Mae hi wedi bod yn hysbys ers cwpwl o flynyddoedd bellach taw Wrecsam yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf. Mae cryn dipyn o sisial wedi bod hefyd ynglŷn â lle yn union yn Wrecsam fydd y maes.

Ac felly roedd yn anochel braidd, ac yn ddigon naturiol, fod hyn yn mynd i fod yn bwnc trafod ymysg Steddfotwyr y brifwyl eleni, yn enwedig wrth i mi gael fy nghyflwyno iddyn nhw fel ‘Sara o Wrecsam’.

Bu rhai o bwyllgor cronfa leol Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn chwilfrydig ac yn ddireidus wrth rannu eu storïau nhw, a theimlais lawer iawn ysgafnach rywsut ar ôl siarad hefo nhw. Roeddwn wedi bod yn bryderus iawn, ac roedd clywed am eu profiadau cymysg nhw yn gysur rywsut.

Yn ddiddorol iawn, cefais wybod fod yna ‘AirBnBs’ yn Wrecsam, gan gynnwys yn y llefydd posh megis Gorsedd – ffansi! A daeth hynny gan rywun oedd yn awyddus i bwcio llety cyn gynted â phosib, ond doedd o ddim eisiau bod yn rhy bell o’r Maes.

Ac mae hyn yn codi pwynt pwysig yn gyffredinol: roedd y cyfaill yma yn hollol ymwybodol taw’r Ddinas-Sir gyfan sydd dan sylw, ac nid dim ond hen dref Wrecsam. Ond i’r sawl sydd heb ddysgu’r gwahaniaeth eto, mae’n rywbeth pwysig iddyn nhw ei ystyried.

Cawsom drafodaeth ddifyr am rai o’r lleoliadau fu’n destun sibrydion fwyaf diweddar, a’r llefydd gorau wedyn i ffeindio llety cyfleus. Ond, ar ddiwedd y dydd, does dim amdani ond aros nes i’r lleoliad gael ei gyhoeddi – ar Hydref 4 neu 5!

Y sibrydion a’r pryderon

Nid ar chwarae bach y caiff lleoliad y Steddfod ei ddewis, wrth reswm. Ond duwcs! Mae mis Hydref yn golygu y bydd gan bawb lai na blwyddyn i gynllunio! Ac fel gwnaeth un ffrind synfyfyrio, beth pe bai’n mynd yn rhy hwyr arnom, a fydd hi ddim yn bosib cael lle i gynnal yr Eisteddfod wedi’r cwbl?

Rhaid dweud, teimlais waelod fy stumog yn tynhau wrth ystyried hynny! Ond wnawn ni barcio hynny am rŵan…

Mae ryw sôn wedi bod am ei chynnal mewn castell yn rhywle, sy’n swnio’n hwyl, rhaid dweud! A dyfalaf taw allan yn y Waun fyddai hynny, efallai? Braf iawn fyddai gwledd o Gymreictod yn dŵad â sylw ac elw i ardal sydd fel arfer yn brin o’r tri pheth hyn.

Mae yna gaeau wedyn allan yn yr ardal hyfryd o wledig, Dyffryn Ceiriog, fu’n gartref i’n Robert Burns Cymraeg, John Ceiriog Hughes. Ond wrth drafod hyn gyda chyfaill o’r ardal honno, doedd o ddim yn teimlo fysai’r ardal yn ymdopi’n dda hefo’r holl halibalŵ Steddfodol – y traffig, y meysydd carafanau ac ati.

Ac mi rydw i, wrth gwrs, wedi bod yn trio cychwyn si ei bod yn mynd i gael ei chynnal yn Rhosllannerchrugog – un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas, lle mae trigolion yn aml yn cwyno bod pob dim yn cael ei drefnu yng nghanol y ddinas. Buasai Steddfod yn fa’ma yn rhoi hwb enfawr o ran diwylliant, egni, gobaith, gwaith, elw a.y.b. Ac mae’r Stiwt yn lle perffaith i nifer o’r pebyll – y Tŷ Gwerin, y Babell Lên, ac efallai hyd yn oed y Pafiliwn (gan gofio nad ydw i yn un dda am gyfri a logistics a.y.b!). Ac mae yna lwythi o adeiladau yn Rhos, megis capeli, fysa’n ddelfrydol am lwythi o bethau Eisteddfodol. Ac mae’n rhaid dweud, llawer iawn haws fyddai cau’r ffyrdd acw am ddeng niwrnod na sawl un o’r lleoliadau posib eraill. Ond, yn anffodus, dw i’n amau fy mod i ar fy mhen fy hun fach hefo’r freuddwyd yma.

