Lowri Bebb o Gaernarfon wnaeth ennill Tlws Rhyddiaith Ieuenctid Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan gyda darn o’r enw ‘Yn doedden nhw’n ddyddie da’.

A chan mai cwmni Golwg oedd yn noddi’r gystadleuaeth, dyma’r gwaith buddugol sy’n gyfres o straeon yn cael eu hadrodd o safbwynt pum ffrind wrth iddynt wynebu heriau’r byd go-iawn ar ôl treulio cyfnod gorau eu bywyd yn y brifysgol…

Alys

‘Bod yn ifanc oedd yr esgus gora ’rioed’

Yr Ods

Pe bai modd mynd yn ôl i unrhyw foment mewn hanes, sefyll mewn bocs glas a dewis unrhyw ddigwyddiad sydd erioed wedi bod, dwi’n siŵr y byddai rhai yn dewis mynd yn ôl i’r dechreuad, dim ond er mwyn cael dod yn ôl i gyhoeddi eu bod nhw wedi datrys rhai o bosau mawr dynoliaeth. Byddai’r haneswyr yn ein plith yn ail-ymweld â’r digwyddiadau mawr y bu i’w hathrawon eu hail greu iddynt yn yr ystafell ddosbarth; brwydr Bosworth, neu araith fawr Martin Luther King. Mae’n siŵr y byddai nifer fawr yn manteisio ar y cyfle i fynd yn ôl am sgwrs gyda pherthnasau sydd wedi eu gadael. Fyddai’r un o’r rhain yn mynd â’m bryd i.  Petawn i’n cael y cyfle, dymuniad ddigon syml fyddai gen i; mynd yn ôl i draeth Aberystwyth i weld fy ffrindiau i gyd yn yr un man unwaith eto.

Dwi’n meddwl am y peth yn reit aml. Yn meddwl cymaint y baswn i’n fodlon ei aberthu er mwyn cael bod yn fyfyriwr ifanc a ffôl am noson arall. A dweud y gwir, mae gen i fymryn o gywilydd cyfaddef y pethau y baswn i’n fodlon eu gwneud dim ond er mwyn cael ail-fyw’r noson honno. Buaswn i’n gwerthu fy nillad fory nesa. Yn llefaru un o’r darnau ’steddfod sydd wedi eu marcio ar fy nghof yn noeth ar y stryd fawr heb ddim poen yn y byd. Yn gwrando ar y ddwy nain sy’n colli eu clyw yn trio cael sgwrs am ffrindiau a pherthnasau pell fel petai nhw’n canu emyn i mi’n swynol. Buaswn i hyd yn oed yn yfed un o ddiodydd ffitrwydd gwyrdd Mam, sy’n drwch o lysnafedd lympiog, fel petai o’n beint o gwrw oer o’r Cŵps. Trist de.

Nos Iau braf ddechrau Mehefin oedd hi, yn syth ar ôl i bawb orffen eu harholiadau, roeddan ni’n cael cic allan o’r tŷ y Sadwrn canlynol, felly doedd mynd allan nos Wener ddim yn opsiwn. Dyna pam fod y ‘Swper Ola’ yn cael ei drefnu ar nos Iau. Dwi wedi ffraeo efo Nain droeon am  yr enw ‘cableddus’ hwnnw; mae’n debyg bod ganddi bwynt, dwi’n amau bod rhyw lawer o debygrwydd rhwng swper ola Iesu cyn cael ei groeshoelio a’n swper ola ni – sef sesh wyllt arferol mewn dillad mymryn mwy soffistigedig.

Mae’n draddodiad i wisgo eich dillad smartia i’r Swper Ola, ac yn amlach na pheidio mae ffeindio ffrog neis ar gyfer yr achlysur yn cael mwy o flaenoriaeth gan fyfyrwyr y drydedd na’u traethodau hir, a’u arholiadau gradd – mi gafodd o gen i beth bynnag. Ffrog wen efo blodau bach amryliw oedd gen i, a sodlau pinc yr un lliw ag un o’r blodau ar fy nhraed. Er, waeth i mi heb â thrio dweud celwydd, fedra i nag un o fy ffrindia gerdded mewn sodlau, felly mi garion ni bag for life Tesco llawn ’sgidia’ sbâr efo ni drwy’r nos.

Roedd hi’n 4 o’r gloch y bore, a’r haul yn gwawrio dros Fae Ceredigion i gyfeiliant cant a mwy o fyfyrwyr meddw yn cwyno bod y dŵr yn oer a’r cerrig mân yn brifo’u traed, a chrensian y tywod dan draed y rheini oedd ddigon call i aros wrth y lan yn cael modd i fyw yn gwylio’r sioe. Llond gwlad o bobl ifanc yn eu siwtia’ a’u ffrogiau yn neidio i mewn i’r môr llonydd, am ddim rheswm yn y byd, dim ond am eu bod nhw’n gallu. Am fod na neb yn aros amdanynt gartref yn barod i’w dwrdio. Neb i bregethu am beryglon dŵr y môr, a holi faint oedd pris y ffrog sydd wedi ei sbwylio.  ‘Gan bo fi’n gallu dwi’n neud o’ – dyna eiriau Candelas, ond efallai fy mod i’n eu dehongli’n rhy llythrennol ar adegau.

Dwi’n cofio peidio bod isio gadael y dŵr, gweld pawb yn diflannu’n ara bach i’r lan ac erfyn ar fy ffrindia i aros yn y dŵr am fymryn bach yn hirach. Roeddwn i’n gwybod, yr eiliad y byddai fy nhraed i’n cyffwrdd y tarmac eto, y byddai’r noson ar ben, a’r ffarwelio yn dechrau. Ond gadael oedd rhaid; roeddwn i wedi dechrau troi’n biws.

Yr her fwyaf oedd codi’r bore canlynol, a derbyn bod y cyfan drosodd, ond allwn i ddim gorwedd yn fy ngwely yn rhyw hanner cysgu fymryn yn hirach. Roedd y llenni coch oedd wedi hen basio eu sell by date yn methu’n llwyr yn eu swyddogaeth o gadw’r ystafell yn dywyll; prin y gellid cyfeirio atynt fel llenni coch bellach, roedd sawl staen amheus wedi eu gadael arnynt gan y degau o fyfyrwyr oedd wedi byw yn yr union ’stafell hon o fy mlaen i, ac roedd yr haul wedi gadael ei farc ar gornel bella’r defnydd, gan losgi’r lliw yn ddim.

