Roedd ystadegau crefydd Cyfrifiad 2021 “yn fwy cywir nag erioed o’r blaen”, tybia Swyddog Polisi mudiad eglwysig Cytûn.
Fel rhan o sgwrs wedi’i threfnu gan Gyfundeb Eglwysi Annibynnol Dwyrain Morgannwg yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, bu’r Parchedig Gethin Rhys yn dehongli’r ffigurau ar gyfer crefydd a ffydd yn y sensws diweddaraf.
Wedi cael ychydig fisoedd i gnoi cil dros yr ystadegau, oedd yn dangos bod mwy o bobol ddigrefydd na chrefyddol yng Nghymru am y tro cyntaf, mae Gethin Rhys yn pwysleisio nad oes dim yn ei synnu am y ffigurau.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, 43.6% o boblogaeth Cymru oedd yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, gostyngiad o’r 57.6% yn 2011.
Roedd y niferoedd ddegawd yn ôl “wastad yn afrealistig”, meddai Gethin Rhys wrth ystyried pam bod yr ystadegau’n agosach at eu lle erbyn Cyfrifiad 2021 a beth mae’r cynnydd yn nifer y rhai diciodd y blwch ‘Dim crefydd’ yn ei olygu i grefyddau mewn gwirionedd.
“Rydyn ni’n gwybod, wrth gwrs, at ei gilydd bod y niferoedd sy’n weithredol fel Cristnogion wedi bod yn lleihau,” meddai Gethin Rhys wrth golwg360 ar ôl y sgwrs yng Nghapel y Methodistiaid yn yr Eglwys Newydd nos Fercher ddiwethaf (Mawrth 22).
“Mae’r gostyngiad yn y niferoedd yn y cyfrifiad yn gyflymach na’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n mynychu eglwys a chapel, ond mi oedd y niferoedd yna wastad yn afrealistig.
“Ddeng mlynedd yn ôl, roedd tua 55% yn dweud eu bod nhw’n Gristnogion… Pe tai 55% o boblogaeth Cymru wedi mynd i gapel neu eglwys ar y Sul byddai hi wedi bod yn ddiwygiad anferthol.
“Felly, mae hi’n amlwg bod pobol wedi bod yn ticio’r blwch Cristnogol i olygu pob math o bethau nid dim ond eu bod nhw’n Gristnogion.
“Mi fydd yna rai, dw i’n ofni, wedi bod yn ticio am resymau negyddol i ddweud ‘Dydw i ddim yn Fwslim,’ er enghraifft. Bydd eraill wedi’i wneud e fel arwydd o Gymreictod.
“Rydyn ni’n gwybod bod dweud eich bod chi’n Gristion yn fater o hunaniaeth, yn ogystal ag o grefydd.
“Dyw hi ddim yn syndod i ni, wrth i bobol bellhau yn eu hanes teuluol oddi wrth fod yn Gristnogion gweithredol, eu bod nhw’n dueddol o ddefnyddio ffyrdd eraill o ddweud beth yw eu hunaniaeth nhw ac mae’r Cyfrifiad nawr yn darparu’r rheiny.”
‘Dim gor-ddweud i’r un graddau’
Am y tro cyntaf yn 2021, roedd cwestiwn newydd yn gofyn i bobol fynegi’u cenedligrwydd.
“Mae’n ddigon posibl felly bod pobol yn teimlo bod dim rhaid iddyn nhw dicio’r blwch Cristnogol i ddangos eu bod nhw o dras Gymreig,” awgryma Gethin Rhys.
“Mae’r ffigurau yma’n fwy cywir na maen nhw wedi bod erioed.
“Y tebygrwydd yw bod y rhan fwyaf o bobol sydd wedi ticio’r blwch Cristnogol y tro yma gyda rhyw gysylltiad o ryw fath – nid eu bod nhw’n mynychu’n rheolaidd ond gyda rhyw fath o gysylltiad personol gyda Christnogaeth.
“Mae’r sefyllfa gyda chrefyddau eraill, dw i’n credu, yn hollol wahanol, Mae fy nghydweithwyr i sy’n Hindŵiaid, yn Fwslemiaid neu’n Sikhiaid yn dweud bod y ffigurau yna reit gywir, dyna’r niferoedd sy’n mynychu Mosg neu Deml neu Synagog, neu o leiaf yn arddel ryw berthynas, yn troi fyny ar y prif wyliau er enghraifft.
