Mae 62% o blant Cymru yn cefnogi gwaharddiad ar werthu diodydd egni i blant dan 16 oed, yn ôl arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Mae’r arolwg yn cyfrannu at dystiolaeth ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru, sy’n awgrymu y dylai gwaharddiad o’r fath gael ei gyflwyno yng Nghymru.
Ymhlith argymhellion eraill yr ymgynghoriad mae cyfyngu ar ail-lenwi diodydd melys yn ddi-dâl mewn bwytai, a phennu rheolau newydd ynghylch lleoliad a manylion hyrwyddo bwydydd.
Dywed Rocio Cifuentes, y Comisiynydd Plant, ei bod hi eisiau bod barn pobol ifanc yn cael ei hystyried cyn i’r Llywodraeth ddod i benderfyniad.
‘Dealltwriaeth glir’
Fe atebodd 610 o blant rhwng saith a deunaw oed yr arolwg ym mis Medi eleni.
Dywedodd 66% o’r rheiny wnaeth ymateb fod nifer neu lawer o blant o’r un oed â nhw yn yfed diodydd egni.
Wrth gyfiawnhau pam y bydden nhw’n cefnogi gwaharddiad, fe ddywedodd bron i draean o’r plant fod diodydd egni yn gallu achosi problemau iechyd, gan gynnwys problemau gyda’r galon.
Cyfeiriodd rhai plant hefyd at y lefel uchel o gaffein a siwgr mewn diodydd egni.
Dywed y Comisiynydd fod yr atebion hyn yn awgrymu bod rhan helaeth y plant gwblhaodd yr arolwg “yn cefnogi cynlluniau i wahardd diodydd egni i blant o dan 16 oed”, a’i bod yn “credu bod yr ymatebion yn dangos dealltwriaeth glir o effeithiau posibl y diodydd hynny ar iechyd”.
Roedd nifer sylweddol (60%) hefyd yn teimlo bod arddangos bwyd afiach yn gwneud gwahaniaeth i’w penderfyniad i’w brynu neu beidio, gyda sawl ymateb yn nodi bod gosod bwydydd afiach wrth y til neu ym mlaen siopau yn rhywbeth fyddai’n “dal eu llygad”.
‘Poenus o ymwybodol’
Ond roedd ymateb mwy cymysg i gynigion i osod cyfyngiadau ar ail-lenwi diodydd melys am ddim mewn bwytai.
Roedd 31% yn cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru, ond dywedodd 42% y byddai stopio ail-lenwi diodydd am ddim yn syniad gwael.
Y rheswm mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobol ifanc dros beidio â chefnogi’r cynnig oedd cost uchel bwyta ac yfed allan, a phryderon y byddai gwaharddiad yn gwneud hynny’n llai fforddiadwy.
Dywed y Comisiynydd Plant fod “plant yn boenus o ymwybodol o’r pwysau ariannol o’u cwmpas”.
“Roedd yn drist darllen ymatebion yn pryderu ynghylch sut byddai gwaharddiad yn effeithio ar brisiau,” meddai Rocio Cifuentes.
Ond dywed fod “llawer o ymatebion yn nodi effaith negyddol diodydd melys ar iechyd, ac rydw i’n croesawu ymdrechion i wneud amgylcheddau bwyd yn iachach”.
“Rwy’n falch o fedru rhannu barn plant fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, ac fe hoffwn i ddiolch i’r holl blant gymerodd ran yn yr arolwg ciplun,” meddai wedyn.
“Byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y safbwyntiau hynny’n ofalus fel rhan o’r camau nesaf.”