Codais ar fy eistedd, yn teimlo’n anghyffyrddus o gynnes, typical a finna wedi cwyno drwy’r flwyddyn fy mod i’n rhewi yn yr hen dŷ sdiwdant tamp, a ninnau wedi cael ein siarsio gan y landlord i beidio a rhoi’r gwres ymlaen dim ond am awr gyda’r nosau. Ges i bump potel dŵr poeth Dolig; rhybudd i bawb na ddylech chi fyth anfon yr un neges i bob un o’ch perthnasau hŷn, yn enwedig a hithau’n nesáu at y Nadolig neu’ch pen-blwydd.

Roedd yr ystafell yn drewi. Troais fy nghorff gan adael i fy nghoesau syrthio dros erchwyn y gwely. Archwiliais y cnawd lliw oren ffals, oedd wedi troi yn grychau gwyrdd rownd y pen-gliniau; roedd angen cawod arna i cyn heno. Edrychais tua’r carped llwyd di-liw; yno roedd bocs polystyren gyda tsips a bîns wedi hanner eu bwyta a fforc fechan las wedi ei thaflu’n flêr. Arwydd o noson dda, meddyliais, ac eglurhad am ddrewdod yr ystafell. Codais, agor y ffenest,  rhoi fy ngwallt mewn cynffon flêr ar dop fy mhen ac ymlwybro tua’r gegin.

Yno roedd pedwar corff arall, a theimlwn yn well yn syth o weld eu bod hwythau hefyd yn yr un stad a fi.

Roedd Osian wrth y tegell gyda phedwar mwg o’i flaen, yn amlwg wedi gwneud y camgymeriad o holi’r lleill a oedd eisiau paned arnyn nhw hefyd. Codais fwg oddi ar y bwrdd a’i archwilio i weld oedd o’n ddigon glân; roedd na hen staen te ar ei waelod , a briwsion bisged wedi glynu i’r ochrau. Edrychais ar y sinc llawn llestri budron , cyn penderfynu bod gen i ddim egni i’w lanhau ac ychwanegu’r mwg budur at y rhes.

Roedd Sioned yn cysgu ac wedi cyrlio’n belen ar ochr y soffa , ei phen wedi ei osod yn flêr ar ei hysgwydd. Doedd dim pwynt trio ei symud hi, er fy mod i’n gwybod yn iawn y bydd hi’n cwyno am oriau ar ôl deffro bod ei gwddw hi’n stiff.

Roedd Llinos a Rhodri  ill dau’n syllu ar eu ffonau symudol, Llinos yn astudio merch yn gwneud ei cholur yn fanwl, a Rhodri wedi ymgolli mewn rhyw raglen ddogfen am Driongl Bermwda, roedd o wedi gwirioni ar Conspiracy Theories.

Ynganodd neb yr un gair, nes i Osian ddechrau dosbarthu’r te.

“Diolch.” Sibrydais i’n dawel, doedd gen i ddim o’r nerth na’r llais i siarad ddim uwch.

Suddais i grombil y soffa, gan gofleidio’r baned. Doeddwn i ddim yn barod i roi’r gorau i hyn, ond roeddwn i’n rhy flinedig i grio.

Edrychais o’m cwmpas, roedd ’na olwg diawledig ar y lle.

“Ma’ Dad yn dod i fy nôl i heno yn lle fory, methu fforddio cau ar ddydd Sadwrn medda fo,” eglurais. Cigydd ydi Dad.

Edrychodd pawb draw, mi roddodd Rhodri’r gorau i’w raglen ddogfen hyd yn oed.  Ddywedodd neb yr un gair, dim ond sbïo ar y llanast o’u cwmpas, y llunia di-ri oedd dros y walia, y pum pot blodau crochenwaith oedd wedi eu gosod yn ddel ar y silff ben tân, ar ôl cael eu peintio i safon is na gwaith plant ysgol feithrin , heb anghofio’r casgliad o arwyddion ffyrdd oedd wedi eu stwffio i gornel yr ystafell.  Torrodd Llinos ar y distawrwydd

“S ai ishe gadel.” Meddai a’i llais yn crynu.

Ein llanast ni oedd o, ac ynddo fo yr oeddan ni’n perthyn.

Bellach mae dros chwe mis wedi mynd heibio ers y noson honno. ’Nôl adra dwi rŵan, yn gweithio yn nerbynfa’r theatr leol; dyna oedd fy ngwaith i cyn mynd i’r Coleg. Ro’n i’n mwynhau bryd hynny, ond joban fach dydd Sadwrn oedd hi i fod, pres poced a rhywbeth i roi ar fy nghais UCAS er mwyn profi fy mod i’n weithwraig galed, ddibynadwy. Feddyliais i erioed mai fan hyn y baswn i, chwe mis ar ôl graddio, heb ddim syniadau gyrfa pellach. Fi oedd yn ddwl mae’n siŵr, yn meddwl y baswn i’n cerdded i mewn i’r swydd berffaith yn syth ar ôl graddio. Roeddwn i’n ddall i’r ffaith nad dyna realiti’r rhan fwyaf o bobl ifanc newydd raddedig, ond eto, ddaru neb fy rhybuddio i o’r gwirionedd hwnnw.

Mae pawb ar dan i gael dweud wrthat ti mor braf ydi cyfnod prifysgol, rhan mor hanfodol ydi o o dy fywyd di, y dylat ti werthfawrogi pob eiliad a manteisio ar bob cyfle. Maen nhw’n dy annog di i symud i ardal newydd,  er mwyn cael gwneud mwy o ffrindia o bob cwr. Profi pethau efo’ch gilydd na phrofoch chi erioed o’r blaen a gwneud pethau na fasat ti’n meiddio eu gwneud nhw adra; pethau fasa yn gwneud i ti gochi at dy glustia petai Mam neu Dad yn dod i wybod , neu’n waeth fyth petai Nain yn dod ar draws fideo neu lun ohonat ti ar Facebook.  Dyma dy gyfle di, meddan nhw, i ailddiffinio dy hun , i liwio dy wallt yn rhyw liw llachar a gwisgo be bynnag fynni di heb i reolau cul yr ysgol osod ffin barchus ar dy hunaniaeth di.

