Er bod yr enw’n gyfarwydd, mae angen darllen am ei waith ar y We a’r erthyglau amdano o bedwar ban byd, i sylweddoli pa mor enwog yw’r actor Luke Evans. Wrth ei holi, mae ei lais yn debyg i’r cawr arall o Gymro a serennodd yn y sinema, Richard Burton, ac mae ganddo lais canu bendigedig.

Cafodd yr actor 39 oed ei eni ym Mhont-y-pŵl a’i fagu yn Aberbargod ger Merthyr Tudful, a gwnaeth ei enw ar lwyfannau’r West End am dros wyth mlynedd cyn camu i fyd y ffilmiau. Mae ar hyn o bryd yn gwneud sblash go-iawn yn Hollywood, yn taclo pob math o rannau.

Ei brif ran gyntaf oedd yr hync yn y ffilm Tamara Drewe yn 2010 a bellach mae’n adnabyddus fel ‘Bard the Bowman’ yn nhrioleg The Hobbit, ‘Aramis’ yn y Three Musketeers, a ‘Dracula’ yn Dracula Untold, a’r gŵr yn The Girl on the Train yn 2016.

Ond cafodd newid byd yn ddiweddar wrth ymweld â Dyffryn Bekaa yn Libanus a gwersyll ffoaduriaid o Syria. Aeth yno yn rhan o’i waith yn llysgennad ar ran Achub y Plant. Ac yn y gwersyll, cafodd gwrdd â phlant rhwng tair a saith oed sy’n cael gwersi mewn dosbarth ar fwrdd bws yr elusen.

“Mae’n llonni’r galon,” meddai Luke Evans am y llun ohono yn chwerthin gyda Mustafa ac Ayesha a ffodd o Syria pan oedden nhw’n un a dwy oed, “ond eto yn gwneud i chi deimlo’n ofnadwy o drist bod y plant yma ddim yn cael gwneud beth ddylai plant fod yn cael ei wneud.

“Dy’n nhw ddim yn cael llawer o addysg gynnar. Ar ôl hynny, maen nhw’n lwcus os cân nhw unrhyw addysg, oherwydd fel arfer, am fod gyda nhw gynifer o deulu, maen nhw’n cael eu hanfon i weithio. Felly maen nhw’n mynd o ddim byd i lafur plant. Mae’n beth anhygoel o druenus.

“Mae rhoi’r dosbarthiadau yma iddyn nhw, lle allan nhw gael seibiant, a bod yng nghanol lliwiau ac athrawon, i gyd wedi’i dalu gan Achub y Plant, yn beth gwych i’w weld. Ond does yna byth ddigon o ddosbarthiadau, byth ddigon o athrawon.”

Cafodd fynd i’w cartref – “pabell, gyda llawr concrid a mat, a dŵr yn diferu drwy’r nenfwd”- a chwrdd â’u tad dall a rhannol fyddar, a’u hewythr. Roedd y teulu wedi gorfod ffoi a gadael eu fferm a’u heiddo i gyd, a cherdded diwrnod a hanner dros y mynyddoedd. Dyw’r plant ddim yn gwybod ymhle mae eu mam erbyn hyn, na chwaith yn cofio’u mamwlad.

“Beth sy’n anhygoel am blant, yn arbennig y rhai bach, yw eu diniweidrwydd, a’u dycnwch a nhwythau heb ddim,” meddai. “Roedd hi’n anhygoel gweld y wên ar eu hwynebau.

Roedd y bachgen yn gwisgo’r unig siwmper oedd ganddo, a fflip-fflops am ei draed mewn gwersyll yma lle bydd y tymheredd yn disgyn i meinws saith mewn wythnos neu ddwy. Mae’n sefyllfa hynod druenus.”

Dywed Luke Evans bod ei fagwraeth gan rieni oedd yn Dystion Jehofa wedi’i ddysgu i werthfawrogi ei fywyd ac i helpu eraill.

“Mi gefais fy magu gan deulu cariadus a llawn gofal a oedd yn ymwybodol am helpu’r gymuned a helpu eraill nad oedd mor ffodus â ni yn cael tad a oedd yn gweithio,” meddai’r actor sydd wedi siarad yn gyhoeddus am gael ei fwlio pan oedd yn iau, a’r boen o orfod sefyll gyda’i rieni ar garreg drws ei gymdogion yn cenhadu.

Ond mae’n dweud wrth Golwg ei fod nawr yn gwerthfawrogi’r gwerthoedd a gafodd gan ei rieni.

“Roedd yna lawer iawn o deuluoedd un rhiant o’n cwmpas ni. Fydden ni byth yn cau ein drysau ac anwybyddu’r hyn a oedd yn digwydd y tu allan. Mae’n siŵr i hynny fod yn ddechrau da. Dw i’n diolch i fy mam a ‘nhad am hynny.

“Mi wnaeth hynny fi’n ymwybodol o ba mor lwcus oeddwn i i gael rhieni cariadus, bwyd iachus ar y bwrdd bob nos, gwely clyd, ac addysg – rhywbeth nad oeddwn yn ei werthfawrogi ar y pryd wrth gwrs.

“Nawr, pan fyddwch chi’n mynd i lefydd fel Libanus, India neu Yemen, rydych chi’n gweld addysg yn ei ffurf fwyaf simplistig yn cael ei anghofio, gan fod y plant yma yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid oherwydd rhyfel, neu eu bod wedi dianc o rywbeth ofnadwy. Wnaethon nhw ddim gofyn am gael eu geni i’r byd yna; nid eu dewis nhw oedd cael eu llusgo o’u gwelyau yng nghanol nos.”