Ac wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r sisial wedi bod ynglŷn â’i chael hi yng nghanol y ddinas. Dywed un cyfaill, sydd â bys mewn sawl pei perthnasol, taw’r syniad fyddai i lefydd gwag yng nghanol y dre’ gael eu defnyddio fel y Babell Lên, Tŷ Gwerin, a’r Pafiliwn.

Ac, yn wir, dyma sydd yn digwydd yn rheolaidd yn Wrecsam, ac mae hi’n braf iawn cael bod yn rhan o ddigwyddiadau megis talyrnau sy’n anadlu bywyd newydd i mewn i’r hen siopau digalon draw yn Nôl yr Eryrod – mae’n dod â gobaith yn ôl i’r fenter rywsut. Ond y Babell Lên mewn siop sydd wedi’i chau?! ‘Dim diolch!’ meddai un cyfaill fues i’n sôn am hyn wrthi ar faes y Steddfod – a chytunaf 100%!

Ac fel rhywun sydd yma yn y tirlun drwy’r flwyddyn, mae’n rhaid dweud y byddai’n teimlo’n undonog, fel ryw fath o ‘super-size-me’ Focus Wales/Wrexfest – ond yn llai cynhwysol a hygyrch i bawb.

Mae llawer o grwpiau yn gohirio digwyddiadau creadigol misol yn ystod mis Focus Wales, gan fod gormod yn mynd ymlaen. A phan fynychais Wrexfest yr wythnos ddiwethaf (gan berfformio’n annisgwyl hefyd!), roedd rhai o fy ffrindiau wedi blino’n lân ac yn mynegi rhyw deimlad tebyg i fod yn y ffair yn rhy hir – mynd rownd a rownd ar y ceffylau, a’r Dodgems a ballu. Oes wir angen dympio Steddfod yng nghanol hynny i gyd?

Mae hyn yn teimlo’n debyg i’r ffordd mae trigolion Llangollen yn teimlo weithiau, yn enwedig yn yr haf pan fo cynifer ohonom (ac, ydw, dw i yn rhan o’r broblem!) yn ceisio dianc draw i’r dyffryn hyfrytaf yn y byd, i eistedd wrth yr afon hefo hufen iâ. Mae’n orlawn, ac yn fwy o le i dwristiaid chwarae nag i drigolion jyst byw a bod.

Ac mae cerdd fuddugol y Goron eleni yn atseinio yn fy nghlustiau – achos, wir Dduw, wnes i fyth feddwl y byswn yn gweld Wrecsam yn godde’r un math o sylw phoney (â dyfynnu Holden Caulfield), gan bobol fu unwaith heb ddiddordeb o gwbwl yn y fro!

A lle yn union fydd pawb yn parcio pe bai’n cael ei gosod yng nghanol dre’? Wel, dw i’n credu taw fy ffefryn ymysg yr atebion i hyn oedd ‘Geith nhw barcio yn Tescos’… ia, cawn weld be’ fydd rheolwyr ein harchfarchnadoedd lleol yn ei feddwl am hynny!

Dim parc yng nghanol dre’ – soz, la!

Yn ôl y sôn, bu rhai welodd seremoni gyhoeddi’r Eisteddfod ar y teledu wrthi’n holi wedyn a oedd y ‘cae’ yn ddigon mawr? Be?! Llwyn Isaf o flaen y llyfrgell?! Efallai ei fod yn ddigon mawr i’r Babell Lên ar ei phen ei hun, ond fawr ddim byd arall!

Yn rhifyn Haf 2024 o gylchgrawn Barddas, mae Ceri Wyn Jones yn sôn am fuddion cynnal Gŵyl Fawr Aberteifi mewn parc ’nôl yn y ’60au, a bod hyn yn golygu bod “pobol y dre i gyd – diolch i’r system sain a’r awel – yn gwybod fod eisteddfod yn digwydd yn Aberteifi”.

Ac aeth yn ei flaen i sôn fod y tafarndai hefyd yn llawn.

A chytunaf fod lleoliad y maes, a’r maes pebyll a charafanau ym Mhontypridd yn ddelfrydol, a’r Lido fel eisin ar y gacen! Ond sori i’ch siomi, does genym ni ddim Lido yn Wrecsam (ddim eto beth bynnag!) a does gennym ni ddim hyd yn oed un parc enfawr yng nghanol Wrecsam, heb sôn am ail un lawr y lôn i’r carafanau, trydan a chawodydd a.y.b!