Ond, does ’na neb yn meiddio dweud wrtha ti mor crap all petha fod ar ôl i ti orffen. Does na’m guidebook ar sut i addasu i fywyd go iawn ar ôl rhialtwch bywyd myfyriwr. Be wyt ti i fod i wneud efo dy ddillad newydd, a’th wallt pinc pan mae ffrindia dy nain yn dod draw am baned?

Glywais ti erioed am neb oedd â gradd dda yn cael trafferth ffeindio swydd? Soniodd neb wrtha i fod cymaint yn gorfod symud yn ôl adref at eu rhieni, er mwyn gweithio mewn hen siop sglodion seimllyd, a dychwelyd i’r union ’run fan ag yr oeddan nhw bedair blynedd ynghynt. A beth am y rheini sydd yn cael swydd, ond yn methu ffeindio unman i fyw am fod hanner y tai rhent wedi eu troi yn airbnbs? Glywais ti amdanyn nhw?

A phwy sydd yno, i’th gysuro ar ôl ffrae efo dy rieni, cyfweliad ciami, neu ddiwrnod hir yn y gwaith? Nid dy ffrindia di, achos maen nhw’n dod o bob cwr!

Mae’n debyg bod dim lle i roi rhybuddion am beryglon mynd i’r brifysgol ar brosbectws sgleiniog.

Llinos

‘Yn lle symud bant, fe arhosodd hi’

Neil Rosser

Ro’n i’n hanner gobitho y byddai un ohonyn nhw’n aros, wel a dweud y gwir ro’n i’n itha siŵr y bydde Alys. Dyw hi ddim y teip i fyw gytre. Ro’n i’n disgwyl iddi decsto a gweud ei bod hi wedi cael trad ôr am symud gytre drwy’r haf; ond wnath hi ddim.

Dyna pam y penderfynes i fynd am fflat ‘da dwy ystafell wely, rhag ofan. O’dd pawb yn llusgo  trad fis Hydref dwetha’, yn ffeili penderfynu a odden nhw am aros ne bido, ond ro’dd y fflatie yn prysur ddiflannu. Rhoies i ddeposit lawr ar un, ac arwyddo amdano fe fy hunan fis yn ddiweddarach. Roeddwn i wedi gobitho y bydde un o’r merched wedi penderfynu erbyn ’ny, ond es i ddim i banico, oherwydd ro’n i’n sicr y bydde un ohonyn nhw’n dod ar fy ngofyn i.

Erbyn ddiwedd yr haf, fe fu’n rhaid i mi dderbyn bod neb arall yn dod yn ôl.

A’th Dad yn benwan ‘da fi, do’dd e ffeili’n lan a deall shwt fues i mor ddwl ag arwyddo cytundeb ar dŷ oedd yn costi dwbl be allen i fforddo. Do’dd bilie ddim yn rhan o’r rhent chwaith, felly rhwng bob dim o’n i mewn twll. Do’dd dim dewis ’da fi ond hysbysebu’r stafell sbâr. Rhoies i e ar Rhwydwaith Menywod Cymru i ddechre, achos fi’n gweld dege o ferched ifanc bob wthnos yn holi am dŷ neu stafell yn rhywle arno fe. Ond ymatebodd neb i’r neges, o’dd yn rŵd achos gafodd neges am groen caled ar sowdl rhyw fenyw yr un dydd byti hanner cant o sylwade!

Anfonodd Dad linc i mi i rhyw grŵp Facebook Saesneg wedyn ’ny, o’dd yn llawn pobl o Aberystwyth o’dd angen stafell sbâr. Tries i brotestio. Doeddwn i ddim ishe rhannu â dieithryn, ond wedodd Dad mai dieithr fydde’r merched oddi ar Rwydwaith Menywod Cymru hefyd. Roedd gyda fe bwynt, ond ro’dd rwbeth gyment fwy estron am rannu gyda rhywun o’dd ddim yn siarad Cymrag. Sut oeddet ti fod i wneud ffrindie yn Saesneg? Fedre ti ddim trafod Pobol y Cwm ‘da nhw, na’r nofele diweddara i ti eu darllen, a fydde ‘da nhw unrhyw ddiddordeb dod gyda ti i gigs Cymrag?  Fi’n ame.

Posties i yn y grŵp, ac o fewn deuddydd roedd gen i rhywun i rannu gyda fi; merch o’r enw Chloe o gyffinie Manceinion.

Fi’n cofio’r tro cynta i mi gyrredd Pantycelyn, ro’n i mor nerfus, ond buan iawn y des i i sylwi fod gan bawb rhywbeth yn gyffredin gyda fi, ac mae hynny yn wir am Chloe druan hefyd. Ma’ ddi’r un oedran a fi, yn hoffi’r un math o raglenni teledu, ac wrth ’i bodd yn siopa dillad, fel fi. Ond fi dal yn timlo fel mai rhan ohona i fi’n gadel iddi weld. Nid ’mod i’n trial cuddio’r hanner arall fel rhyw lofrudd na dim, fi jyst ffeili dangos e, fy hiwmor i, fy nheimlade i; fi ffeili siarad ’da ddi byti nhw. Withe, bydde rhywbeth doniol yn digwydd i un o’r plant yn yr ysgol, ond wrth drial egluro’r cyfan yn Saesneg bydde’r jôc yn diflannu. Wedes i hyn wrth Mam a Dad ond chwerthin nethon nhw, fel tasen i’n ddwl.

“Fi ffeili mynegi fy hun yn Saesneg!”  ’Na be wedes i wrthon nhw.

Ateb Dad o’dd:  “O callia Llinos fach, ma da ti lefel A yn y pwnc! A ti’n siarad yr iaith ers pan oeddet ti’n groten fach.”  Do’dd e ddim yn deall. Do’dd neb yn deall.