Canu’r dydd a chanu’r nos

Dywed yr actor a wnaeth ei enw ar lwyfan y West End yn y sioeau Taboo, Miss Saigon Rent, bod ei hoffter o ganu hefyd yn deillio o’i fagwraeth.

Byddai’n arfer canu yn addoldy Neuadd y Deyrnas gyda’r Tystion Jehofa, yn gwybod “pob un gair” o’r llyfr canu. “Hefyd roedd gan fy nhad lawer o recordiau 45 yn y tŷ,” meddai. “Ro’n i’n gwrando ar Petula Clark, The Drifters, y Beatles, David Bowie, Queen, Abba, Cilla Black… felly cefais fy magu gydag ystod eang iawn iawn o gerddoriaeth. Dw i’n cofio mynd i’r ysgol a chwibanu ‘Saturday Night at the Movies’, a fy athro Gwaith Metel a oedd yn ei 40au yn gofyn, ‘pwy sy’n chwibanu’r gân yna?’ A finne’n ateb, ‘y fi’. ‘Sut ar y ddaear rwyt ti’n gwbod y gân yna?!’”

Fe fydd yn canu “unrhyw le – yn y gawod, yn y car,” meddai wrth Golwg. “Fe fydda i weithiau yn anghofio, yn edrych draw wrth olau coch ac yn gweld pobol yn syllu arna i, yn dweud, ‘drychwch ar y boi yna yn bloeddio canu!’”

Tybed a yw’n gwybod rhai o’r emynau Cymraeg? “Absolutely!” meddai, ar ei ben. Ei ffefryn yw ‘Bread of Heaven’. “O, a ‘Calon Lân’, mae hwnnw’n un hardd,” meddai. “Mae’n siŵr mai hwnnw oedd yr un cyntaf i fi ei ddysgu.”

Ac er nad yw’n siarad Cymraeg, mae’n deall cryn dipyn, meddai ond “sadly, not enough.” 

“Es i ddim i ysgol Gymraeg, ac roedd y Gymraeg ‘roedden nhw’n ei ddysgu yn fy ysgol i ddim o’r safon gorau, a bod yn onest,” meddai. “Mae’n hyfryd clywed nawr bod yna lawer o ysgolion yn ei annog, hyd yn oed yr ysgolion di-Gymraeg. Mae pethau wedi newid dipyn.

“Yn anffodus, does gen i mo’r iaith. Ond dw i’n dda iawn am ynganu. Dw i’n dda iawn gyda’r llythrennau dwbl. Dw i’n deall y cyfan.”

“Beth sy’n dda am yr iaith Gymraeg, mae gyda chi ‘rydw i’n hoffi’ a’r holl lythrennau cryf yna,” meddai.

“Mae eich tafod yn cael ei ddefnyddio; mi fyddwch chi wir yn defnyddio ac yn manteisio ar y llafariaid a’r cytseiniaid. Felly, pan fyddwch chi’n dewis unrhyw iaith arall… dy’ch chi ddim yn gollwng nac yn rhuthro dros y cytseiniaid. Mae’n gwbl eglur. Mae pobol yn ein deall mewn sawl gwlad dros y byd. Does dim eisie i mi ailadrodd fy hun rhyw lawer os dw i’n siarad gyda fy acen Gymreig, gan ei bod hi’n eglur.

“Dw i’n meddwl mai dyna pam r’yn ni wedi creu llawer o actorion llwyfan rhagorol, gan ein bod ni’n gallu taflu ein llais, ac yn eglur i bawb. Mae’r iaith Gymraeg, hyd yn oed os nad ydych chi’n ei medru hi … mae bod yn ymwybodol ohoni siŵr o fod yn helpu pethau ar gyfer actorion theatr, ac i actorion teledu hefyd.”

Symudodd Luke Evans i Gaerdydd pan oedd yn 17 oed, a chael gwersi canu gan Louise Ryan, cyn graddio o’r London Studio Centre yn Kings Cross Llundain yn 2000. Mae’n un o nifer o actorion o Gymru – gyda Taron Egerton, a Matthew Rhys yn eu plith – sy’n gwneud marc yn rhyngwladol.

Dros yr haf, fe fu’n ffilmio comedi i Netflix gyda Jenifer Aniston ac Adam Sandler yn Portofino yn yr Eidal, Murder Mystery “a oedd yn lot fawr iawn o hwyl”. Mae newydd orffen ffilmio Midway, ffilm gan y cyfarwyddwr Roland Emmerich am frwydr yn y Môr Tawel yn yr Ail Ryfel Byd, gyda “chast gwych o actorion” gan gynnwys Woody Harrelson, Ed Skrein a Dennis Quaid.

“Dw i wedi gorffen nawr tan y flwyddyn nesa,” meddai. “Er fy mod i’n dod i Gymru’r wythnos nesaf, gan fod gen i noson gyda Bafta Cymru yn yr Amgueddfa.”

Fe fydd yn gyfle iddo drafod ei yrfa a’i falchder o fod yn Gymro ar lwyfan y byd.

“Cefais fy magu mewn cymdeithas ddiwylliedig iawn – gyda cherddoriaeth, y theatr a’r gair ysgrifenedig. Ro’n i wastad yn sefyll yng nghanol llawr y stafell fyw, neu bartïon, i gael canu neu wneud rhywbeth.

“Mae’n rhywbeth r’yn ni’n hoffi ei wneud – diddanu, canu, gwneud pobol yn hapus. Mae’r Cymry yn grŵp o bobol radlon a chroesawgar, a rhan o’r rheswm yw ein bod ni’n hoffi diddanu. Mae yn ein gwaed ni.”