Mae Shane Williams yn dweud y byddai’n “caru’r cyfle” i fod yn wleidydd ryw ddiwrnod, ond yn cyfaddef – â’i dafod yn ei foch – nad yw’n un da am “siarad rybish”.

Bu’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn siarad ag Adrian Chiles ar BBC Radio 5 Live heddiw (dydd Iau, Mehefin 27), yn rhan o gyfres sy’n ymweld ag etholaethau amrywiol ledled y Deyrnas Unedig.

Yn etholaeth Caerfyrddin mae cyn-asgellwr Cymru’n byw ar hyd ei oes, ac eithrio tair blynedd yn chwarae yn Siapan.

“Mae holl ardal Caerfyrddin mor Gymraeg…” meddai.

“Lle dwi’n dod, Dyffryn Aman, dw i’n byw mewn tref fach iawn sydd â chwpl o filoedd o bobol, a dw i wedi byw yma drwy gydol fy mywyd.”

Wrth ddisgrifio’i filltir sgwâr, dywed ei fod yn “lle sydd yn gyffredinol Gymreig, gyda chaeau, defaid, heolydd cul”.

“Hyd yn oed nawr, dw i dal yn ffeindio fy hun ar ffyrdd dw i erioed wedi bod arnyn nhw yn fy mywyd,” meddai.

“Ac wedyn mae’r trefi, ac mae gan bob tref glwb rygbi, a’r clwb rygbi yw’r lle mae pawb yn cwrdd, ac mae’n ganolbwynt i’r dref ac yn galon y y gymuned.”

Cyfleoedd yng Nghaerfyrddin

Nid pawb sy’n gallu serennu a bod yn chwaraewyr rhyngwladol ac aros yn eu milltir sgwâr, meddai Adrian Chiles.

Ond a oes digon o gyfleoedd i bobol ifanc aros yn yr ardal ar y cyfan?

“Roeddwn i’n lwcus iawn yn yr ystyr yna,” meddai Shane Williams.

“A dw i’n siŵr ei fod e’n un rheswm pam wnes i aros yma.

“Ond dw i’n credu bod digonedd o waith, a dw i’n ei chael hi’n anodd iawn ffeindio pobol sydd eisiau gweithio yn y lle cyntaf.”

Mae Shane Williams yn berchen ar saith cwmni sydd un ai wedi’u lleoli yn Rhydaman neu yn Nhrefynwy.

“Ddim yn hir iawn yn ôl, byddwn i wedi gallu ffonio plymwr neu friciwr, a bydden nhw wedi gallu dechrau’r diwrnod canlynol. Nawr, mae’n rhaid aros mis weithiau.

“Efallai dyw fy nhref i ddim y mwyaf cefnog yng Nghymru, ond dw i ugain munud o Abertawe, deg neu bymtheg munud o Gastell-nedd, ac mae Llanelli jest rownd y gornel, felly mae digon o ddiwydiant a phethau i’w gwneud yn fy marn i.

“Weithiau mae’n rhaid mynd allan o dy comfort zone a mynd amdani.”

Dyfodol fel gwleidydd?

Wrth siarad am yr etholiad cyffredinol, a gwleidyddiaeth yn ehangach, dywed Shane Williams y byddai’n “caru’r cyfle” i redeg ond nad yw e’n “dda yn siarad gormod o rybish”.

“Felly dw i ddim yn meddwl allwn i ymdopi â’r gwaith yna; os nad ydw i’n gorfod siarad llawer, dw i’n iawn.”

Wrth drafod cyflwr gwleidyddiaeth yn gyffredinol, dywed fod “cymaint i fod yn grac amdano fe, yn enwedig gyda’r llywodraeth bresennol”.

“Ond dw i’n credu bod rhaid i ti weithio’n galed a rhoi ymdrech i mewn i gael y rhodd yn y pen draw.”