Bydd tri artist newydd yn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fis Medi ar gyfer tymor 2024/25.
Erin Rossington ac Eiry Price, dwy soprano o Gymru, a’r basydd William Stevens fydd yn ymuno â’r cwmni fel Artistiaid Cyswllt.
Yn ogystal â derbyn hyfforddiant a chymorth, byddan nhw’n cael rhannau mewn operâu a chyngherddau ac yn cymryd rhan yng ngwaith cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru.
‘Gwefr’
Mae Erin Rossington, sy’n dod o Lanfair Talhaearn ger Abergele, wedi bod yn perfformio gyda Opera Cenedlaethol Cymru yn y gorffennol mewn operâu megis La Tragedié de Carmen ac Albert Herring.
Enillodd Wobr Goffa Elizabeth Harwood yn RNCM yn 2019, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Fel Artist Cyswllt, bydd Erin yn chwarae rôl y Chwaer Gardod Gyntaf yn Il trittico yr hydref hwn a rôl yr Iarlles yn The Marriage of Figaro yn y gwanwyn.
“Mae’n wefr cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru, ac rydw i wrth fy modd cael gweithio a byw yng Nghymru, gan ddefnyddio fy iaith gyntaf,” meddai Erin Rossington.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gael canu yn harddwch Theatr Donald Gordon, a chael mynd ar daith, yn enwedig gan y caf ymweld â Llandudno, sef yr ardal y tyfais i fyny ynddi hi.”
‘Wrth fy modd’
Graddiodd William Stevens o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, ac ymhlith ei rannau diweddar mae Don Basilio yn The Barber of Seville ar gyfer Opera Caerdydd.
Ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, bydd yn canu rhan Figaro yn The Marriage of Figaro a rôl Maestro Spinelloccio yn Il trittico.
“Mi welais Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio gyntaf pan oeddwn yn 16 a bu’n fwriad fyth ers hynny i weithio i’r cwmni mewn swydd,” meddai William Stevens.
“Rhai o fy hoff atgofion yn y theatr fu gwylio cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae’r cyfle i fod ar y llwyfan ym mhle’r oedden nhw wedi digwydd, ochr yn ochr â rhai o’r bobol oedd wedi’u creu, yn rhywbeth gwirioneddol gyffrous i mi.
“Rydw i wrth fy modd cael gweithio gyda thîm Opera Cenedlaethol Cymru dros y flwyddyn!”
Mae Eiry Price yn gyn-fyfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hefyd, ac yn ddiweddar mae hi wedi ymddangos yn La Princesse de Trébizonde gyda’r London Philharmonic Orchestra ac Il proscitto dan arweinyddiaeth Carlo Rizzi.
Ar y llwyfan, mae Eiry Price wedi ennill Gwobr Leisiol James Pantyfedwen, Ysgolorion Park Jones ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts.
Gydag Opera Cenedlaethol Cymru, bydd yn chwarae rôl Iarlles Cerprano yn Rigoletto ac yn ymddangos fel Barbarina, ac yn ddirprwy i Susanna, yn The Marriage of Figaro yn y gwanwyn.