Fi’n itha cenfigennus o Alys, ma da ddi lwyth o ffrindie gytre gyda ddi yn y Gogledd, a sdim gair o Saesneg yn ca’l i siarad ganddyn nhw. Ma’ ddi’n cal blwyddyn mas i ddewis be ma’ ddi moyn wneud nesa a fi’n dyfaru peidio gwneud ‘ny. Ma’r cwrs Ymarfer Dysgu yn drwm. Fi’n dysgu yn Aberteifi bob dydd sy’n golygu gadel Aber am saith, a sa i’n ôl nes byti chwech fel arfer. Ma’ ’da ni draethode i wneud ar ben y dysgu, a ma rheini’n cymryd drosodd pob nos a phenwythnos, a’r gwir amdani yw  sa i’n hollol siŵr bod fi moyn bod yn athrawes rhagor. Na be yw jobyn Mam a Dad, a feddylies i mai’r peth naturiol i mi fydde gwneud yr un peth; dyle fi di cymryd mwy o sylw o’u conan tragwyddol am straen gwaith, ro’n i’n meddwl mai gwneud ati o’n nhw. Ro’n i’n anghywir.

Fi wedi gwahodd yr hen griw draw droeon, ma ddi ’di bo’n fisoedd ers i fi weld nhw gyd da’i gilydd.  Ma’ Alys a Sioned wedi bod ond sa i ‘di gweld y bechgyn ers yr haf, ma’ Rhodri yn gwitho o hyd ac mi o’dd Osian ’fyd, sa i’n siŵr iawn beth yw ‘i hanes e nawr, so fe’n ateb ni, ma’ fe fel bo fe wedi mynd off y radar yn llwyr.

Feddylies i ’riod mor unig fydde’r lle hyn hebddyn nhw. Ro’n i’n arfer meddwl mai hoffi’r lle o’n i, bod da fi gysylltiad da’r ardal, mai fan hyn yr o’n i’n perthyn. Buan y sylwes i bod y lle yn golygu dim heb y bobl.  Fi ’di mynd i gico’r bar ddege o withe ers mis Medi ‘leni, ac wedi gweld yr adar bach yn hedfan tua’r pier adeg y machlud droeon; so fe’n sbeshal heb gwmni i wylio gyda ti.

Rhodri

‘Oes ‘na ddisgwyl i mi fod fel ti?’

Al Lewis

Osgoi gweld y genod ydw i, achos bod gen i gywilydd. Cywilydd ’mod i wedi newid fy hun i’r fath raddau ers gadael y Brifysgol. Dydi’r Rhodri sy’n fyw rŵan, ddim byd tebyg i’r Rhodri oedd yn bodoli, y Rhodri y maen nhw’n ei adnabod.

Ffilm a Theledu oedd fy ngradd i, dwi’n gwirioni ar bob dim i wneud efo ffilmia, pob agwedd ar y diwydiant. Pan welais i’r cwrs ar wefan UCAS yn y chweched isa, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ymweld â’r adran, ac fe gytunodd Mam a Dad, ar yr amod fy mod i’n ymweld â’r adran Droseddeg hefyd. I’r adran Ffilm a Theledu yr aethom ni gyntaf, a’r gwir amdani ydi fy mod i’n cofio dim am y ddarlith Droseddeg, roeddwn i yn fy myd bach fy hun yn breuddwydio am y math o fywyd y gallwn i ei gael fel myfyriwr yma. Yr holl sgiliau y gallwn i eu meithrin. Mi gymerodd hi sbel i Mam a Dad dderbyn fy mhenderfyniad i, wel Dad yn fwy na Mam. Plismon ydi o, ac roedd o’n benderfynol mai dyna ddylwn i fod hefyd, doedd o’n poeni dim am beth oeddwn i eisio ei wneud. Roedd ganddo ei ddelfryd; fo a’i fab yn yr un iwnifform.

Cefais fodd i fyw yn y Brifysgol, roedd y cwrs yn grêt, a diolch byth mi ffeindiais i griw da o ffrindiau oedd yn frwdfrydig ac yn gefnogol ac yn fy nerbyn i fel roeddwn i! Roedd ’na bump ohonon ni i gyd, fi, Alys, Llinos, Sioned ag Osian. Dyna’r tro cyntaf i mi gael ffrind oedd yn hogyn. Ffrind go iawn ’lly, dim un o’r hogia roeddwn i’n arfer bod yn yr ysgol efo nhw oedd yn smalio bod yn ffrind i mi ond yn bachu ar unrhyw gyfle i’n sbeitio i tu ôl i’m cefn. Roedd Osian yn wahanol. Roedd o’n rhan o’r tîm rygbi, ond doedd o ddim yn hogyn rygbi oedd yn ymfalchïo mewn dweud pethau cas ac yfed yn wirion. Canlyniad hynny  wrth gwrs oedd fod pawb yn cymryd yn ganiataol ei fod o’n hoyw, ac am ei fod o’n ffrindiau efo fi, mi gymerodd pawb ei fod o’n gariad i fi! Doedd o ddim. Mi sylwais i’n ddigon sydyn ei fod o’r un mor strêt a phob un o hogia’r tîm rygbi, ond roedd o’n glên, dyna’r cwbl. Mi ddechreuodd o a Sioned ganlyn yn yr ail flwyddyn oedd yn destun pryder i fi, Alys, a Llinos; be petasa nhw’n gorffen, be fasa’n digwydd wedyn? Ddaru nhw ddim. Diolch byth.

Mi ddigwyddodd bob dim mor gyflym ar ôl graddio. Un funud o’n i’n dathlu diwedd yr arholiada, yn byw efo’n ffrindia gora ac yn hollol agored am fy rhywioldeb, a’r funud nesa, ro’n i’n ôl adra yn byw bywyd yr hen fi. Y fi oedd yn cuddio, oedd yn dweud celwydd wrth ei rieni ac yn smalio bod yn rhywun doedd o ddim. Y fi roeddwn wedi colli nabod arno dros y tair blynedd diwethaf, y fi roeddwn i’n meddwl oedd wedi mynd.

Y dydd Llun ar ôl gadael Aber, daeth Dad i mewn ben bore i agor y llenni, fel yr oedd o’n ei wneud pan oeddwn i yn yr ysgol.

“Cwyd y diogyn bach,” dwrdiodd.

