Yn ôl tiwtor Makaton côr arwyddo o Arfon, byddai’n dda gweld mwy o bobol yn dysgu’r dull cyfathrebu.

Mae côr Lleisiau Llawen, sy’n canu drwy Makaton, newydd fod yn perfformio Gig y Gwanwyn yn y Galeri yng Nghaernarfon hefyd.

Mae Makaton yn defnyddio arwyddion a symbolau i helpu pobol i gyfathrebu, ac yn aml caiff ei defnyddio ar y cyd â siarad gan bobol sy’n cael trafferth cyfathrebu ar lafar.

Er bod arwyddion Makaton yn dod o’r Iaith Arwyddo Prydain (BSL), mae’r ddau ddull cyfathrebu yn wahanol.

Gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy yw bod Makaton yn cael ei ddefnyddio i helpu pobol sy’n clywed ag anawsterau dysgu neu gyfathrebu.

Ar y llaw arall, Iaith Arwyddo Prydain yw’r prif ddull cyfathrebu i bobol sy’n drwm eu clyw neu’n gwbl fyddar ac mae’n cael ei ystyried yn iaith yn ei hawl ei hun.

‘Gweledigaeth’

Dechreuodd y côr ychydig cyn y pandemig, diolch i Eryl Price Williams, ac mae pobol o bob rhan o Wynedd yn dod ynghyd yn Y Felinheli i ganu ac arwyddo.

Y gobaith yw y bydd y côr yn gallu cynnal mwy o sioeau, a mynd o nerth i nerth, meddai Ceri Bostock.

Am y tro cyntaf eleni, bydd côr arwyddo Lleisiau Llawen yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

“Byddan ni’n mynd mewn i’r Urdd blwyddyn yma a bydd Makaton yn cael ei ddefnyddio mewn tair cystadleuaeth côr, sydd erioed wedi digwydd o’r blaen,” eglura Ceri Bostock, tiwtor Makaton y côr ac un o’r cyd-arweinwyr.

“Mae gennym weledigaeth fawr ar gyfer blwyddyn nesaf hefyd felly mae pethau cyffrous yn digwydd.”

Roedd côr Arwyddo Lleisiau Llawen ar y maes yn ystod yr Ŵyl Fwyd llynedd, a byddan nhw’n perfformio yno eleni.

Mae ganddyn nhw sianel YouTube hefyd, a gall unrhyw un ddysgu’r arwyddion i’r caneuon wrth eu dilyn

Yn ddiweddar, ymddangosodd y côr ar raglen Canu Gyda Fy Arwr ar S4C hefyd, gan berfformio gyda Bronwen Lewis.

‘Agor byd i ddefnyddwyr Makaton’

Dydy Makaton ddim ar gyfer pobol ag anawsterau dysgu a chyfathrebu’n unig, eglura Ceri Bostock. 

“Mae Makaton yn helpu datblygu iaith, ac mae’n helpu dealltwriaeth, a phobol yn gallu cyfathrebu efo’i gilydd.

“Dyna pam mae’n gweithio mor dda efo caneuon, efo Makaton ti yn siarad tra ti’n arwyddo.

“Mae’r rheiny sydd ddim angen arwyddo yn mwynhau dysgu’r arwyddion a dal bod yn rhan ohono fo.

“Mae pobol yn cael llawer o bleser wrth wylio ac ymuno efo’r Makaton a chanu efo’i gilydd.”

Mae gwreiddiau Makaton yn perthyn i’r 1970au, ac mae’r dull cyfathrebu ar gynnydd ers y 1990au.

“Maen nhw’n sylweddoli faint mae’n gallu helpu pobol rŵan,” meddai Ceri Bostock.

“Mae llawer o ysgolion prif lif yn defnyddio fo rŵan efo plant sy’n ail iaith Saesneg neu’n ail iaith Cymraeg.

“Mae’n gallu pontio dwy iaith efo’i gilydd.

“Mae’n gallu helpu i gadw sylw pobol oherwydd bod nhw’n gallu bod mwy gweledol, mae’n gallu helpu plant efo ADHD.

“Y weledigaeth ydy bod yna fwy a fwy yn defnyddio Makaton a bod o’n agor byd i bawb sy’n ei defnyddio.

“Ti ddim yn gorfod dysgu’r iaith i gyd, jyst ychydig bach.

“Mae dysgu’r basics a’r geiriau allweddol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun.”