Mae CND Cymru wedi condemnio Llywodraeth San Steffan am gyflenwi bwledi Wraniwm wedi’i Ddihysbyddu i Wcráin.

Bydd y bwledi Wraniwm wedi’i Ddihysbyddu (WD), sy’n cael eu galw’n CHARM3, yn cael eu cyflenwi ochr yn ochr â thanciau Challenger 2.

Mae Wraniwm wedi’i Ddihysbyddu’n sgil-gynnyrch y broses trin wraniwm sy’n cael ei defnyddio er mwyn creu arfau niwclear.

Er bod y bwledi’n cadw rhai priodoleddau ymbelydrol, dydyn nhw methu creu adwaith niwclear fel y byddai arf niwclear yn ei greu.

Fodd bynnag, dangosa’r dystiolaeth bod defnyddio bwledi Wraniwm wedi’i Ddihysbyddu yn cael effaith negyddol ar iechyd y rhai sy’n aros yn yr ardal wedyn, ac mae risgiau amgylcheddol ynghlwm â nhw hefyd.

Cafodd bwledi o’r fath eu datblygu gan yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn y 1970au, a chael eu defnyddio am y tro cyntaf yn Rhyfel y Gwlff yn 1991.

Mae lluoedd Rwsia wedi bod yn defnyddio rowndiau o Wraniwm wedi’i Ddihysbyddu yn ystod eu hymosodiad yn erbyn Wcráin, ac mae CND Cymru, sy’n ymgyrchu dros ddiarfogi niwclear yng Nghymru, yn eu condemnio hwythau hefyd.

‘Anghyfrifol iawn’

Ychwanega’r mudiad bod defnydd parhaus o arfau sydd â pherthynas agos â rhai niwclear, ynghyd â’r ffaith bod pwerdai niwclear yn cael eu defnyddio fel targedau milwrol yn ystod y rhyfel, yn dangos yr angen dros ddod â’r ymosodiad i ben.

Dyweda Brian Jones, Is-gadeirydd CND Cymru, ei bod hi’n hysbys “ers tro” bod yr arfau hyn yn achosi peryglon amgylcheddol ac iechyd.

“Mae eu cyflenwi i wlad a fydd yn gorfod dioddef effeithiau’r arfau hyn am flynyddoedd i ddod yn anghyfrifol iawn,” meddai.

“Dyma enghraifft arall eto o fywydau pobl gyffredin Rwsia a Wcráin, a’r amgylchedd ei hun, yn cael eu haberthu ar allor gemau pŵer rhyngwladol.”

Mae CND Cymri’n mynd ati i chwilio am ffyrdd o helpu i leihau’r difrod i bobol a’r blaned, meddai Dr Bethan Sian, Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru.

“Rydym bob amser yn chwilio am bobol sy’n barod i’n helpu yn y maes hwn, a llawer o feysydd eraill.”