Codais o’r gwely’n ddiog ac ymlwybro tua’r gegin. Edrychais draw at y cloc. Roedd hi’n hanner awr wedi chwech. Yno’n eistedd wrth y bwrdd roedd Mam.

“Pwy sy am ddechra?” holodd Dad.

Wyddwn i ddim beth oedd yn digwydd, roedd hi’n llawer rhy fuan i feddwl; bwyta kebab a mynd i ’ngwely oeddwn i’r adeg yma o’r bore fel arfer, nid cael trafodaeth dros frecwast.

“Isio cael sgwrs efo chdi mae dy dad a fi, am dy gynllunia’ di rŵan.” Roedd llais Mam yn dawel, nid hi oedd eisiau’r sgwrs, roedd hynny’n amlwg.

Erbyn hyn roedd fy llygaid wedi dod i’r arfer â’r golau llachar, a gallwn weld yn well.

“Wel, tydw i heb feddwl rhyw lawer am y peth a bod yn onast,” meddwn.  Roedd hi’n rhy fuan o lawer i drio dweud celwydd.

“Naddo mwn,” sibrydodd  Dad dan ei wynt, ond yn ddigon uchel i ni gyd ei glywed.

“Dafydd!” dwrdiodd Mam.

Edrychais draw ato, roedd hi’n amlwg ei fod o ar dân eisio dweud ei ddweud.

“Jest deuda be bynnag ti isio’i ddeud ia Dad,” meddwn i’n ddiamynedd.

“Iawn,” atebodd dad gan wenu’n smyg.

“Plîs peidiwch â ffraeo,” crefodd Mam, cyn plannu ei phen yn ei dwylo.

“Fedri di ddim dod ’nôl adra, a disgwyl i dy fam a finna dendio arna chdi, tra wyt ti’n pydru yn y llofft ’na. Rydan ni isio rent. Dechra heddiw!” Roedd ei freichia fo wedi’u croesi, a’i goesau fo ar led er mwyn ceisio rhoi’r argraff ei fod o’n fwy o ddyn nag oedd o.

“Sut dwi fod i ffeindio pres i dalu rent erbyn heddiw? Newydd orffen talu am y tŷ yn Aber dwi. Sgen i ddim job, fedra i ddim…” Torrodd Dad ar fy nhraws cyn i mi gael cyfle i amddiffyn fy hun.

“Yn union, sgen ti ddim job. Pam hynny?”

Cwestiwn dwl meddyliais, “Am fy mod i wedi bod yn sefyll arholiadau gradd tan wythnos yn ôl, dwi heb gael fawr o gyfle i chwilio am job.”

Roedd o’n edrych arna i, ond doedd o ddim yn edrych fel petai o’n gwrando oherwydd newidiodd yr ystum ar ei wyneb o ddim trwy’r holl frawddeg, roedd o fel petai o’n clywed y geiriau ond gwrthod eu derbyn nhw na’u dehongli nhw.

“Tasa ti ’di gwneud cwrs callach yn lle’r blincin radd mickey mouse ’na!”

“Dafydd!” gwaeddodd Mam eto, cyn troi ei phen ato, “jest deuda wrtho fo ia?”

“Deud be?” holais yn ddryslyd.

“Dwi wedi cael lle i chdi, dechra fory, ar gynllun hyfforddi efo’r heddlu.”

Syllais ar y ddau ohonyn nhw mewn anghrediniaeth; ar ôl yr holl amser doeddan nhw’n dal yn nabod dim arna i. Roeddwn i wedi dychryn yn Mam, ro’n i’n meddwl ei bod hi’n gwybod yn well.

“Ti’m o ddifri’?” holais hi.

“Dim ond nes y ffeindi di rywbeth arall ‘mach i.” meddai mewn llais neis-neis; roedd hi’n rhy hwyr i fod yn neis.

“Diolch di’r gair ti’n chwilio amdano fo ia? Ti’n gwybod pa mor anodd oedd hi i mi wneud yn siŵr dy fod ti’n cael y cyfla ’ma? Perswadio’r bos mai chdi fyddai ora’ er bod ’na hanner dwsin o hogia efo gradd neu brofiad yn trio!” Roedd o’n trio ymddwyn fel petai o’n gwneud cymwynas â fi.

“Gad iddyn nhw gael cyfla ta,  dwi’m isio fo.” protestiais.

Erbyn hyn roedd o wedi mynd i sefyll wrth y drws cefn. Agorodd o’r drws a chamu allan cyn gweiddi’n ôl yn llawen, “Ti’n dechra fory am naw ar y dot.”

Rhedais inna i’r llofft i bwdu.

Hyfforddi i fynd i’r heddlu dwi wedi bod yn ei wneud ers hynny; prin ’mod i wedi cael amser i chwilio am swydd arall, rhwng yr holl gyrsiau, gweithdai a shifftiau nos, a chael Dad yn gysgod dros bob dim dwi’n ei wneud. Dwi’n styc.

Dwi’n trio osgoi’r criw coleg gora galla i, sut alla i eu hwynebu nhw? Ma’ nhw i gyd wedi bod yn driw iddyn nhw eu hunain tra dwi ddim hyd yn oed yn adnabod y fi sy’n edrych yn ôl arna i yn y drych, dim pam dwi’n gwisgo’r iwnifform be bynnag. Mi ddeudis i wrthyn nhw fy mod i’n hapus, mai fi ffeindiodd y swydd a ’mod i’n teimlo mor lwcus o fod wedi ei chael hi. Doedd gen i ddim y gyts i ddweud wrthyn nhw fy mod i’n ormod o lwfrgi i wrthod gorchmynion fy nhad. Tasan nhw’n fy ngweld i mi fasen nhw’n sylwi fy mod i’n bell o fod yn iawn. Dyna pam fy mod i wedi gwrthod pob un gwahoddiad dwi wedi ei gael gan Llinos i fynd yn ôl i Aber. Fedran nhw fyth fy helpu i, dim go iawn, achos does ganddyn nhw ddim syniad  o oblygiadau gwneud yn union fel y mynna i. Tydyn nhw ddim callach sut y basa Dad yn fy nhrin i.

Dwi’n gwybod nad y Rhodri go iawn mae o isio yn fab, tydi’r Rhodri hwnnw ddim yn perthyn dim iddo, a than dwi’n magu digon o blwc neu’n hel digon o gelc i sefyll ar fy nhraed fy hun, nid y Rhodri go iawn fydda i chwaith.

