Gellid cynnal rhagor o achosion llys ar-lein er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch ac effeithlon, yn ôl adroddiad newydd gan dîm o Brifysgol Aberystwyth.
Er na ddylai gwrandawiadau o bell ddigwydd o hyd er mwyn arbed arian, ni ddylid ystyried bod mynd yn ôl at y drefn cyn Covid yn gwbl ddelfrydol chwaith.
Mae’r academyddion wedi bod yn edrych ar y gyfundrefn gyfiawnder yn ystod y pandemig, gan ystyried y da a’r drwg o gynnal achosion teuluol, mewnfudo, gwrandawiadau tribiwnlysoedd, achosion troseddol, achosion sifil ac achosion yn ymwneud â phlant ar-lein.
Yn yr adroddiad, caiff sylw ei roi i’r manteision o ran hygyrchedd ac effeithlonrwydd, ynghyd â’r rhwystrau a’r cymhlethdodau posib wrth drio sicrhau bod y drefn yn deg.
Mae’r ymchwil hefyd yn ystyried materion fel technegol, defnyddio cyfieithu ar y pryd, a chanfyddiadau ynghylch anffurfioldeb.
‘Cloriannu’r heriau a’r cyfleoedd’
Dywedodd Dr Catrin Fflur Huws, uwch ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu’n arwain yr astudiaeth: “Ar ddechrau pandemig Covid-19, gwnaeth y llysoedd addasiadau cyflym er mwyn i wrandawiadau gael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein.
“Ar gyfer ein hymchwil daeth ymchwilwyr ac ymarferwyr cyfreithiol amlwg ynghyd mewn gweithdai, mewn sesiynau efelychu achosion llys, a chynhadledd ar-lein, i drafod arsylwadau o wrandawiadau hybrid a gwrandawiadau o bell a gynhaliwyd hyd yma.
“Mae adroddiad ein canfyddiadau’n cloriannu’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan wrandawiadau o bell, ac yn archwilio eu dyfodol mewn oes sy’n mynd yn fwyfwy digidol.
“Mae’r safbwyntiau a’r profiadau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth ynghylch defnyddio gwrandawiadau o bell mewn cymdeithas ôl-Covid, ac mae’n amserol eu lledaenu cyn i arferion cyn-Covid gael eu hailsefydlu a’u cadarnhau’n llwyr.”