Mae dyn 83 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nrefach yng Ngheredigion.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r eiddo am oddeutu 12.20yp ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 11).
Aeth timau yno o Dregaron, Llanbed, Aberaeron ac Aberystwyth, ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Mae cryn ddifrod wedi’i achosi i’r eiddo, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Dydy Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin ddim yn ei drin fel digwyddiad amheus.
Mae disgwyl i’r ymchwiliad barhau dros y penwythnos.