Osian

‘Ma’r byd lawr y lôn ond mae’r teledu’n y gwely’

Cowbois Rhos Botwnnog

Fi o’dd yr un o’dd fod yn gwybod beth o’dd e’n wneud. Fi odd wastad yn trefnu pethe, trefnu ble ro’n ni’n mynd am fwyd,  a bod anrheg a charden wedi cael eu prynu pan o’dd rhywun yn ca’l ei ben-blwydd. Fi drefnodd bob gwylie y buon ni arno fe, wna i byth mo’ hynny ’to, dim ar ôl i Alys golli ei phasbort ym mherfeddion ei bag a mynnu bod pawb arall yn gorfod agor eu ces nhw rhag ofn ‘i fod e drwy rhyw ryfedd wyrth wedi neidio o’i bag hi, agor sip ein ces ni a chuddio o dan bentwr o ddillad. Dylen i fod wedi dysgu o’r gwylie blaenorol, pan gollon ni Rhodri y noson cyn odden ni fod i hedfan gytre, ei bod hi’n amhosib cadw trefn ar y criw. Deffres i yn stafell y merched ’da Sioned, a chymres i’n ganiataol ei fod e yn ein stafell ni, ond buan y sylwon ni bod e ddim. Roedd hi’n banics llwyr wedyn, pawb yn trial ’i ffono e, ac yn gwylltio’n gacwn  wrth orfod godde ei neges peiriant ateb am beth o’dd yn timlo fel y canfed tro. Fe droiodd e lan yn y diwedd, byti awr cyn o’n ni fod gadel am y maes awyr. Ro’dd e ‘di bod da rhyw fachgen trwy’r nos, wedi colli trac ar amser, a’i ffôn e’n dead; ffŵl.

Pan ddechreuodd pawb boeni beth oedden nhw am wneud ar ôl graddio, ataf i yr oedden nhw’n troi am gyngor; fel petawn i’n rhyw ddewin doeth athrylithgar oedd yn gwybod yr ateb i holl broblemau dyn. Roeddwn i’n casáu gorfod gweud wrthyn nad oeddwn i’n gwybod beth oeddwn i am ei wneud , achos ro’n nhw’n amlwg eisiau i mi wybod; ro’n nhw’n disgwyl i mi wybod.

Dechreuais i chwilio am swydd wedyn, achos ro’n i’n teimlo fel petai rhyw bwyse mawr arna i i ga’l un. Ro’dd rhaid i mi gael un cyn y lleill hefyd, er mwyn i mi allu dangos y ffordd iddyn nhw, dangos ei fod e’n bosib, bod dim rhaid i fywyd ddod i ben ar ôl prifysgol. Fi o’dd y cynta i drio am swydd o’r holl griw, a’r cynta i fynd am gyfweliad. Ges i’r swydd gyntaf i mi drio amdani, ac felly fi o’dd y cynta i gael swydd hefyd. ‘Cyfrifydd dan Hyfforddiant, ‘na beth o’dd fy nheitl newydd i. Mathemateg a Chyfrifeg o’dd fy ngradd i, felly’r cam naturiol o’dd mynd yn gyfrifydd. Edryches i ddim ar unrhyw drywydd gyrfa arall. Ro’dd e’n dimlad mor braf, gwybod yn union beth oddwn i’n mynd i fod yn ei wneud mewn mis, yn enwedig gan fod pawb arall mor ddi-glem.

Do’dd gan Sioned ddim syniad, ro’dd hi ishe symud gytre i’r Gogledd yn wreiddiol, o’dd yn niwsans braidd gan fy mod i wedi cael swydd barhaol yng Nghaerfyrddin ond do’dd gen i ddim hawl i’w stopo hi. Beth o’dd  yn od o’dd ‘i bod hi’n gwrthod yn lan a thrio am swydd yn unman arall. Wedi misoedd o chwilio’n ofer, fe fentrodd hi a thrio am swydd mewn Llyfrgell yn fy nghyffinie i. Gofal Plant a Chymrag o’dd ‘i gradd hi, ond ro’dd hi’n daer yn erbyn bod yn athrawes. Ro’dd y swydd hon yn golygu trefnu a chynnal sesiyne gyda phlant a phobl ifanc yn y llyfrgell, o’dd yn ‘i siwto ddi i’r dim. Fe gafodd hi’r swydd, ac am gyfnod ro’dd bywyd yn braf.

Fe symudodd Sioned mewn i dŷ Mam a Dad i ddechre, tra o’n ni’n chwilio am le i rento, ac er mor od o’dd hynny i ddechre, fe ddo’th pawb i arfer cael Sioned yn y tŷ, ac o fewn rhyw fis ro’dd hi’n anodd iawn dychmygu’r cartref hebddi hi ynddo fe. Fi’n credu ei bod hi wedi gweld y peth yn anodd ar adege, byw gyda Mam a Dad; ro’dd hi’n dangos gwahanol fflatie i fi’n dragwyddol, ond ro’dd cyn lleied i ga’l a shwt gyment o bobl yn trial amdanyn nhw, ro’dd hi’n amhosib. Ond do’dd hynny ddim yn ddiwedd y byd, achos ro’dd Sioned wedi gwirioni ’da’i gwaith, ac yn dod gytre bob dydd â gwen lydan ar ei hwyneb, fel merch fach ar ôl bod yn gweld ei ffrind gore.

Dyna pryd y sylweddoles i, ro’dd gas gen i fy swydd. Bydde Sioned yn siarad fel fod dim yfory am yr holl bethau oedd wedi digwydd iddi yn y gwaith dros swper, a bydde gyda fi ddim byd i’w ddweud. Allen i ddim hyd yn od meddwl am un person o’dd wedi siarad da fi rhwng pan adawes i’r tŷ yn y bore a dychwelyd yn y prynhawn. Ro’n i’n bwyta ’nghinio yn fy swyddfa ac yn osgoi mynd i’r gegin ar bob cyfri. Bydde’r bos yn anfon gwaith i mi yn y bore dros e-bost, bydden i’n ei wneud e, ei anfon e’n ôl ac yn mynd gytre.