“Mae hi dal yn wir fod 46% yn gor-ddweud faint fyddai mewn eglwys neu gapel, ond dyw e ddim yn gor-ddweud i’r un graddau.
“Dw i’n croesawu bod pobol yn ateb y cwestiwn yn onest, oherwydd doedd dim lot o ddefnydd i’r ffigurau o’r blaen mewn gwirionedd.”
Barn y digrefydd
Wedi’r cyfrifiad fe wnaeth Theos, mudiad sy’n gwneud gwaith ymchwil i faterion crefyddol cyhoeddus, gynnal grwpiau ffocws gyda phobol dros y Deyrnas Unedig oedd wedi ticio’r blwch ‘Dim crefydd’, a gofyn iddyn nhw beth mae bod yn ddigrefydd yn ei olygu.
Yn fras, roedd traean yn dweud eu bod nhw’n wrthwynebus tuag at grefydd, a thraean arall ddim yn credu mewn dim byd yn bersonol ond eu bod nhw’n gweld bod capeli, mosgiau, eglwysi ac ati’n gwneud gwaith da yn y gymuned.
Roedd y traean arall yn dweud eu bod nhw’n credu mewn duw ac yn gweddïo bob dydd, ond nad oedden nhw’n arddel perthynas gyda chrefydd gyfundrefnol.
“Iddyn nhw, nid gofyn beth yw’ch credo oedd y cwestiwn ond gofyn oes gyda chi ymlyniad gyda sefydliad crefyddol,” eglura Gethin Rhys.
“Dw i’n credu bod yr ymchwil yna’n bwysig, achos rydyn ni fel eglwysi wedi bod yn dueddol o gredu bod y 46% digrefydd yn wrthwynebus i grefydd a’u bod nhw’n bobol y dylen ni fod eu hofn nhw.
“Mae’r ymchwil yn dangos nad ydy hynny’n wir o gwbl, mae lot o’r bobol hyn yn gefnogol iawn i fodolaeth capeli ac eglwysi ond eu bod nhw ddim yn gweld lot o bwrpas mewn mynychu eu hunain.”
Ffigurau gonestach?
Dydy’r croesgyfeirio rhwng yr atebion o ran cenedligrwydd a chrefydd, a rhwng iaith a chrefydd, heb gael eu cyhoeddi eto.
“Ydy Cymry Cymraeg yn debycach o fod yn grefyddol na Chymry di-Gymraeg?” gofynna Gethin Rhys.
“Yn hanesyddol, bydden i wedi dweud mai dyna’r tebygolrwydd, ond tybed?
“Tybed ydy’r ffaith bod y cwestiwn yna lle roeddech chi’n medru dweud eich bod chi’n Gymreig wedi golygu bod rhai pobol ddim wedi ticio’r blwch eu bod nhw’n siarad Cymraeg oherwydd mai ryw ychydig o Gymraeg oedd ganddyn nhw, ond mai dyna’r unig ffordd ar y ffurflen ddeng mlynedd yn ôl o ddweud eich bod chi’n Gymro neu’n Gymraes?
“Y tro hwn, mae gyda chi ddwy ffordd o ddweud hyn. Efallai y bydd pobol wedi bod ychydig yn fwy gonest y tro hwn.”
Byddai hi’n ddiddorol cynnal grwpiau ffocws tebyg i rai Theos er mwyn gweld sut mae pobol wedi dehongli’r cwestiwn ieithyddol, meddai.
“Dyw siarad iaith, yn enwedig iaith leiafrifol, ddim yn fater o yndw neu nadw. Mae’n sbectrwm, a does dim lle ar ffurflen y Cyfrifiad i nodi le ydych chi ar y sbectrwm, a’r un peth gyda chrefydd.
“Felly rydych chi’n cwpla gyda ffigurau sydd ddim lot o ddefnydd â bod yn onest, â bob parch i’r Swyddfa Ystadegau.
“Rydyn ni’n sicr yn gwybod bod pobol ddigrefydd yn dehongli’r cwestiwn mewn nifer o wahanol ffyrdd, felly beth yn union ydych chi wedi’i fesur?”