Roedd gwyddonydd newid hinsawdd, a dreuliodd y Nadolig yn Antarctica fel rhan o’i gwaith maes, yn benderfynol o ddal ati i ddysgu Cymraeg ynghanol yr eira a’r iâ.

Er gwaethaf y diffyg cyswllt rhyngrwyd, roedd Dr Katie Miles yn awyddus i ymarfer yr iaith pan fu’n gweithio am wyth wythnos yng ngorsaf ymchwil Rothera ac ar silff rew C ar Benrhyn Antartica.

Yn wreiddiol o Lundain, ond bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd y gwyddonydd yn rhan o brosiect fu’n edrych ar y modd mae’r rhew yn toddi ac yn cyfrannu at lefelau’r môr yn codi.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2020, gan fynychu dosbarthiadau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ddwywaith yr wythnos.

Y daith i’r Antarctica

Yn ystod ei chyfnod yn yr Antarctica, bu’n defnyddio Duolingo i ddysgu, ac roedd hi wedi gallu lawrlwytho Podlediad Pigion y Dysgwyr BBC Radio Cymru er mwyn gwrando arno yn y mannau mwyaf anghysbell.

Hwn oedd ei hymweliad cyntaf gyda’r Antartica, ond mae hi’n gobeithio mynd i Ddwyrain Antarctica i wneud ymchwil tebyg yn hwyrach eleni.

‘‘Cafodd y daith adref ar yr awyren ei hoedi achos roedd rhew difrifol yno, felly bu rhaid i ni dreulio Dydd Nadolig yn yr orsaf ymchwil,” meddai Katie Miles.

“Roeddwn i’n drist mod i’n methu bod adref gyda’r teulu, ond roedd pawb mor groesawgar.

“Mi wnes i sgïo yn y bore, canu carolau ar fwrdd llong RRS Sir David Attenborough, gweld pengwiniaid, a chael cinio Nadolig hyfryd gyda’r hwyr.”

‘Teimlad arbennig’

Penderfynodd Katie Miles ddysgu Cymraeg er mwyn gallu ei siarad gyda’i ffrindiau a’i chydweithwyr.

‘‘Roeddwn i i eisiau siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau, achos roedden nhw yn dueddol o siarad Saesneg tra roeddwn i yn eu cwmni.

“Roeddwn i hefyd eisiau defnyddio ychydig o Gymraeg wrth fy ngwaith, a dw i’n ceisio defnyddio’r iaith pan dw i’n gallu.

“Mae siarad gyda ffrindiau a chydweithwyr yn eu mamiaith a deall cymaint mwy o’m cwmpas wrth i fy Nghymraeg wella, yn deimlad arbennig.’’

Ers dychwelyd i Aberystwyth, mae Katie Miles yn manteisio ar bob cyfle posib i ymarfer ei Chymraeg gyda’i mentor, Caroline White.

‘‘Mae cyfarfod Caroline unwaith bob pythefnos wedi bod yn hwb mawr i mi.

“Rydyn ni’n ymarfer pethau o’r dosbarth, edrych dros bapurau arholiad, neu yn cael sgwrs.

“Mae hi mor gefnogol a bu o gymorth mawr wrth i mi baratoi ar gyfer fy arholiad Dysgu Cymraeg.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i Caroline am gynnig ei hamser ac am fy nghefnogi ar y siwrnai hon.’’