Mae cyn-Archdderwydd ymhlith y rhai sy’n galw am eglurhad pellach gan yr Eisteddfod ynghylch helynt y Fedal Ddrama ym Mhontypridd eleni.
Wrth i ragor o bobol ychwanegu eu henwau i’r cannoedd sydd wedi bod yn galw am eglurhad llawn gan yr Eisteddfod ynghylch eu penderfyniad i ddileu’r gystadleuaeth, fe ddaeth i’r amlwg fod Myrddin ap Dafydd yn eu plith.
Mae’r Eisteddfod wedi cydnabod nad yw eu datganiadau am y sefyllfa cyn hyn wedi “lleddfu gofidiau nifer o bobol am y penderfyniad”.
Wrth dorri’r stori fis Awst, roedd golwg360 yn deall fod seremoni’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd wedi cael ei hatal gan fod y darn buddugol wedi’i ysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person o gefndir ethnig lleiafrifol.
Mae’n debyg fod enillydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth, ond fod penderfyniad wedi’i wneud i atal y gystadleuaeth ar ôl cael gwybod pwy oedd y dramodydd buddugol.
Yn sgil penderfyniad yr Eisteddfod i beidio gwneud sylwadau pellach, roedd nifer o ddamcaniaethau wedi cael eu rhannu, gan gynnwys bod deallusrwydd artiffisial (AI) wedi cael ei ddefnyddio.
Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi ddiwrnod cyn y byddai’r seremoni’n cael ei chynnal na fyddai’n cael ei chynnal wedi’r cyfan, ac na fyddai’r beirniaid – Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch – yn gwneud sylw pellach.
Daeth y penderfyniad “bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni” yn dilyn trafodaeth ar ôl beirniadu’r gystadleuaeth.
Chafodd y feirniadaeth mo’i chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau chwaith, ond roedden nhw wedi cysylltu â’r cystadleuwyr i gynnig sylwadau.
Llythyr agored
Erbyn ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 12), roedd 242 o bobol wedi llofnodi’r llythyr, sydd i’w weld yn ei gyfanrwydd isod:
https://x.com/Paul_Griffiths_/status/1862772281895751766?ref_src=twsrc%5Etfw%7Ctwcamp%5Etweetembed%7Ctwterm%5E1862772281895751766%7Ctwgr%5E1c205a8301a4afd763655b38dfed985ded93a37e%7Ctwcon%5Es1_&ref_url=https%3A%2F%2Fgolwg.360.cymru%2Fnewyddion%2Fcymru%2F2166438-fedal-ddrama-eisteddfod-ateb-llythyr-agored
Ymateb yr Eisteddfod
Yn y llythyr gan yr Eisteddfod, mae Ashok Ahir, Llywydd y Llys, wedi “diolch i’r rhai sydd wedi llofnodi’r llythr agored at Gyngor a Bwrdd yr Eisteddfod”.
“Rydym yn gwerthfawrogi fod y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama’n parhau yn bwnc llosg i nifer,” meddai.
“Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y feirniadaeth sydd wedi ei gylchredeg yn barod, ac yn derbyn na fu i’n datganiadau cynt leddfu gofidiau nifer o bobol am y penderfyniad.
“Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, a’r Bwrdd yn unig, sydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn.
“Ni ddylid felly beirniadu unrhyw wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r Eisteddfod nac ychwaith y staff.
“Isod ceir ymateb i’r ddau fater a godwyd gennych chi.”
Y Symposiwm Rhithiol
“Cynhaliwyd y Symposiwm Rhithiol yn Nhachwedd eleni i drafod cynrychiolaeth yn y theatr yng Nghymru, ac i geisio edrych ymlaen at y dyfodol,” meddai’r llythyr wedyn.
“Mae’n ddrwg gennym os nad oeddech yn teimlo i chi gael mynegi eich barn yn y digwyddiad.
“Roedd cyfle i bobol ofyn cwestiynau drwy’r ffordd arferol o fewn Webinar drwy gydol y sesiwn, ac fe wnaethpwyd hyn yn glir fwy nag unwaith yn ystod y noson.
“Ni rwystrwyd unrhyw berson rhag gwneud sylwadau na chodi cwestiynau ar unrhyw bwynt.
“Roedd pob sylw a chwestiwn yn weledol i’r panel.
“Mae’n werth hefyd nodi mai ychydig iawn o’r rheini sydd wedi llofnodi’r llythyr agored (llai nag 8%) oedd wedi cofrestru ac felly wedi mynychu’r Symposiwm.
“Roedd y Symposiwm yn gyfle i godi nifer o egwyddorion pwysig sydd hefyd wedi’u trafod gan ein panelau a’n pwyllgorau wrth ddiwygio ein prosesau, rheolau a’n hamodau o ran y cystadlaethau.
“Yr ydym yn credu y bydd yr egwyddorion hynny yn rhoi hyder i gystadleuwyr, beirniaid, a charedigion yr Eisteddfod a’r theatr yng Nghymru pan eu cynhwysir yn ein canllawiau a’n prosesau ar eu newydd wedd.”
