Mae Humza Yousaf wedi cael ei ethol fel arweinydd yr SNP, ac mae disgwyl iddo olynu Nicola Sturgeon fel Prif Weinidog yr Alban.
Ar ôl i Ash Regan adael y ras ar ôl y rownd gyntaf o gyfrif pleidleisiau, curodd Humza Yousaf yr Ysgrifennydd Cyllid Kate Forbes, gyda 52% i 48%.
Wedi i’r pleidleisiau ail ddewis gael eu hail-ddosbarthu, roedd gan Humza Yousaf 52.1% o’r bleidlais.
Bydd yn cymryd ei le fel arweinydd y blaid yn syth, a bydd pleidlais ymhlith Aelodau Senedd yr Alban yn Holyrood fory (Mawrth 28) i’w ethol fel Prif Weinidog.
Fe wnaeth Nicola Sturgeon gyhoeddi fis diwethaf ei bod hi’n rhoi gorau i’w rôl fel Prif Weinidog ar ôl wyth mlynedd.
Pwy yw Humza Yousaf?
Humza Yousaf, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, oedd yr ymgeisydd mwyaf poblogaidd ymysg Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd yr Alban yr SNP drwy gydol y ras arweinyddol, ond roedd hi’n bleidlais agos wedi i 72,169 o aelodau cymwys bleidleisio.
Wrth wneud ei araith gyntaf fel arweinydd, dywedodd Humza Yousaf ei fod am gynrychioli pawb yn yr Alban, pe bai’n cael ei gadarnhau fel Prif Weinidog fory, waeth beth yw eu tueddiadau gwleidyddol.
Dywedodd hefyd ei fod am barhau i wthio am annibyniaeth i’r Alban.
“Roeddwn i’n benderfynol ar y pryd, a dw i dal i fod nawr, fel pedwerydd arweinydd ar ddeg y blaid wych hon, y byddan ni’n cael annibyniaeth i’r Alban – gyda’n gilydd fel tîm.”
Humza Yousaf, sydd wedi bod yn Aelod o Senedd yr Alban dros Glasgow ac yna Glasgow Pollock ers 2011, oedd yr ymgeisydd mwyaf profiadol o’r tri.
Wrth ad-drefnu cabinet Nicola Sturgeon yn 2018, cafodd ei benodi i Gabinet yr Alban i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder.
Fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, cyflwynodd y Mesur Troseddau Casineb ac yn 2021, olynodd Jeane Freeman fel Ysgrifennydd Iechyd.
Ers hynny, mae wedi bod yn arwain rhaglen frechu Covid-19 Llywodraeth yr Alban.
‘Edrych ymlaen at gydweithio’
Wrth ei longyfarch, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: “Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar faterion ar y cyd ac i fynd i’r afael â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.
“Pob hwyl yn y swydd newydd.”
‘Cyflwyno’r achos dros annibyniaeth’
Ar ran Plaid Cymru, mae Adam Price a Liz Saville Roberts, wedi estyn eu llongyfarchiadau ac wedi dymuno’r gorau iddo.
“Gwyddom y bydd Humza yn adeiladu ar waith diflino ei ragflaenydd, Nicola Sturgeon, drwy roi tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth galon cenhadaeth Llywodraeth yr Alban.
“Wrth i Lywodraeth San Steffan barhau i wadu i bobol yr Alban eu hawl democrataidd i hunanbenderfyniad, mae’n bwysicach nag erioed bod gan yr Alban Brif Weinidog sy’n gryf o ran argyhoeddiad ac yn glir o ran gweledigaeth.
“Mae’r berthynas rhwng ein pleidiau wedi bod yn gryf erioed ac edrychwn ymlaen at weld y berthynas hon yn mynd o nerth i nerth wrth inni barhau i gyflwyno’r achos dros annibyniaeth i’n cenhedloedd.”
‘Dod â’r Alban ynghyd’
Meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Dw i’n dymuno’n dda i [Humza Yousaf] yn ei rôl ac yn gobeithio y bydd yn gallu dod â’r Alban ynghyd.
“Y ffordd orau i wneud hynny fyddai rhoi’r gorau i’r sgyrsiau rhwygol am annibyniaeth a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobol yr Alban.”