Dechreuais i fynd yn genfigennus ohoni hi, o’r hwyl o’dd hi’n ei ga’l, a gwaethygu ddaru pethe pan ges i’r sac.

Wedodd y bos ’mod i’n gwneud y gwaith yn iawn, ond ‘i fod e’n ansicr os o’n i’n angerddol am y swydd, os o’dd fy nghalon i ynddi. Ro’dd ganddo fe bwynt, ond eto wydden i ddim fod modd i gyfrifwyr fod yn angerddol am eu swyddi, dim ond datrys rhife ar bapur oedden i. Pan gyrhaeddais i gytre’r diwrnod hwnnw, ro’dd gen i gywilydd. Fe soniodd Sioned am ei diwrnod hi yn llawn brwdfrydedd fel arfer, ond y tro hwn, yn lle nodio fy mhen a dweud ‘iawn’ yn ddiog pan ofynnodd hi sut ddiwrnod ges i,  bu’n rhaid i mi ddweud y gwir.

“Fi ‘di ca’l y sac Sioned,” sibrydais.

Ro’dd hi wedi dychryn, ro’dd hynny’n amlwg, do’dd ganddi ddim syniad beth i’w ddweud na’i wneud. Felly fe safodd hi yno’n geg agored yn dweud dim.

Troais i ar fy sawdl a rhoi’r tegell i ferwi.

“Dishgled?” holais, gan drio ymddwyn mor normal â phosib.

Cadarnhaodd Sioned ei bod hi ishe te, ond ddaru hi ddim llwyddo i ddweud hynny, ro’dd ’i llais hi’n rhy grynedig. Gwnath hi rhyw sŵn mwmblan cadarnhaol, felly wnes i gwpaned iddi.

Eisteddon ni rownd y bwrdd wedyn, i drafod y peth, ro’dd gas gen i drafod.

“Ti’n oce?” holodd Sioned.

Nodiais.

“Be ddigwyddodd” holodd hi eto, mewn llais fymryn tawelach.

Codais fy ysgwyddau.

“Wel be wnei di rŵan?” meddai mewn llais fwy cadarn.

Codais fy ysgwyddau eto.

“Ti ‘di dweud wrth rhywun arall?”

Ysgydwais fy mhen, cyn ei siarsio hi; “Mi weda i wrth Mam a Dad heno, plîs paid a dweud wrth y lleill.”

Gafaelodd Sioned yn fy llaw. Roedd golwg gydymdeimladol ar ei hwyneb; rhyw hanner gwên heb ddannedd a llygaid tosturiol. Roedd yr ystum yn fy ngwylltio. Fi oedd fod i’w chysuro hi pan oedd hi’n ansicr o bethau, neu’n drist. Fi oedd yr un ymarferol, yr un oedd yn gwybod yn union beth oedd e’n neud; fi oedd yr un call.  Nid fi oedd yr un oedd yn cael sac.

Mae tri mis ers i mi golli’r swydd honno, a ma’ ‘da fi lai o syniad erbyn hyn be fi ishe’i wneud ‘da ’mywyd i. Ma’ Sioned dal wrth ei bodd yn y llyfrgell, sy’n fy nghaethiwo i i’r lle ’ma; alla i  ddim trial am swydd yn unman arall nawr, dim a hithe wedi symud lawr yma ata i. Er, sa i ’di trial am unrhyw swydd yma chwaith er bod digon yn cael eu hysbysebu; ’sdim want gwitho arna i, dim ar ôl be ddigwyddodd y tro dwetha.

Fi’n treulio ’nyddie yn gwylio’r hen gyfresi Americanaidd o’n i’n arfer eu gwylio pan o’n i’n fach, yn cael cysur rhywsut yn y chwerthin torfol. Mae gan Friends 234 o benodau, cyfanswm o 5213 munud, sy’n  golygu bod modd i mi eistedd yn fy ngwely yn gwylio’r chwe chymeriad ddydd ar ôl dydd, heb orfod poeni beth i’w wylio nesa. Mae gwylio pennod yn ddihangfa ugain munud, sy’n gwneud i’r amser heb Sioned fynd heibio ynghynt.

Sa i ’di siarad ’da’r un o’r lleill ers colli’r swydd. Ma’ Sioned wedi bod yn gweld y merched, ond addawodd hi bido sôn dim amdana i. Ma’ ’da fi’r fath gywilydd. Feddylies i eriod mai fi fydde’r methiant, mai fi fydde Dafad Ddu y grŵp.

Sioned

‘O dwi’sho dwyn yr hogyn nôl’

Geraint Jarman

Dwi’n teimlo’n euog rhan fwya’r amser. Euog achos does gen i ddim rhyw lawer i gwyno yn ei gylch. Ma’ pawb arall mor flin trwy’r amser, Osian yn enwedig; prin ’mod i’n gallu gweld yr hen Osian ynddo fo mwyach, yr Osian oedd fel petai o wastad ar y trywydd iawn.

Fo oedd yr un mwya academaidd ohonan ni i gyd; roedd popeth yn dod yn hawdd iddo fo, oedd yn niwsans ar adegau. Dwi’n cofio teimlo’n reit flin pan gafodd o farc dosbarth cynta a fynta heb gwta godi bys a finna’n lwcus i basio er fy mod i wedi gweithio’n llawer caletach na fo. Dwi’n gwybod na ddylwn i gymharu, yn enwedig am ein bod ni wedi astudio pynciau gwahanol,  ond roedd ei weld o’n llwyddo a hynny mor rhwydd yn brifo.

