Mae gŵyl boblogaidd yn dychwelyd i Gaerffili am y 30ain tro ddydd Sul yma (Awst 25).

Ers 1995, mae Megaday wedi cael ei gynnal yn flynyddol yn y dref er mwyn codi arian at Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.

Cychwynwyd yr ŵyl gan bobol Caerffili fel teyrnged i gerddor Andrew Nichols, oedd â’r llysenw Mega, a gollodd ei frwydr i ganser.

Yn 2001, bu farw Paul Grahame, un o’r prif drefnwyr yr ŵyl, i ganser. Mae’r ŵyl wedi cael ei gynnal mewn cof y ddau ers hynny.

‘Cyflawniad anhygoel’

Y llynedd cafodd £17,000 ei godi trwy Megaday, ac ers cychwyn yn 1995 mae’r ŵyl wedi codi dros £390,000 i Felindre.

Eleni, mae gan drefnwyr Megaday targed i fod wedi codi £400,00 i Felindre i gyd.

“Dyma’r 30ain flwyddyn, mae hwn yn gyflawniad anhygoel yr ydym i gyd yn falch ohono,” meddai Peter Hopkins, un o drefnwyr yr ŵyl, wrth golwg360.

“Mae Megaday yn dibynnu ar gefnogaeth cymaint o bobol gan gynnwys Cyngor Tref Caerffili, busnesau, gwirfoddolwyr a’r gymuned, ac ni fyddem wedi cyrraedd y garreg filltir hon hebddyn nhw i gyd.

“Mae Megaday yn cymryd misoedd o gynllunio ac rydym yn falch o ymrwymiad trefnwyr, busnesau, y gymuned a’r gwirfoddolwyr i gefnogi Megaday.

“Ni allai hyn ddigwydd hebddyn nhw.

“Mae dod â’r gymuned ynghyd ar gyfer digwyddiad mor gadarnhaol a chodi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre yn rhywbeth sy’n ein cymell bob amser.

“Mae gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai yn Felindre yn rhywbeth arbennig.”

‘Digwyddiad arwyddocaol’

Gan gychwyn am 1 o’r gloch yng Nghlwb Rygbi Caerffili, bydd cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd gan fandiau lleol a pherfformiad gan Big Mac’s Wholly Soul Band i gloi’r ŵyl

“Mae [Megaday] hefyd yn gyfle i gofio am anwyliaid rydyn ni wedi’u colli, cydnabod y gefnogaeth y mae nifer wedi derbyn gan Felindre a chodi cymaint o arian â phosibl at Ganolfan Ganser Felindre,” meddai Peter Hopkins.

Cafodd y Megaday cyntaf ei gynnal tu mewn i Glwb Rygbi Caerffili, ond erbyn yr ail flwyddyn datblygodd i fod tu allan i’r clwb mewn pabell fawr.

Pob blwyddyn mae dros 1,000 o bobol yn mynychu Megaday.

“Mae’r ŵyl wedi bod yn ddigwyddiad arwyddocaol mewn calendr pobl Caerffili ac ardaloedd lleol ers amser maith,” meddai Peter Hopkins.

Am ragor o wybodaeth am yr elusen neu i wneud cyfraniad cysylltwch â megadaymegafest@gmail.com