‘Y modd yr ymatebodd yr Eisteddfod i’r hyn ddigwyddodd eleni’
Wrth i’r llythyr fynd yn ei flaen, dywed Ashok Ahir eu bod nhw’n “ymddiheuro am unrhyw ofid a grewyd oherwydd ei bod yn ymddangos fod yr egwyddor o gystadlu o dan ffugenw, ac yn y dirgel wedi ei danseilio am resymau annilys, diangen, neu oherwydd sensoriaeth, gan yr Eisteddfod”.
“Nid felly yr oedd pethau.
“Daeth consyrn cwbl ddilys a di-gynsail i’r fei a oedd yn cyfiawnhau’r angen i ni wneud ymholiadau pellach.
“Yn dilyn hyn, penderfyniad y Bwrdd oedd arfer eu hawl i atal y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd er gwarchod pawb ynghlwm â hi, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad.
“Bu inni ymddwyn yn unol â rheolau ac amodau’r Eisteddfod wrth gymryd y cam hwn.
“Rheidrwydd oedd gweithredu fel y gwnaethom, oherwydd ein dyletswyddau fel ymddiriedolwyr er lles yr elusen, ac uniondeb y broses gystadlu.
“Fel y nodwyd ym mis Awst, ein dyletswydd yw sicrhau bod canllawiau priodol gennym i osgoi sefyllfaoedd o’r fath rhag codi yn y dyfodol.”
Sefyllfa “gymhleth a dryslyd”
Mae’r rhai fu’n gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod bellach wedi ymateb unwaith eto, gan ddweud eu bod yn “gwerthfawrogi” y sylw yn ymateb i’w pryderon ac “yn cydymdeimlo bod y sefyllfa yma yn gymleth a dryslyd”.
“Rydych chi’n dweud y bu’n rhaid atal y gystadleuaeth er mwyn “gwarchod pawb oedd ynghlwm â hi”, a hynny “er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad”,” medden nhw.
“Yn anffodus, nid yw eich “Symposiwm” na’ch datganiadau hyd yn hyn eto wedi egluro’r sefyllfa’n foddhaol…”
Maen nhw wedi gofyn rhagor o gwestiynau maen nhw’n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu hateb o hyd, sef:
- Pa reolau o’r gystadleuaeth neu gyfraith (os torrwyd rhai) a dorrwyd gan gynnwys y ddrama fuddugol?
- Pa reol o’r gystadleuaeth neu ddeddfwriaeth gwlad fyddai wedi ei dorri pe bai’r darpar-enillydd wedi ei wobrwyo?
- A rannwyd unrhyw fanylion personol am yr darpar-enillydd gyda’r beirniaid neu eraill cyn y seremoni wobrwyo, yn groes i’r drefn o gystadlu’n gyfrinachol? Os felly, pam?
- Soniwyd o’r blaen bod yr enillydd wedi “honni eu bod yn cynrychioli” grŵp penodol. Allwch chi esbonio beth yn union a wnaethpwyd ganddynt a sut bod hwn yn groes i reol o’r gystadleuaeth neu gyfraith, nac, yn wir, sut y gallai’r cystadleuydd fod wedi honni unrhywbeth felly heb i hynny dynnu’n groes i reol o cystadlu’n gyfrinachol a di-enw?
- Allwch chi gadarnhau os cyrchwyd unrhyw gyngor cyfreithiol gan yr Eisteddfod cyn gwneud y penderfyniad hwn “er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad”? Os do, gan bwy, a beth oedd y cyngor? Os naddo, pam lai?
- Os nad cynnwys y ddrama dan sylw oedd y broblem ond yn hytrach hunaniaeth y sawl a’i hysgrifennodd, allwch chi gadarnhau na weithredodd yr Eisteddfod – wrth atal y gystadleuaeth – yn groes i Ddeddf Gydraddoldeb 2010 drwy wahaniaethu ar sail Nodwedd Warchodedig?
- Ydych chi’n derbyn bod eich gweithredoedd ynghlwm â’r mater hwn wedi tanseilio ymddiriedaeth yn nhegwch a di-dueddrwydd y gyfundrefn Eisteddfodol? Os felly beth ydych chi’n bwriadu ei wneud i leddfu’r gofidion hyn yn y dyfodol?
Rhagor o enwau
Ychwanega’r ymateb fod rhagor o bobol wedi llofnodi’r llythyr erbyn hyn, sef y Prifardd Myrddin ap Dafydd, Siân Edwards, Robat Gruffudd, Anwen Huws [Hopkins], Geraint Løvgreen, John Ogwen, Ann Postle, Lois Glain Postle, Nia (J.O) Roberts, Maureen Rhys a Seiriol Tomos.
“Nid oes raid imi dynnu eich sylw bod un o feirniad Wrecsam 2025 a chyn-Archdderwydd wedi’i enwi uchod,” meddai wedyn.
“Edrychwn ymlaen i glywed gennych yn fuan iawn.”