O fis Chwefror 2025, fe fydd gan y ganolfan gelfyddydau fawr yn Noc Fictoria, Caernarfon Brif Weithredwr newydd…

Merch o Bwllheli sydd wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr newydd Galeri, y ganolfan yng Nghaernarfon sy’n cynnwys sinema, bar, theatr a gofod gwersi canu ac offerynnol. Ac mae yno hefyd unedau i gwmnïau megis Golwg a Thinopolis, y cwmni teledu sy’n cynhyrchu rhaglenni Heno a Prynhawn Da i S4C.