Roedd gas gen i waith coleg, dwi’n meddwl y baswn i wedi methu ’ngradd i oni bai am Osian, roeddwn i’n cynhyrfu’n lan cyn cyflwyno unrhyw aseiniad, yn gwneud fy hun yn sâl yn poeni ac yn sgwennu lot gormod ar gyfer bob cwestiwn. Petai gen i draethawd 3,000 i’w gyflwyno, byddwn i’n ysgrifennu 5,000, nid am fod gen i ormod i’w ddweud, ac nid oherwydd fy mod i’n gwybod gymaint am  y pwnc ac yn ysu i gael rhannu fy ngwybodaeth, ond am fy mod i’n methu’n lan â sgrifennu petha’n rhesymegol ar bapur. ‘Mae angen i ti fod yn fwy cryno Sioned’; dyna fyddai pob un o fy narlithwyr i’n ei ddweud ond fedrwn i ddim yn fy myw â bod yn fwy cryno, waeth faint roeddwn i’n trio. Pan ddechreuais i a Osian fynd efo’n gilydd, mi sylwodd o pa mor anodd oeddwn i’n gweld pethau. Mi ddechreuodd o ddarllen dros fy ngwaith i mi ar ôl i mi orffen, a’i gwtogi o, dweud wrtha i be oedd angen a be oedd ddim. Ddaru mi ’rioed adael i neb arall edrych ar fy ngwaith i, a wna i ddim chwaith, mae gen i ofn iddyn nhw chwerthin am fy mhen i a ’ngalw i’n ddwl.  Fasa Osian byth yn fy ngalw i’n ddwl.

Dyna pam mod i’n teimlo cymaint o bwysa i’w helpu fo rŵan. Roedd o’n gefn i mi trwy coleg, yn barod i helpu a hynny heb i mi orfod gofyn hyd yn oed,  felly pam ’mod i methu ei helpu fo rŵan?

Dwi wedi trio, wedi dweud wrtho fo droeon bod dim angen  iddo fo boeni. Mae o wedi fy siarsio i i beidio dweud wrth neb o’r criw, a dwi wedi trio egluro na fyddai’r un ohonyn nhw’n hidio dim, fyddai neb yn meddwl dim llai ohono fo, swydd neu ddim swydd, ond tydi o’n gwrando dim. Mae o fel tasa fo’n meddwl fod gan bawb ddisgwyliadau mawr ohono fo, ac y byddan nhw’n cael eu siomi os bydd o’n methu. Mae o’n meddwl fy mod i wedi cael fy siomi ynddo fo, ac yn dweud wrtha i stopio’i drin o fath â ‘claf’, ond sut fedra i, a fynta prin yn gadael ei wely ac yn gwrthod siarad efo neb tu allan i’r tŷ? Roedd hi’n ddigon anodd symud lawr yma, heb yr un ffrind oni bai am Osian, ond mae’n anoddach fyth a fynta’n dangos dim diddordeb mewn mynd am dro nac mynd allan.

Tydi o’n siarad dim efo’i rieni, sy’n beth annifyr i fi, achos fi sy’n gorfod eu hwynebu nhw, ateb eu cwestiynau nhw; cwestiynau nad oes gen i’r ateb iddyn nhw.

“Yw e ’di bod yn whilo am rwbeth arall?” Dyna holodd ei dad o rhyw fora; mae ei dad o bron a thorri ei fol eisio iddo fo gael swydd arall.

“Naddo , dwi ddim yn meddwl” atebais innau cyn cymryd llymaid o’r te a throi i gyfeiriad y ffenest er mwyn osgoi edrych arno fo, yn y gobaith y byddai hynny yn ei atal rhag gofyn mwy o gwestiynau.

“Beth mae e’n neud yn llofft na o fore gwyn tan nos te Sioned?” holodd ei dad o wedyn, mewn llais reit flin, a doeddwn i ddim yn gwybod os blin efo fi neu blin efo Osian oedd o. Edrychais inna arno fo’n ofnus cyn codi fy ysgwyddau’n swil er mwyn dangos nad oeddwn i’n gwybod.

“Paid â thantran ’da Sioned wir, mae’n dda iawn bod hi ’ma i’w helpu fe!” ymyrrodd ei fam

“Odi, ti sy’n iawn, poeni amdano fe i fi, Sioned,” meddai ei dad wedyn mewn llais anwylach, ond fedrwn i ddim peidio a theimlo fel petai’r ddau ohonyn nhw’n gweld bai arna i, yn meddwl nad oeddwn i’n gwneud digon.

Roedd ganddyn nhw berffaith hawl i feddwl hynny hefyd. Y cwbl dwi’n ei wneud ydi ei adael o bob dydd i fynd i’r gwaith, a wedyn rwbio’i drwyn o yn y ffaith ei fod o’n ddi-waith trwy glebran trwy’r gyda’r nos wedyn am fy swydd. Tydw i ddim yn gwneud hynny’n fwriadol, dwi’n trio sôn am gant a mil o bethau eraill efo fo; holi sut ddiwrnod gafodd o, be gafodd o i ginio, sôn am gigs sy’n digwydd yn lleol, ond does ganddo fo ddim diddordeb. Mae’n amhosib cael unrhyw drafodaeth efo fo. Felly haws o lawer ydi siarad amdanaf i fy hun, er bod hynny’n teimlo fel siarad efo wal ar adegau.

Er ’mod i wedi landio ar fy nhraed efo’r swydd ’ma, ac wedi casáu pob rhan o waith coleg,  mae gen i dal hiraeth ofnadwy am y lle. Tydw i heb wneud dim ffrindia newydd ers symud at Osian, ma’r genod yn gwaith yn ddigon clên, ond prin mod i wedi cael cyfle i wneud dim byd y tu allan i’r gwaith efo nhw, dwi’n teimlo’n rhy euog yn gadael Osian adra. Ges i gynnig mynd â fo efo fi unwaith, ond roeddwn i’n gwybod na fasa ganddo fo ddim diddordeb ac yn dawel bach roeddwn i’n diolch am hynny, dwi’n meddwl y basa gen i gywilydd mynd efo fo a fynta mor ddi-ddim y dyddia yma.

Colli’r amrywiaeth ydw i, yn enwedig a finna’n byw’r un diwrnod drosodd a drosodd ar hyn o bryd. Dwi’n colli cael sgwrs dros frecwast yn ddi-ffael bob bore, a chlywed am helyntion dyddiau pawb bob gyda’r nos. Dwi’n colli cael mynd am ginio efo ffrind heb orfod trefnu ddeufis ymlaen llaw ein bod ni am weld ein gilydd. Dwi’n colli cael mynd allan ar benwythnosau a gweld llond gwlad o wynebau cyfarwydd yn y Llew.

Yn fwy na dim, dwi’n colli gweld Osian, yn sefyll yn dal yn eu canol nhw, ac yn morio canu’n uwch na phawb arall.