy, mae Mohamad Karkoubi yn foi “bywiog a hapus” sy’n “joio jôc fach”, ond mae’n derbyn bod yna ochr dywyll i’w fywyd hefyd. “Dw i’n credu ei fod yn syffro bach ar ôl beth mae wedi ei weld yn Aleppo,” meddai. “Dw i’n teimlo hynny weithiau.
Trwy ei waith yn bennaeth adran dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a gyda’r elusen AberAid, mae Siôn Meredith wedi dod i adnabod Mohamad Karkoubi yn “eitha’ da”.
“Mae Mohamad bob amser yn frwdfrydig iawn, ac yn gadarnhaol iawn,” meddai. “Ac mae wir wedi gwneud ymdrech i ymdoddi yn y gymuned leol ers dod yma bron i bedair blynedd yn ôl.
“Er nad Cymru ydy cartref Mohamad yn wreiddiol, dw i’n meddwl ei fod o’n dechrau cyfri ei hun yn ychydig bach o Gymro hefyd. Mae’n awyddus i gael yr ymdeimlad o berthyn, dw i’n meddwl, i’w wlad newydd fabwysiedig.” Ers bron i flwyddyn mae Mohamad Karkoubi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy adran dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.
“Dw i wedi bod yn ymarfer tipyn o Gymraeg gydag e,” meddai Siôn Meredith. “Mae’n dipyn o fynydd iddo ddringo wrth gwrs. “Pan oedd o, fel llawer o Syriaid eraill, yn dod yma, doedd o ddim wedi arfer gyda’r sgript Ladin. Felly roedd hi’n anodd iddo, ar y dechrau, fedru gweld y gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Saesneg.
“Felly mae dysgu darllen ac ysgrifennu’r sgript Ladin newydd yn dipyn o gamp i rywun sydd ddim wedi dysgu hynny o’r crud fel y rhan fwya’ ohonon ni sy’n byw yng Nghymru.”
Ar ben hynny, mae’n “codi ymadroddion Cymraeg”, meddai, a chyn iddo ddechrau’r gwersi roedd eisoes yn dweud pethau fel “amser cino” gydag acen leol.
Mae Siôn Meredith yn cydnabod mai yn Syria y mae “calon” y ffoadur a bod y sefyllfa yn un “boenus”. Mae’n debyg bod ambell atgof o’r Dwyrain Canol mewn llefydd go annisgwyl, yn ôl Siôn Meredith a oedd yng nghwmni Mohamad Karkoubi mewn cinio AberAid mewn eglwys yn ddiweddar.
“Roedd hynny’n gwneud iddo gofio am yr eglwysi hardd yn Aleppo…” meddai. “Roedd o’n rhyfeddu at brydferthwch yr eglwys.” Er ei fod yn anodd iddo siarad am ei brofiadau cyn ffoi o Syria, mae Mohamad Karkoubi yn meddwl yn aml am ei famwlad lle mae teulu ei wraig yn dal i fyw.
“Ydw. Ond dw i’n hapus ar hyn o bryd fan hyn. Dyw hi ddim yn saff yn Syria.”