Aeth Ceri Wyn Jones yn ei flaen i ddweud wrthym fod Eisteddfod Aberteifi 1909 wedi’i chynnal ym Mharc-y-Reiffl, oedd wedi cynnal – yn annisgwyl braidd – 16,000 o bobol, sy’n fwy na’r 14,700 y dydd o ymwelwyr â Steddfod Tregaron! Ac, ew! Yn ôl dyfyniad o’r cyfnod, roedd y dorf yn bendramwnwgl ar y stryd nes y byddai wedi bod yn bosib “cerdded ar eu pennau o orsaf Ceredigion i’r Eisteddfod”. A hyn oll yn dda, yn ôl pob sôn, achos fe fu’r trefnwyr a phobol fusnes y dref yn hapus iawn. Ac mae Ceri wedyn yn gorffen ei erthygl gan obeithio gweld yr un math o brofiad ym Mhontypridd.

Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau wrth ymateb i hyn. Ond ceisiaf fynegi faint mae Wrecsam yn ei olygu i mi, a hynny drwy gyfieithu geiriau Rod Stewart. Mae yn fy nghalon, mae yn fy enaid, ac mae’n ffrind gorau i mi. Dw i wedi byw ar hyd a lled y fro, ac rwy’ wedi ei gweld ar ei gorau ac ar ei gwaethaf; ac mae hi wastad wedi bod ene i mi.

Mae’n golygu pob dim i mi na fydd y Steddfod hon yn llanast fel yr un fu ym Mharc-y-Reiffl. O ia, dw i’n siŵr y byddai torf enfawr fel’na yn bodloni trachwant rhai o bobol fusnes y dre’, ond beth am drigolion eraill y fro – y rhai sydd ddim yn rhedeg tafarn nac yn berchen ar siop? A beth fysa hynny yn ei ddysgu i ni a’n diwylliant Cymraeg?

Gyda llaw, dw i ddim yn meddwl bod ganddyn nhw lawer o broblemau traffig na pharcio ’nôl yn 1909 – llai o geir, dych chi’n gweld!

A fedra i ddim pwysleisio hyn ddigon: DOES DIM PARC YN GANOL WRECSAM!!!!

Erddig yw ein parc

Ond! Wrth feddwl am y meini prawf – caeau enfawr, ddim yn rhy bell o’r dref, rhywle fyddai trigolion y dre’ yn dŵad i wybod fod yna Eisteddfod yn ystod mis Awst… Mae yna le delfrydol, yn y marn i – Erddig.

Dros yr haf, mae fy timeline Facebook wedi bod yn llawn ffrindiau’n dweud iddyn nhw bicio draw i Erddig amser cinio i eistedd wrth yr afon, neu o dan hoff goeden a ballu. A pham lai? Dw i fy hun yn gwneud hyn yn aml ar ôl cyfarfodydd yn y Brifysgol, neu rai busnes yn Nhŷ Pawb – wedi’r cwbl, dydy hi ddim ond dwy filltir o Dŷ Pawb (ac felly y Saith Seren hefyd) o ddrws i ddrws.

Ac, wrth gwrs, efallai fod gen i chydig o ragfarn tuag at Erddig – dyma lle ces i fy magu wedi’r cyfan. Yma, mae yna dylwyth teg, a’r ‘Magic Far-away-Tree’. Mae Huckleberry Finn yn pysgota yn afon Clywedog, tra bod Araminta, Tom a Sarah yn teithio drwy amser gyda help Eros a Chronos, a’r ‘moon dial’.

Ond nid fi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn am Erddig. Mae’n lle hudol sydd yng nghalonnau ac eneidiau llawer iawn o bobol y ffin. A dyma, felly, fy nghynnig gorau ar gyfer lleoliad delfrydol yma ym mro fy mebyd.

I gloi

Fel y gwelwch, mae lleoliad Steddfod Wrecsam 2025 wedi bod yn cylchdroi yn fy meddwl – a pherodd hyn i mi addasu’r gân ‘The Circle Game’ gan Joni Mitchell fel sylfaen i ‘nghân brotest am lleoliad y Steddfod draw ym Mragdy’r Beirdd ym Mhontypridd; dyma un o’r unig ffyrdd rwy’n medru mynegi fy hun a cheisio cael unrhyw fath o ddylanwad. Ond ceisiaf eto fa’ma!

Ar fy ngwir: os caiff y Steddfod hon ei chynnal yng nghanol Wrecsam, ac os eith hi’n llanast, fydda i ddim yn maddau i‘r sawl fu wrthi’n gwthio i’w chael hi ene. A gwae unrhyw un sy’n ystyried yr anrhefn ym Mharc-y-Reiffl gynt, ac yna’n dweud ‘Hei lwc, dyna fydd profiad Wrecsam flwyddyn nesaf’.