Bydd gornest Brett Johns, yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg, yn erbyn Tyler Diamond yn nhalaith De Dakota yn cael ei dangos yn fyw ar S4C heno (nos Wener, Mehefin 28).

Bydd modd gwylio gornest y Cymro Cymraeg o Bontarddulais yn fyw ar S4C Clic, YouTube a Facebook am 11 o’r gloch.

Mae’r ornest pwysau plu yn y Sanford Pentagon yn Sioux Falls yn rhan o’r PFL (Cynghrair yr Ymladdwyr Proffesiynol) Regular Season.

Mae Brett Johns yn ymladd am le yn y pencampwriaethau diwedd tymor, gydag enillydd pob adran yn anelu am wobr o $1m.

Hon yw ei ail ornest PFL eleni, ac yntau wedi colli yn erbyn Timur Khizriev drwy benderfyniad unfrydol ym mis Ebrill.

“Mae’n mynd yn grêt,” meddai am y paratoadau.

“Tro diwetha’, doedd e ddim wedi mynd to plan, ond nawr mae gyda ni ail gyfle i fynd trwyddo.

“Mae’n edrych yn slim, ond mae dal siawns – pan ti’n rhoi miliwn o ddoleri fynna, mae’n rhoi digon o hyder i fynd trwyddo a trio ennill yr arian.

“Mae’r ffaith fod e ymlaen ar S4C yn beth enfawr i’r gamp…

“Oedd lle o’n i blwyddyn diwetha’ yn 2023… o’n i mewn lle gwael yn feddyliol, ac mae gweld lle o’n i nawr, mae e’n beth enfawr, a fi’n ddiolchgar i S4C bo nhw’n dangos e.

“Mae lot o bethau sydd wedi digwydd tu fas i fywyd fi nawr sydd wedi rhoi hyder i fi fynd trwyddo i’r ffeit nesaf, a fi methu aros.

“Tro diwetha’, o’n i’n fwy nerfus, ond tro yma fi methu aros!”

Anafiadau a cholli babi

Ar ôl cyfnod heriol y llynedd gydag anafiadau a cholli babi yn y groth, mae Brett Johns a’i deulu yn edrych ymlaen at y cyfnod nesaf yn ei fywyd proffesiynol a phersonol.

Yn ddiweddar, mae e a’i wraig Carys wedi croesawu babi bach i’r teulu.

“Mae e wedi hollol newid mindset fi cyn ffeit – fi’n ddiolchgar ofnadwy…” meddai.

“Mae e’n ffocws newydd, a fi’n credu dyna beth o’n i eisiau blwyddyn diwetha’… Mae e fel fresh slate.”

Yn dilyn y darllediad byw o’r ornest ar nos Wener bydd modd ail weld yr holl gyffro ar raglen arbennig ar S4C nos Sadwrn (Mehefin 29) am 9 o’r gloch.

Yn cyflwyno’r ornest o’r Unol Daleithiau fydd Owain Gwynedd, ac yn sylwebu o’r stiwdio fydd Gareth Roberts.

Yn ymuno â nhw fydd Euros Jones Evans, yr arbenigwr MMA, a’r hyfforddwr Greg Creel.

Mae hyn yn rhan o benwythnos llawn o chwaraeon ar S4C, gan gynnwys Triathlon Llanelli, cymalau cynta’r Tour de France, a gêm Sbaen yn erbyn Cymru yng nghystadleuaeth rygbi y WXV.