Mae’r ail flwyddyn o wersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc 16-25 oed a staff ysgolion wedi helpu hyd yn oed mwy o bobol i ddysgu’r iaith.

Mae lle i gredu bod dros 2,000 o bobol ifanc a staff ysgol wedi manteisio ar y cynnig yn ystod 2023-24.

Enillodd Melody Griffiths, sy’n 17 oed ac yn dod o Wrecsam, Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn gynharach eleni.

Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ym Mlwyddyn 11, ac mae hi wedi trefnu Clwb Cymraeg yn ei choleg.

“Mae’r clwb yn cyfarfod bob wythnos,” meddai.

“Mae’r myfyrwyr yn dod i ddysgu mwy am y Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru drwy gwisiau a sgyrsiau hamddenol.

“Dwi’n meddwl mai’r peth gorau am siarad Cymraeg yw fy mod i’n gallu cysylltu â Chymru yn well – drwy’i diwylliant a’i llenyddiaeth.

“Mae’n anodd deall y rhain os nad ydach chi’n siarad Cymraeg.”

Cymraeg yn y de-ddwyrain

Gall gwersi Cymraeg am ddim hefyd helpu staff ysgolion i ysbrydoli dysgwyr.

Penderfynodd grŵp o athrawon yn Ysgol Gynradd Langstone yn y de-ddwyrain fynd ati i ddysgu’r iaith ar ddechrau’r cyfnod clo, ac maen nhw bellach yn mwynhau dysgu ac addysgu’r iaith yn yr ysgol.

“Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg, a dw i’n manteisio ar bob cyfle posib i gyflwyno’r iaith i’r plant ar draws yr ysgol,” meddai Paula Watts, un o athrawon yr ysgol.

“Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg i helpu’r plant i lunio brawddegau, cyflwyno geirfa newydd, a chynnal sgwrs syml.

“Dw i hefyd yn rhannu gorchmynion Cymraeg y gall y staff eu defnyddio yn y dosbarth wrth addysgu ac yn cynnig syniadau i’w helpu i gynllunio eu gwersi Cymraeg.

“Mae gennym sesiwn paned a sgwrs bob bore Mawrth am 8:15yb, sy’n rhoi cyfle i staff sgwrsio yn Gymraeg dros baned.

“Mae Dydd Mercher Cymraeg yn un o’n hoff ddyddiau ni a’r plant – rydyn ni’n cael llawer o hwyl ac yn dechrau’r dydd gyda gemau a chaneuon Cymraeg.”

Gwersi am ddim

Mae ystod o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i bobol ifanc 16-25 oed sy’n cael eu cynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys cyrsiau blasu a chyrsiau lefel Mynediad i ddechreuwyr, hyd at lefelau Uwch a Gloywi ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac mewn dosbarthiadau rhithwir, ac mae ystod eang o adnoddau dysgu digidol ar gael hefyd.

Mae’r Ganolfan Genedlaethol hefyd yn darparu dewis gwych o gyrsiau Cymraeg ar gyfer staff ysgolion, sy’n cynnwys cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer ymarferwyr addysg yn ogystal â chyrsiau hunanastudio ar-lein a chyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gymuned.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae’r fenter hon yn golygu ei bod hi’n haws nag erioed i bobol ddysgu Cymraeg.

“Rwy’n falch o weld cymaint o bobol ifanc ac ymarferwyr addysg yn manteisio ar y cyfle i ddysgu’r iaith.

“Mae gwella sgiliau Cymraeg pobol ifanc fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd yn bwysig iawn.

“Mae hyn yn rhan o’n gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ac yn iaith fodern sy’n cael ei defnyddio bob dydd.

“Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a gwella lefelau gallu yn y Gymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yn hanfodol fel eu bod yn fwy hyderus i addysgu’r Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu pynciau eraill, ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn amgylchedd ehangach yr ysgol.”

Miliwn o siaradwyr erbyn 2050

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae gwaith y Ganolfan wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnwys hyfforddiant Dysgu Cymraeg i bobol ifanc a’r gweithlu addysg – dwy gynulleidfa hanfodol i wireddu’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae gwaith y Ganolfan gyda phobol ifanc yn mynd o nerth i nerth, ac mae cyrsiau ac adnoddau pwrpasol yn cael eu datblygu gan arbenigwyr iaith y Ganolfan.

“Yn ogystal, mae partneriaethau gydag ysgolion, prentisiaethau, Addysg Bellach a sefydliadau fel yr Urdd a Gwobrau Dug Caeredin yn darparu cyfleoedd dysgu newydd a hyblyg i bobol ifanc.

“Mae’r Ganolfan hefyd wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg – o ddechreuwyr i siaradwyr Cymraeg sydd eisiau magu eu hyder Cymraeg.

“Mae athrawon a chynorthwywyr hefyd yn cael eu cyflwyno i ddulliau all eu helpu i ddysgu Cymraeg i blant a phobol ifanc.”